Ciwba

gwlad sofran yn Ynysoedd y Caribî

Gwlad sofran yn Ynysoedd y Caribî yw Gweriniaeth Ciwba (Sbaeneg: República de Cuba). Fe'i lleolir hi i'r de o'r Unol Daleithiau, i'r gorllewin o Haiti a'r Ynysoedd Turks a Caicos, i'r gogledd o Jamaica ac Ynysoedd Caiman ac i'r dwyrain o Fecsico. Ciwba yw'r ynys fwyaf ym Môr y Caribî. Y brifddinas yw La Habana (Havana).

Ciwba
ArwyddairFe Orchfygwn Angau neu Famwlad Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasLa Habana Edit this on Wikidata
Poblogaeth11,181,595, 10,985,974 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 10 Rhagfyr 1898 Edit this on Wikidata
AnthemEl Himno de Bayamo Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethManuel Marrero Cruz Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−05:00, America/Havana Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSanta Fe Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAmerica Ladin, America Sbaenig, y Caribî Edit this on Wikidata
Arwynebedd109,884 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Caribî, Gwlff Mecsico Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaUnol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau22°N 79.5°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Pwer y Bobl Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Ciwba Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethMiguel Díaz-Canel Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Ciwba Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethManuel Marrero Cruz Edit this on Wikidata
Map
Arianpeso (Ciwba), peso cyfnewidiol (Ciwba) Edit this on Wikidata
Canran y diwaith3 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.615 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.764 Edit this on Wikidata
La Habana
Santa Clara
Trinidad
Fulgencio Batista, 1938

Arwynebedd swyddogol Gweriniaeth Ciwba yw 109,884 km sg (42,426 mi sg) - heb y dyfroedd tiriogaethol. Prif y wlad, sy'n rhoi iddi ei henw, yw'r ynys fwyaf yng Nghiwba ac yn y Caribî, ac mae ganddi arwynebedd o 104,556 km sg. Mae'r Weriniaeth hefyd yn cynnwys Isla de la Juventud a sawl ynysfor (archipelago). Ciwba yw'r wlad ail fwyaf poblog yn y Caribî ar ôl Haiti, gyda 11,181,595 (2020),[1] 10,985,974 (2023)[2] o drigolion.[3]

Roedd pobl Ciboney Taíno'n byw yn y diriogaeth a elwir bellach yn Ciwba o'r 4edd mileniwm CC hyd at wladychu'r ynys gan Sbaen yn y 15g.[4] O'r 15fed ganrif, roedd yn wladfa, yn rhan o Sbaen hyd at Ryfel Sbaen-America 1898, pan feddiannwyd Ciwba gan yr Unol Daleithiau.

Fel gweriniaeth fregus, ym 1940 ceisiodd Ciwba gryfhau ei system ddemocrataidd, ond arweiniodd radicaleiddio gwleidyddol cynyddol ac ymryson cymdeithasol at coup ac unbennaeth ddilynol o dan Fulgencio Batista ym 1952.[5] Arweiniodd llygredd agored a gormes o dan reolaeth Batista at ei ddisodli yn Ionawr 1959 gan 'Fudiad 26 Gorffennaf', a sefydlwyd rheolaeth gomiwnyddol wedi hynny o dan arweinyddiaeth Fidel Castro.[6][7][8] Ers 1965, mae'r wladwriaeth wedi'i llywodraethu gan Blaid Gomiwnyddol Cuba . Roedd y wlad yn destun cynnen yn ystod y Rhyfel Oer rhwng yr Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau, a bu bron i ryfel niwclear ddechrau yn ystod Argyfwng Taflegrau Ciwba ym 1962. Mae Ciwba yn un o ychydig o wladwriaethau sosialaidd Marcsaidd-Leninaidd sy'n bodoli, lle mae rôl y Blaid Gomiwnyddol wedi'i hymgorffori yn y Cyfansoddiad. O dan Castro, roedd Ciwba'n ymwneud ag ystod eang o weithgareddau milwrol a dyngarol ledled Affrica ac Asia.[9]

Yn ddiwylliannol, mae Ciwba'n cael ei hystyried yn rhan o America Ladin.[10] Mae'n wlad aml-ethnig y mae ei phobl, gyda'i diwylliant a'i harferion yn deillio o sawl tarddiad, gan gynnwys pobloedd Taíno Ciboney, cyfnod hir o ddylanwad Sbaenaidd, caethwasaeth Affricanaidd a pherthynas agos â'r Undeb Sofietaidd yn y Rhyfel Oer.

Mae Ciwba yn aelod sefydlol o'r Cenhedloedd Unedig, y G77, y Mudiad Heb Aliniad, Sefydliadau Gwledydd Affrica, Caribïaidd a Môr Tawel, ALBA a Sefydliad Gwledydd America. Yn y 2020au roedd ganddi un o unig economïau dan gynllun y byd, ac mae'r diwydiant twristiaeth ac allforion llafur medrus, siwgr, baco a choffi yn dominyddu ei heconomi. Yn hanesyddol mae Ciwba wedi perfformio'n well na gwledydd eraill y rhanbarth ar sawl dangosydd economaidd-gymdeithasol, megis llythrennedd,[11][12] marwolaethau babanod isel a disgwyliad oes uchel.[13][14]

Mae gan Giwba drefn awdurdodaidd un blaid lle na chaniateir gwrthwynebiad gwleidyddol.[15][16][17] Ceir etholiadau yng Nghiwba ond nid ydyn nhw'n ddemocrataidd.[18][19] Dywedir bod sensoriaeth gwybodaeth (gan gynnwys cyfyngiadau i'r rhyngrwyd) yn helaeth,[20][21] ac mae newyddiaduraeth annibynnol i raddau'n n cael ei hatal yng Nghiwba.[22] Mae Gohebwyr Heb Ffiniau wedi enwi Ciwba fel un o'r gwledydd gwaethaf yn y byd dros ryddid y wasg.[23][24]

Mae'r rhan fwyaf o economi Ciwba yn dibynnu ar daliadau.

Geirdarddiad golygu

Cred haneswyr bod yr enw Ciwba yn dod o'r iaith Taíno, fodd bynnag "nid yw ei union darddiad yn anhysbys".[25] Mae'n fwy na phosib ei fod yn golygu 'lle'r tir ffrwythlon, toreithiog' (sef cubao),[26] neu 'le gwych' (coabana).

Hanes golygu

Ceir pedwar cyfnod yn hanes Ciwba. Y cyntaf yw'r cyn-drefedigaethol tra oedd yr ynys yn perthyn i bobl Amerindiaid sef y Taíno a'r Ciboney. Yr ail gyfnod yw'r Giwba drefedigaethol, a ddechreuwyd ym 1492, efo dyfodiad Christopher Columbus arosodd yn goloni Sbaen, tan y rhyfel efo UDA y Rhyfel Sbaenaidd–Americanaidd ym 1898. Y trydydd cyfnod yw Gweriniaeth Ciwba, daeth annibyniaeth o ryw fath yn 1902, ond roedd milwyr UDA yn bresennol o leiaf unwaith bob degawd. Y pedwerydd cyfnod yw ers Chwyldro Ciwba ym 1959 a arweinwyd gan Fidel Castro pan ddaeth Ciwba yn weriniaeth sosialaidd.

Ciwba gyn-drefedigaethol golygu

Ciwba drefedigaethol golygu

1400au golygu

  • 1492 28 Hydref - Christopher Columbus yn glanio ar ddwyrain Ciwba.
  • 1494 Columbus yn hwylio heibio'r ynys.

1500au golygu

  • 1508 Sebastián de Ocampo yn hwylio rownd yr ynys i gyd. Felly yn dangos ei bod hi'n ynys.
  • 1510 Concwest o Giwba o ynys Hispaniola. (Haiti a'r Weriniaeth Dominican).
  • 1511 Diego Velázquez de Cuéllar yn sefydlu dref Baracoa.
  • 1512 Llosgi Hatuey arweinydd Indiaid (o Haiti yn wreiddiol).
  • 1514 Sefydlu Havana.
  • 1523 Ymerawdwr Siarl V yn cynnig 4,000 darn aur i hybu cynhyrchu cotwm.
  • 1527 Caethion Du cyntaf yn cyrraedd.
  • 1532 Gwrthryfel y Caethion Du cyntaf.
  • 1537 Ffrancwyr yn cipio Havana.
  • 1538 Ail wrthryfel y Caethion Du.
  • 1555 Ffrancwyr yn cipio a dinistrio Havana.
  • 1586 Y môrleidr Francis Drake yn glanio ger Cabo San Antonio
  • 1597 Cwblhau Castillo del Morro ger harbwr Havana.

1600au golygu

Twf araf mewn masnach, mae Hispaniolo yn dominyddu'r masnach Caribi. Twf dylanwad Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd yn y Caribi. Aur yn cael ei allforio i Sbaen o Dde America i gyd i fynd drwy Hafana - mewn Fflotila enfawr rhag y morleidr.

  • 1603 Cyfreithiau llym yn erbyn masnach tobaco â phobl tramor (Ffrainc a Lloegr).
  • 1607 Havana yn brifddinas Ciwba.
  • 1628 Iseldirwyr dan Piet Heyn yn dwyn tresor aur y "Morlu Sbaeneg" yn harbwr Havana
  • 1649 Pla yn lladd traean y boblogaeth.
  • 1662 Morlu Saesneg dan Christopher Myngs yn cipio Santiago de Ciwba a mynnu hawliau masnachol efo Jamaica
  • 1670 Sbaen yn ildio Jamaica i Loegr yn barhaol.

1700au golygu

Prydain yn ymyrru ar yr ynys ac yn dod a Florida i'r ymerodraeth Prydeinig. Dylanwad y chwyldro Americanaidd ar yr ynys.

1800au golygu

UDA yn ysgogi annibyniaeth a gwrthryfel yn yr ynys, Sbaen yn ildio Ciwba i'r UDA.

  • 1812 Juan Ruíz de Apodaca yn llwyodraethu Ciwba 1812-16.
  • 1843 Leopoldo O'Donnell, Dug Tetuan yn llwyodraethu Ciwba 1843-48.
  • 1844 Gwrthryfel y Caethion Du Blwyddyn y llach yn dod i ben wedi gorthrymu caled ar y boblogaeth ddu
  • 1853 28 Ionawr - Ganwyd José Julián Martí Pérez yn Havana.
  • 1868-78 Rhyfel annibyniaeth cyntaf Ciwba - yn para degawd cyfan
  • 1879 Awst - Ail rhyfel annibyniaeth sy'n dod i ben erbyn 1880.
  • 1886 Diwedd caethwasiaeth yng Nghiwba
  • 1895 23 Chwefror - Gwrthryfel gwyn Ciwba dan José Martí a Máximo Gómez y Báez.
  • 1896 Gwrthryfel yn llwyddo ond Sbaen yn elwa o Winston Churchill - yn ymladd ar ei hochr hi.
  • 1898
    • 6 Mehefin - cipio Bai Guantánamo gan milwyr Americanaidd a Chiwbaidd fel rhan o'r Rhyfel Sbaen-America.
    • 10 Rhagfyr - Cytundeb Paris yn dod a'r Rhyfel Sbaen-America i ben gyda 'annibyniaeth' i Giwba.
  • 1899
    • 1 Ionawr - Sbaen yn idlio pwer i'r 'North American Military Governor', Cadfridog John Ruller Brooke.
    • 23 Rhagfyr - Leonard Wood yn Llywodraethwr dros dro'r UDA i Giwba

Gweriniaeth Ciwba golygu

1900au golygu

Chwyldro a'r Giwba Sosialaidd golygu

1950au golygu

  • 1952 Mawrth - Cadfridog Batista, yn cymryd grym unwaith eto.
  • 1953
  • 1954
    • Medi - Che Guevara yn cyrraedd o Ddinas Mecsico.
    • Tachwedd - Batista yn cael ei 'ethol' mewn etholliad un dyn.
  • 1955 Mai - Rhyddhau Fidel dan amnest gan Batista.
  • 1956
  • 1957
    • 13 Mawrth - Myfyrwyr yn ymosod ar Balas y Llywydd Havana.
    • 28 Mai - Castro yn cymryd El Uvero.
    • 5 Medi - Gwrthryfel gan y llynges yn Cienfuegos ond Batista yn dal ei rym.
  • 1958
    • Chwefror - Raúl Castro yn dechrau rhyfel gwrila yn y Sierra de Cristal.
    • 13 Mawrth - UDA yn atal cyflenwi milwyr Batista.
    • 9 Ebrill - Streic Cyffredinol
    • Mai - Batista syn anfon 10,000 i'r Sierra Maestra rhag Castro 300, Castro yn colli.
    • Tachwedd - Castro yn ennill dref Guisa ac wedyn talaith Oriente.
    • Rhagfyr - Guevara, William Alexander Morgan yn ymosod ar Santa Clara ac ennill
    • 31 Rhagfyr - Camilo Cienfuegos yn ennill Yaguajay, a Huber Matos yn cymryd Santiago dros Castro
  • 1959

1960au golygu

  • 1960
    • 17 Mawrth - Dwight Eisenhower yn gofyn i'r CIA hyfforddu milwyr Ciwba ar gyfer ymosod ar Giwba.
    • 5 Gorffennaf - Gwladoli holl eiddio UDA.
    • 19 Hydref - Embargo UDA rhag Ciwba yn dechrau.
    • 26 Rhagfyr - Operation Peter Pan yn cymryd 14,000 o blant o Giwba i'r UDA.
  • 1961
    • 1 Ionawr - Y cynllun llythrenedd.
    • 15 Ebrill - glaniad Bay of Pigs yn methiant i'r gwrth-gomiwnyddwyr
    • Embargo llawn UDA ar Giwba.
  • 1962
    • 17 Awst - Central Intelligence Agency yn awgrymu bod yr Undeb Sofietaidd yn adeiladu bas taflegrau yng Nghiwba.
    • 29 Awst - John F. Kennedy yn dweud: "I'm not for invading Cuba at this time... an action like that... could lead to very serious consequences for many people."
    • 16 Hydref - McGeorge Bundy yn dweud wrth President Kennedy bod "Soviet medium-range ballistic missiles are in Ciwba".
    • 23 Hydref - Blocâd môr ac awyr a bygythiad ymosod niwclear gan UDA, tasai taflegrau yn dod o Giwba.
    • 28 Hydref - Khrushchev yn cytuno gwaredu'r taflegrau o Giwba a'r UDA yn cytuno nid i oresgyn Ciwba.
    • 21 Tachwedd - diwedd y blocâd.
  • 1967
  • 1968
    • Mawrth - cau bob bar yn Nghiwba.

1970au golygu

  • 1972 Ciwba yn aelod o COMECO.
  • 1975 Yr Undeb Sofietaidd yn anfon milwyr Ciwba i Angola.
  • 1976 2 Rhagfyr - Fidel Castro yn Arlywydd Ciwba.
  • 1977 May - 50 milwyr cyntaf Ciwba yn cyrraedd Ethiopia, bydd 12,00 yno yn y diwedd.

1980au golygu

 
ffoaduriaid o Giwba Mariel Boat Lift 1980
  • 1980 Ebrill - Mariel Boat Lift. Llywodreth Ciwba yn caniatau pobl i adael - 125,000 yn ffoi i'r UDA
  • 1983 25 Hydref - UDA yn oresgyn Grenada a saethu yn erbyn milwyr o Giwba.
  • 1984 Ciwba yn lleihau milwyr yn Ethiopia i 3,000 o 12,000.
  • 1989 17 Medi - Milwyr Ciwba yn gadael Ethiopia.

1990au golygu

  • 1990 23 Mawrth - UDA yn caniatáu sianel teledu gwrth-gomiwnyddol TV Marti
  • 1991
  • 1992 Gorffennaf - etholiadau uniongyrchol dan ddylanwad Ewrop.
  • 1993 6 Tachwedd - Caniatáu buddsoddi preifat.
  • 1996 12 Mawrth - Yr Helms-Burton Act, yn ymestyn embargo UDA i gwmniau tu allan i'r UDA e.e. rhai yn Ewrop.
  • 1998 21 Ionawr - Pab John Paul II yn ymweld â Chiwba.
  • 1999 5 Tachwedd - bachgen 6 oed Elián González yn dod i'r lan ar y Straits of Florida ac yn dod yn ganolbwynt y rhyfel propaganda.

2000au golygu

  • 2000 14 Rhagfyr - Vladimir Putin yn ymweld â Chiwba a llofnodi cytundebau newydd.
  • 2002
    • Ionawr - Bas olaf Rwsia yng Nghiwba, yn Lourdes, yn cau.
    • 12 Mai - Cyn Llywydd UDA Jimmy Carter yn ymweld â Chiwba.
  • 2003 Ebrill - Arestio 78 ysgrifenwyr a gwleidyddion yng Nghiwba
  • 2004 8 Tachwedd - Banio'r US dollar, a threth 10% ar gyfnewid dollar-peso .
  • 2005 7 Gorffennaf - Corwynt Dennis yn lladd 16.
  • 2006 31 Gorffennaf - Raúl Castro yn Llywydd dros dro wedi salwch Fidel.
  • 2008 19 Chwefror - Fidel Castro yn cadarnhau ei ymddeoliad.

Cymru a Chiwba golygu

Cymdeithas Cymru Ciwba golygu

Grwp sy'n cefnogi pobl Ciwba ac ymgyrchu rhag ddylanwad UDA. Maen nhw'n rhan o ymgyrch byd eang i gefnogi Ciwba yn ymarferol. Maen nhw'n bresennol bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn weithgar iawn drwy Gymru. http://www.cymrucuba.co.uk/index[dolen marw]

Harri Morgan a Chiwba golygu

Roedd y llyngesydd Syr Henry Morgan, sef Harri Morgan yn y Gymraeg (tua 1635–1688), yn forwr, a oedd yn un o ffigyrau enwocaf y Caribi. Roedd yr enwocaf a mywaf llwyddiannus o'r preifatwyr o Gymru. Yn 1667, cafodd gomisiwn gan Modyford iddo ysbeilio arfordir deheuol Ciwba ac i ddal ysbeinwyr fel gwystlon o Giwba i amddiffyn Jamaica. Cyrhaeddodd Ciwba a 10 llong a 500 dyn, cymerodd ac ysbeiliodd Morgan ddinas Puerto Principe, Camaguey. Roedd y cynllun gwreiddiol i ymosod ar Hafana ond roedd hyn yn ormod. Gyrrodd stormydd ei llongau i'r lan yn y De, a dihangodd un o'r wystlon, felly cafodd dinasyddion Puerto Principe amser i ddianc efo'i trysor. Enillodd ddim ond 50,000 pieces of eight. Aethon nhw ymlaen i ysbeilio tref cyfoethocaf y Caribi wedyn sef Porto Bello a chasglu 200,000 'pieces of eight'.

Daearyddiaeth golygu

Demograffeg golygu

Yn ôl cyfrifiad diweddaraf, roedd y boblogaeth yn 11,181,595 (2020),[1] 10,985,974 (2023)[2],

 
Y Cadeirlan San Cristobal yn Hafana

Roedd mewnfudo ac allfudo enfawr yng Nghiwba. Cyn y 18g roedd y boblogaeth hanner du a hanner gwyn, ond yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg daeth mewnforio poblogaeth i weithio yn y diwyddiant siwgr a thobaco, caethion a rhyddion a'r rhan fwyaf yn bobl ddu o'r caribi ac affrica. Ond erbyn diwedd y ganrif a rhywfaint o annibyniaeth (dan hegemoni UDA a Phrydain) daeth mwy o ymsefydlwyr o Sbaen a'r Unol Daleithiau, yn nodweddiadol o'r Ynysoedd Dedwydd, Catalwnia, Andalucía, Galisia ac o hen drefedigaethau Sbaen i Giwba. Rhwng 1900 a 1930 daeth bron miliwn o Sbaen.

Trefi mwyaf golygu

Ieithoedd golygu

Sbaeneg yw iaith swyddogol Ciwba ac mae mwyafrif llethol y Ciwbaiaid yn ei siarad. Gelwir y Sbaeneg fel y'i siaredir yng Nghiwba yn "Sbaeneg Ciwba" ac mae'n fath o Sbaeneg Caribïaidd . Mae Lucumí, sef un o dafodieithoedd yr Yorubasef iaith Gorllewin Affrica, hefyd yn cael ei defnyddio fel iaith yr egwlys gan rai o'r Santería.[28][29] Creol Haiti yw'r ail iaith fwyaf llafar yng Nghiwba, ac mae'n cael ei siarad gan fewnfudwyr Haitiaidd a'u disgynyddion.[30] Ymhlith yr ieithoedd eraill a siaredir gan fewnfudwyr mae Galisieg a Chorseg.[31]

Addysg golygu

 
Prifysgol Havana, a sefydlwyd ym 1728

Sefydlwyd Prifysgol Havana ym 1728 a cheir llawer o golegau a phrifysgolion eraill hefyd. Ym 1957, ychydig cyn i Castro ddod i rym, roedd y gyfradd llythrennedd yn bedwerydd yn y rhanbarth - ar bron i 80% yn ôl y Cenhedloedd Unedig, yn uwch nag yn Sbaen.[32][33] Creodd Castro system a weithredir yn gyfan gwbl gan y wladwriaeth a gwaharddodd sefydliadau preifat.

 
Disgyblion ysgol

Mae presenoldeb ysgol yn orfodol o chwech oed i ddiwedd addysg uwchradd sylfaenol (fel arfer yn 15 oed), ac mae pob myfyriwr, waeth beth fo'u hoedran neu ryw, yn gwisgo gwisg ysgol gyda'r lliw sy'n dynodi lefel gradd. Mae addysg gynradd yn para am chwe blynedd, mae addysg uwchradd wedi'i rhannu'n addysg sylfaenol a chyn-brifysgol. Cyfradd llythrennedd Cuba yw 99.8 y cant[34][35] yw'r degfed uchaf yn fyd-eang, yn bennaf oherwydd darparu addysg am ddim ar bob lefel.[36] Mewn cymhariaeth, cyfradd Llythrennedd y Deyrnas Gyfunol yw 99%.[37] Cyfradd graddio ysgolion uwchradd Cuba yw 94%.

Mae Gweinyddiaeth Addysg Uwch Ciwba'n gweithredu rhaglen addysg o bell sy'n darparu cyrsiau prynhawn a nos rheolaidd mewn ardaloedd gwledig i weithwyr amaethyddol ayb. Mae gan addysg bwyslais gwleidyddol ac ideolegol cryf, a disgwylir i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen i addysg uwch fod ag ymrwymiad i nodau ac amcanion y genedl. Mae Ciwba wedi darparu addysg â chymhorthdal y wladwriaeth i nifer gyfyngedig o wladolion tramor yn Ysgol Feddygaeth America Ladin.[38][39]

Iechyd golygu

 
Ysbyty Mariscal Antonio Jose de Sucre

Ar ôl y chwyldro, sefydlodd Cuba system iechyd cyhoeddus am ddim.[40]

Disgwyliad oes Ciwba adeg genedigaeth yw 79.2 mlynedd (76.8 ar gyfer dynion ac 81.7 ar gyfer menywod). Mae hyn yn rhoi safle Ciwba yn 59fed uchaf yn y byd a'r 5ed yn yr America, y tu ôl i Ganada, Tsile, Costa Rica a'r Unol Daleithiau.[41] Gostyngodd marwolaethau babanod o 32 marwolaeth babanod fesul 1,000 o enedigaethau byw ym 1957, i ddim ond 5.13 yn 2009.[42][43]

Yn hanesyddol, mae gan Ciwba nifer uchel o bersonél meddygol ac wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i iechyd y byd ers y 19g.[32] Heddiw, mae gan Giwba ofal iechyd cyffredinol (universal health care) ac er gwaethaf prinder parhaus o gyflenwadau meddygol (meddygyniaethau, offer ayb), nid oes prinder personél meddygol.[44] Mae gofal sylfaenol ar gael ledled yr ynys ac mae cyfraddau marwolaethau babanod a mamau yn cymharu'n ffafriol â'r rhai mewn gwledydd datblygedig eraill.[44] Mae ymchwilwyr yn cyfeirio at genedl sy'n datblygu fel Ciwba â chanlyniadau iechyd sy'n cystadlu â'r byd datblygedig fel Paradocs Iechyd Ciwba.[45] Mae hi'n 30fed ar Fynegai Gwledydd Iach Bloomberg 2019, sef yr unig wlad sy'n datblygu i raddio'n uchel.[46]

Ymhlith yr heriau mae cyflogau isel i feddygon,[47] cyfleusterau gwael, darpariaeth wael o offer, ac absenoldeb cyffuriau hanfodol yn aml.[48]

Mae gan Ciwba y gymhareb meddyg-i-boblogaeth uchaf yn y byd ac mae wedi anfon miloedd o feddygon i fwy na 40 o wledydd ledled y byd.[49] Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae Cuba "yn adnabyddus ledled y byd am ei allu i hyfforddi meddygon a nyrsys rhagorol a all wedyn fynd allan i helpu gwledydd eraill mewn angen".[50]

Yn y 2020au, roedd tua 50,000 o weithwyr gofal iechyd wedi'u hyfforddi yng Nghiwba yn cynorthwyo 66 o genhedloedd. Mae meddygon o Giwba wedi chwarae rhan flaenllaw yn brwydro yn erbyn epidemig firws Ebola yng Ngorllewin Affrica.[51] Mae meddygaeth ataliol yn bwysig iawn o fewn system feddygol Ciwba, sy'n ei gwneud hi'n hawdd i ddinasyddion gael ymweliadau iechyd rheolaidd.[40]

Yn 2015, Ciwba oedd y wlad gyntaf i ddileu trosglwyddiad HIV a syffilis mam-i-blentyn[52] carreg filltir a nodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd fel "un o'r cyflawniadau iechyd cyhoeddus mwyaf".[53]

Bwydydd golygu

 
Pryd traddodiadol o ropa vieja (stêc ystlys wedi'i falu mewn saws tomato), ffa du, reis melyn, llyriad ac yuca wedi'i ffrio gyda chwrw

Cyfuniad o fwydydd Sbaen a'r Caribi yw bwyd Ciwba, ar y cyfan. Mae ryseitiau Ciwba'n drwm o sbeisys a thechnegau coginio Sbaenaidd, gyda rhywfaint o ddylanwad Caribïaidd mewn sbeis a blas. Mae dogni bwyd, sydd wedi bod yn norm yng Nghiwba am y pedwar degawd diwethaf, yn cyfyngu ar argaeledd y prydau hyn.[54] Nid yw'r pryd traddodiadol o Giwba yn cael ei weini mewn cyrsiau; mae'r holl eitemau bwyd yn cael eu gweini ar yr un pryd.

Mae'r pryd nodweddiadol yn cynnwys llyriad (plantains), ffa du a reis, ropa vieja (cig eidion wedi'i falu), bara Ciwba, porc gyda nionod, a ffrwythau trofannol. Mae ffa du a reis, y cyfeirir atynt fel moros y cristianos (neu moros yn fyr), a llyriad yn rhan bwysig o ddeiet Ciwba. Ceir llawer o'r seigiau cig wedi'u coginio'n araf gyda sawsiau ysgafn. Dail garlleg, cwmin, oregano a dail bae yw'r prif sbeisys.[13][14]

Llenyddiaeth golygu

Dechreuodd llenyddiaeth Ciwba ddod o hyd i'w lais ei hun ar ddechrau'r 19g. Dyluniwyd themâu amlycaf annibyniaeth a rhyddid gan José Martí, a arweiniodd y mudiad Modernaidd yn llenyddiaeth Ciwba. Canolbwyntiodd awduron fel Nicolás Guillén a José Z. Tallet ar lenyddiaeth fel protest gymdeithasol. Mae barddoniaeth a nofelau Dulce María Loynaz a José Lezama Lima wedi bod yn ddylanwadol ac mae'r Rhamantaidd Miguel Barnet, a ysgrifennodd Everyone Dreamed of Cuba, yn adlewyrchu Ciwba mwy lleddf a hiraethus.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 http://www.onei.gob.cu/node/13815.
  2. 2.0 2.1 https://www.cia.gov/the-world-factbook/countries/cuba/summaries/#people-and-society.
  3. "Cuba profile: Facts". BBC News. Cyrchwyd 26 Mawrth 2013.
  4. Allaire, p. 678
  5. "Remarks of Senator John F. Kennedy at Democratic Dinner, Cincinnati, Ohio". John F. Kennedy Presidential Library & Museum – Jfklibrary.org. 6 Hydref 1960. Cyrchwyd 14 Chwefror 2017.
  6. "Fidel Castro". Encyclopædia Britannica. 26 Mehefin 2017. Castro created a one-party government to exercise dictatorial control over all aspects of Cuba's political, economic, and cultural life. All political dissent and opposition were ruthlessly suppressed
  7. Fernández, Gonzalo (2009). Cuba's Primer – Castro's Earring Economy. ISBN 9780557065738. The number of individuals who have been jailed or deprived of their freedom in labor camps over the 50 years of Castro's dictatorship is estimated at around 200,000
  8. "Fidel Castro – Cuba's hero and dictator". Deutsche Welle. 26 Tachwedd 2016.
  9. Parameters: Journal of the US Army War College. U.S. Army War College. 1977. t. 13.
  10. Rangel, Carlos (1977). The Latin Americans: Their Love-Hate Relationship with the United States. New York: Harcourt Brace Jovanovich. tt. 3–5. ISBN 978-0-15-148795-0.
  11. "Pre-Castro Cuba | American Experience | PBS". www.pbs.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-20.
  12. Washington, District of Columbia 1100 Connecticut Ave NW Suite 1300B; Dc 20036. "PolitiFact - Fact-checking Bernie Sanders' claim on Cuba literacy under Castro". @politifact (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-07-20.
  13. 13.0 13.1 Geloso, Vincent; Pavlik, Jamie Bologna (2021-04-01). "The Cuban revolution and infant mortality: A synthetic control approach" (yn en). Explorations in Economic History 80: 101376. doi:10.1016/j.eeh.2020.101376. ISSN 0014-4983. https://www.sciencedirect.com/science/article/abs/pii/S0014498320300784.
  14. 14.0 14.1 "Justin Trudeau's claim that Castro made 'significant improvements' to Cuban health care and education". Washington Post. Cyrchwyd 2017-08-19.
  15. Levitsky, Steven; Way, Lucan A. (2010-08-16). Competitive Authoritarianism: Hybrid Regimes after the Cold War (yn Saesneg). Cambridge University Press. tt. 361–363. ISBN 978-1-139-49148-8.
  16. Lachapelle, Jean; Levitsky, Steven; Way, Lucan A.; Casey, Adam E. (2020). "Social Revolution and Authoritarian Durability" (yn en). World Politics 72 (4): 557–600. doi:10.1017/S0043887120000106. ISSN 0043-8871. https://www.cambridge.org/core/journals/world-politics/article/abs/social-revolution-and-authoritarian-durability/B62A931E63978E8B8466225EC123D2A9.
  17. Hawkins, Darren (2001). "Democratization Theory and Nontransitions: Insights from Cuba". Comparative Politics 33 (4): 441–461. doi:10.2307/422443. ISSN 0010-4159. JSTOR 422443. https://www.jstor.org/stable/422443.
  18. Galvis, Ángela Fonseca; Superti, Chiara (2019-10-03). "Who wins the most when everybody wins? Predicting candidate performance in an authoritarian election". Democratization 26 (7): 1278–1298. doi:10.1080/13510347.2019.1629420. ISSN 1351-0347. https://doi.org/10.1080/13510347.2019.1629420.
  19. Domínguez, Jorge I.; Galvis, Ángela Fonseca; Superti, Chiara (2017). "Authoritarian Regimes and Their Permitted Oppositions: Election Day Outcomes in Cuba" (yn en). Latin American Politics and Society 59 (2): 27–52. doi:10.1111/laps.12017. ISSN 1531-426X. https://www.cambridge.org/core/journals/latin-american-politics-and-society/article/abs/authoritarian-regimes-and-their-permitted-oppositions-election-day-outcomes-in-cuba/3F9E5B1A4EB059A316A9AB2BB0628216.
  20. Impediments to Human rights in Cuban Law (Part III). Human Rights Watch. June 1999. ISBN 1-56432-234-3. Cyrchwyd 7 Awst 2012.
  21. Moynihan, Michael C. (22 Chwefror 2008). "Still Stuck on Castro - How the press handled a tyrant's farewell". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Medi 2012. Cyrchwyd 25 Mawrth 2009.
  22. "62nd General Assembly Reports: Cuba". Inter American Press Association. 3 Hydref 2006. Cyrchwyd 6 Awst 2012.
  23. "Press Freedom Index 2015" Archifwyd 2015-08-27 yn y Peiriant Wayback., Reporters Without Borders.
  24. "Press Freedom Index 2008" (PDF). Reporters Without Borders. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2009-03-03.
  25. "Cuba – Cultural institutions | history – geography". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). t. 11. Cyrchwyd 18 Awst 2017.
  26. "Alfred Carrada – The Dictionary Of The Taino Language". alfredcarrada.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Chwefror 2009.
  27. http://citypopulation.de/en/cuba/cities/
  28. George Brandon (1 Mawrth 1997). Santeria from Africa to the New World. Indiana University Press. t. 56. ISBN 978-0-253-21114-9. lucumi language.
  29. "Lucumi: A Language of Cuba (Ethnologue)". Cyrchwyd 10 Mawrth 2010.
  30. "Cuban Creole choir brings solace to Haiti's children". BBC News. Cyrchwyd 10 Mawrth 2010.
  31. "Languages of Cuba". Cyrchwyd 31 Hydref 2010.
  32. 32.0 32.1 Smith & Llorens 1998.
  33. "Still Stuck on Castro – How the press handled a tyrant's farewell". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Medi 2012. Cyrchwyd 24 Mawrth 2009.
  34. "Cuba". The World Factbook. CIA. Cyrchwyd 6 April 2009.
  35. "unstats – Millennium Indicators". Mdgs.un.org. 23 Mehefin 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-21. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2010.
  36. "Latin lessons: What can we Learn from the World's most Ambitious Literacy Campaign?". The Independent. 7 Tachwedd 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-18. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2013.
  37. aneki.com; adalwyd 3 Awst 2021.
  38. "Students graduate from Cuban school – Americas – NBC News". NBC News. 25 Gorffennaf 2007. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2010.
  39. "Cuba-trained US doctors graduate". BBC News. 25 Gorffennaf 2007. Cyrchwyd 7 Medi 2009.
  40. 40.0 40.1 "Justin Trudeau's claim that Castro made 'significant improvements' to Cuban health care and education". Washington Post. Cyrchwyd 2017-08-19."Justin Trudeau's claim that Castro made 'significant improvements' to Cuban health care and education".
  41. Central America :: Cuba — The World Factbook – Central Intelligence Agency, https://www.cia.gov/the-world-factbook/countries/cuba/, adalwyd 8 Mehefin 2020
  42. "unstats – Millennium Indicators". Mdgs.un.org. 23 Mehefin 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-21. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2010."unstats – Millennium Indicators" Archifwyd 2012-01-21 yn y Peiriant Wayback..
  43. "Cuba". The World Factbook. CIA. Cyrchwyd 6 April 2009."Cuba".
  44. 44.0 44.1 Whiteford & Branch 2008
  45. Frist, Bill (8 Mehefin 2015). "Cuba's Most Valuable Export: Its Healthcare Expertise". Forbes. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2018.
  46. Miller, Lee J; Lu, Wei (24 Chwefror 2019). "These Are the World's Healthiest Nations". Bloomberg. Cyrchwyd 16 Mawrth 2019.
  47. Editorial (16 Mai 2015). "Be more libre". economist.com. Cyrchwyd 20 Mai 2015.
  48. The Committee Office, House of Commons (28 Mawrth 2001). "Cuban Health Care Systems and its implications for the NHS Plan". Select Committee on Health. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Awst 2013. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2013.
  49. Breier & Wildschut 2007.
  50. "Cuban medical team heading for Sierra Leone". World Health Organisation. 14 Medi 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Medi 2014. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2021.
  51. Alexandra Sifferlin (5 Tachwedd 2014).
  52. "WHO validates elimination of mother-to-child transmission of HIV and syphilis in Cuba". WHO. 30 Mehefin 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-06. Cyrchwyd 30 Awst 2015.
  53. O'Carroll, Lisa (30 Mehefin 2015). "Cuba first to eliminate mother-to-baby HIV transmission". theguardian.com. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2015.
  54. Alvarez 2001.
  • Hugh Thomas Cuba or the Pursuit of Freedom (Da Capo Press, 1998)