Calonnau Cymru

elusen Gymreig

Elusen iechyd Gymreig yw Calonnau Cymru a sefydlwyd yn 2013 gan Sharon Owen. Enw'r elusen yn Saesneg yw Welsh Hearts. Sefydlwyd yr elusen er mwyn arbed bywydau pobl sydd yn dioddef o drawiad neu ataliad ar y galon mewn mannau cyhoeddus a heb fod mewn ysbyty.[1]

Calonnau Cymru
Enghraifft o'r canlynolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2013 Edit this on Wikidata

Nôd golygu

 
Pecyn Diffibriliad ar gael yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Darparu peiriant diffibrilwyr am ddim, cyfleus mewn mannau cyhoeddus ar draws Nghymru
Darparu hyfforddiant diffibriliwr a CPR am ddim i'r cyhoedd yng Nghymru
Sgrinio calonnau Cymru ar gyfer cyflyrau'r galon a allai fel arall fynd heb eu canfod
Sicrhau bod arian a godir yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio a'i ddosbarthu yng Nghymru ar brosiectau penodol sy'n ymwneud â'r galon

Hanes golygu

Sefydlwyd Calonna Cymru yn 2013 gan Sharon Owen, i helpu i achub bywydau pob sydd yn dioddef o anhwylderau neu trawiad ar y galon. Ysbrydolwyd Sharon i sefydlu'r elusen oherwydd yn dilyn archwiliad rheolaidd gyda meddyg teulu yn 11 oed, dywedwyd wrthi ei bod yn dioddef o nam ar y galon ("murmur calon").[2]

Mae pencadlys yr elusen yn Llandaf, Caerdydd.

Amcan golygu

Noda wefan Calonnau Cymru bod pob eiliad yn cyfrif pan fydd person yn dioddef trawiad neu fethiant y galon. Mae 8,000 o arest cardaidd sydyn (sudden cardiac arrests) yn digwydd y tu allan i ysbytai Cymru bob blwyddyn a dim ond cyfradd oroesi o 3% sydd. Gall teclyn diffibriliad ailgychwyn y galon yn ystod ataliad y galon, ac achub bywydau. Pan gaiff ei ddefnyddio, gall y gyfradd oroesi gynyddu i 50%, ond mae ymateb cyflym yn hanfodol. I'r diben yma mae Calonna Cymru yn anelu i ddarparu pecyn diffibliwr i bob rhan o Gymru gan gynnwys swyddfeydd, canolfannau siopa a hyd yn oed meysydd pêl-droed.[3]

Yn ogystal â prynu a darpadu offer ADP Diffibriliad mae'r mudiad hefyd yn hyfforddi unioglion ar sut i ddelio a gweithredu'r peiriant os bydd person yn dioddef o trawiad ar y galon neu fethiant y calon. Hyd at 2019 roedd Calonnau Cymru wedi hyffordd 52,797 person i ddefnyddio'r offer a lleoli 1,513 teclyn diffibriliad.[4] a gorsafoedd trên.[5]

Ymgyrchoedd golygu

Bydd yr elusen yn codi arian er mwyn prynu peiriant diffibliwr ac i hyfforddi unigolion. Mae'nt yn codi arian drwy ddigwyddiadau noddi megis dringo Pen-y-fan, tê parti dorfol a rhoddion unigol.[4]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-01. Cyrchwyd 2019-04-01.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-01. Cyrchwyd 2019-04-01.
  3. https://www.southwalesargus.co.uk/news/17301362.faw-and-welsh-hearts-team-up-to-donate-defibrillator-to-cwmbran-celtic/
  4. 4.0 4.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-01. Cyrchwyd 2019-04-01.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-01. Cyrchwyd 2019-04-01.
Chwiliwch am Calonnau Cymru
yn Wiciadur.