Chwaraeon cyswllt llawn Albanaidd ydy Camanachd neu Iomain (Saesneg: Shinty). Chwaraeir y gamp gyda ffon a phêl. Yn Ucheldiroedd yr Alban y dechreuodd y gêm, ac ucheldirwyr wedi symud i ddinasoedd yr Alban sy'n ei chwarae gan mwyaf ond tan yn ddiweddar arferid ei chwarae yn Lloegr a rhai gwledydd eraill ble gwelid mewnlifiad o Ucheldiroedd yr Alban.[1]

Chwarae camanachd.

Mae'r gêm yn perthyn i deulu campau hoci sy'n boblogaidd ar draws y byd mewn gwahanol ffurfiau. Mae'n debyg i hurling yn yr Iwerddon ac i'r gêm werin Bando a arferid ei chwarae yng Nghymru.

Cyfeiriadau golygu

  1. Shinty in England, pre-1893 Archifwyd 2009-09-01 yn y Peiriant Wayback., The Sports Historian, 19:2(1999), 43–60
  Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato