Cambourne

tref yn Swydd Gaergrawnt

Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, ydy Cambourne.[1] Saif tua 9 milltir (14 km) i'r gorllewin o ddinas Caergrawnt. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan De Swydd Gaergrawnt. Dyma'r anheddiad mwyaf yr ardal an-fetropolitan, ac mae ei phencadlys i'w gael yma. Rhennir y dref yn dri phentref, sef Great Cambourne, Lower Cambourne ac Upper Cambourne.

Cambourne
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal De Swydd Gaergrawnt
Sefydlwyd
  • 1998 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaergrawnt
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaKnapwell Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.21814°N 0.06956°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04001856, E04012746 Edit this on Wikidata
Cod OSTL318598 Edit this on Wikidata
Cod postCB23 Edit this on Wikidata
Map

Mae Cambourne yn anheddiad newydd a grëwyd o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan Cyngor Sir Swydd Gaergrawnt a thri chwmni adeiladu. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym Mehefin 1998 ar safle maes glas. Mae'r anheddiad yn dal i ehangu'n gyflym. Yng Nhyfridiad 2001 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,198; yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddo boblogaeth o 8,186; ac roedd ganddo boblogaeth o 10,390 yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[2] Yn wreiddiol fe'i dynodwyd yn bentref, ond ym Mawrth 2019 pleidleisiodd y cyngor plwyf i ddod yn gyngor tref.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 11 Gorffennaf 2020
  2. City Population; adalwyd 11 Gorffennaf 2020
  3. "Cambourne becomes a town comprised of villages", Cambridge Independent; adalwyd 12 Gorffennaf 2020


  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaergrawnt. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato