Peterborough
Dinas yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, yw Peterborough[1] (Cymraeg: Trebedr).[2] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn awdurdod unedol Dinas Peterborough. Saif ar Afon Nene, 119 km / 74 o filltiroedd i'r gogledd o Lundain.
Math | dinas, dinas fawr, ardal ddi-blwyf, tref newydd |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Peterborough |
Poblogaeth | 194,000 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaergrawnt (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 343 km² |
Gerllaw | Afon Nene |
Cyfesurynnau | 52.5725°N 0.2431°W |
Cod OS | TL185998 |
Cod post | PE |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Peterborough |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Peterborough boblogaeth o 161,707.[3]
Hanes
golyguTan 1888 gweinyddwyd Peterborough gan swyddogion y ddinas (Marcwis Caerwysg, ceidwad y rholiau, ynadon ac uchel feili a benodwyd gan ddeon a chapidwl yr eglwys gadeiriol) yn annibynnol o Swydd Northampton. Yn sgil Deddf Llywodraeth Leol 1888, gwnaethpwyd y Soke of Peterborough yn sir weinyddol ar ei phen ei hun. Roedd yn sir fechan o ran poblogaeth, felly fe'i hunwyd â Swydd Huntingdon yn 1965 i greu sir newydd Huntingdon and Peterborough. O 1974 tan 1998, pan grewyd yr awdurdod unedol Dinas Peterborough, roedd y ddinas yn cael ei gweinyddu fel rhan o Swydd Gaergrawnt, ac mae'n dal yn rhan o sir seremoniol Swydd Gaergrawnt.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Amgueddfa Peterborough
- Eglwys gadeiriol (gyda'r bedd Catrin o Aragon a bedd Mari I, brenhines yr Alban, cyn i'w mab ei symud i Abaty Westminster
- Flag Fen
- Guildhall
- Tŵr Longthorpe
Pobl o Beterborough
golygu- John Clare (1793-1864), bardd
- Henry Royce (1863-1933), peiriannydd
- Paul Nicholas (g. 1945), canwr ac actor
Gefeilldrefi
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 6 Gorffennaf 2020
- ↑ Geiriadur yr Academi, Peterborough
- ↑ City Population; adalwyd 12 Gorffennaf 2020
Dinasoedd
Caergrawnt ·
Ely ·
Peterborough
Trefi
Cambourne ·
Chatteris ·
Godmanchester ·
Huntingdon ·
March ·
Ramsey ·
Soham ·
St Ives ·
St Neots ·
Whittlesey ·
Wisbech