Swydd Gaergrawnt
Sir seremonïol a sir hanesyddol yn Nwyrain Lloegr yw Swydd Gaergrawnt (Saesneg: Cambridgeshire). Mae'r sir hanesyddol yn ffinio â Swydd Lincoln a Norfolk yn y gogledd, Suffolk yn y dwyrain, Essex yn y de-ddwyrain, a Swydd Northampton a Swydd Huntingdon yn y gorllewin. Caergrawnt yw'r dref sirol. Roedd Peterborough yn rhan o Swydd Gaergrawnt yn weinyddol o 1974 tan 1998, a hi oedd ei dinas fwyaf, ond bellach mae'n cael ei gweinyddu fel awdurdod unedol. Cafodd sir hanesyddol Caergrawnt ei huno gyda Swydd Huntingdon, a Peterborough sydd yn hanesyddol yn rhan o Swydd Northampton, yn weinyddol yn 1974 i ffurfio sir weinyddol o'r un enw ond yn fwy o faint o lawer.
Math | siroedd seremonïol Lloegr |
---|---|
Ardal weinyddol | Dwyrain Lloegr, Lloegr |
Prifddinas | Caergrawnt |
Poblogaeth | 859,830 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 3,389.6122 km² |
Yn ffinio gyda | Swydd Hertford, Essex, Swydd Lincoln, Norfolk, Suffolk, Swydd Bedford, Swydd Northampton |
Cyfesurynnau | 52.3°N 0.000000°E |
Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
golyguArdaloedd awdurdod lleol
golyguRhennir y sir yn bum ardal an-fetropolitan ac un awdurdod unedol:
- Dinas Caergrawnt
- Ardal De Swydd Gaergrawnt
- Huntingdonshire
- Ardal Fenland
- Ardal Dwyrain Swydd Gaergrawnt
- Dinas Peterborough – awdurdod unedol
Etholaethau seneddol
golyguRhennir y sir yn saith etholaeth seneddol yn San Steffan:
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Cyngor Sir
Dinasoedd
Caergrawnt ·
Ely ·
Peterborough
Trefi
Cambourne ·
Chatteris ·
Godmanchester ·
Huntingdon ·
March ·
Ramsey ·
Soham ·
St Ives ·
St Neots ·
Whittlesey ·
Wisbech