Camesgoriad yw marwolaeth embryo neu ffetws cyn iddo allu goroesi'n annibynnol.[1] Mae rhai yn defnyddio toriad o 20 wythnos o feichiogrwydd, ac ar ôl hynny gelwir marwolaeth y ffetws yn Marw-enedigaeth. Symptom mwyaf cyffredin camesgoriad yw gwaedu o'r wain gyda, neu heb, poen. Gellir ystyried camesgoriad mynych hefyd yn fath o anffrwythlondeb.

Camesgoriad
Enghraifft o'r canlynolclefyd, symptom neu arwydd, complications of pregnancy Edit this on Wikidata
Mathbeichiogrwydd gyda chanlyniad erthyl, reproductive system symptom Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gall tristwch, pryder ac euogrwydd ddigwydd ar ôl cam-esgor.[2][3]

Ymhlith y ffactorau risg ar gyfer cam-esgor mae bod yn rhiant hŷn, camesgoriad blaenorol, dod i gysylltiad â mwg tybaco, gordewdra, diabetes, problemau thyroid, a defnyddio cyffuriau neu alcohol. Mae tua 80% o gamesgoriadau yn digwydd yn ystod 12 wythnos gyntaf beichiogrwydd.[4]

Iechyd Meddwl golygu

I rai pobl, gall camesgoriad fod yn rhan o’r hyn sy’n achosi problem iechyd meddwl – neu gwneud problem sydd eisoes yn bodoli yn waeth. Efallai y cewch ddiagnosis (fel anhwylder straen wedi trawma) neu brofi symptomau sy’n gwneud bywyd yn anodd am amser hir.

Weithiau gall trawma eich colled achosi meddyliau ymwthiol, ôl-fflachiadau neu hunllefau. Weithiau, beth sy’n digwydd wedyn sy’n cyfrannu at broblemau iechyd meddwl. Mae llawer o bobl yn profi cyfuniad o’r pethau hyn.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Miscarriage". nhs.uk (yn Saesneg). 2018-03-06. Cyrchwyd 2022-03-05.
  2. 2.0 2.1 "Camesgoriad". meddwl.org. 2021-10-01. Cyrchwyd 2022-03-05.
  3. "What are the symptoms of pregnancy loss (before 20 weeks of pregnancy)?". NICHD (yn Saesneg). Cyrchwyd 5 Mawrth 2022.
  4. Obstetrics, The Johns Hopkins University School of Medicine Department of Gynecology and; Hurt, K. Joseph; Guile, Matthew W.; Bienstock, Jessica L.; Fox, Harold E.; Wallach, Edward E. (2012-03-28). The Johns Hopkins Manual of Gynecology and Obstetrics (yn Saesneg). Lippincott Williams & Wilkins. ISBN 978-1-4511-4801-5.