Surop coffi parod[1] â blas coffi a sicori yw Camp Coffee, a gynhyrchir yn yr Alban ers 1885. Fe'i gwneir yn wreiddiol ar gyfer milwyr Ucheldirwyr Gordon oedd ar ymgyrch yn India. Daw'r enw Camp o dalfyriad y gair Saesneg campaign, sef ymgyrch [filwrol]. Heddiw, y cwmni bwyd McCormick sy'n cynhyrchu Camp.

Camp Coffee
Enghraifft o'r canlynoldrink brand Edit this on Wikidata
Mathsurop, diod coffi Edit this on Wikidata
GwladYr Alban Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1876 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'n cynnwys siwgr, dŵr, rhinflas coffi a rhinflas sicori. Gan amlaf, fe'i cymysgir â llaeth i wneud diod boeth neu oer, neu ei roi mewn bwydydd melys megis teisenni, eisin, a losin.

Roedd hen label Camp yn portreadu milwr Albanaidd mewn cilt yn eistedd ac yn yfed Camp, tra yr oedd gwas Sicaidd yn gweini arno ac yn dal hambwrdd o ddiodydd. Cafodd yr hambwrdd ei dynnu o'r llun i geisio moderneiddio'r label, ond parhaodd cyhuddiadau o hiliaeth ac bod y label yn rhamanteiddio dyddiau'r Raj. Ar droad yr unfed ganrif ar hugain, bu rhai perchenogion siopau o dras Asiaidd ym Mhrydain yn gwrthod gwerthu Camp.[2] Yn 2006 newidiodd y label eto, ac bellach mae'r Sîc yn eistedd ac yn yfed hefyd.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Coffee essence recipes. BBC. Adalwyd ar 24 Awst 2012.
  2. (Saesneg) Coffee logo stirs racism row. BBC (1 Awst 1999). Adalwyd ar 24 Awst 2012.
  3. (Saesneg) Camp coffee forced to change label by the PC brigade. Daily Mail (11 Medi 2006). Adalwyd ar 24 Awst 2012.

Dolen allanol

golygu