Surop
Hylif trwchus a melys yw surop a wneir trwy hydoddi siwgr mewn dŵr berw. Yn y gegin caiff ei flasu â'i roi ar fwyd, yn enwedig pwdinau a bwydydd melys, neu ei ddefnyddio i gadw bwyd, gan amlaf ffrwythau. Weithiau defnyddir surop â moddion ynddo i drin peswch er enghraifft. Gall surop hefyd gyfeirio at sudd crynodedig ffrwyth neu blanhigyn.
Coginiaeth
golyguDaw suropau coginio gan amlaf o rawn, ffrwythau, neu sudd planhigion a choed. Gellir arllwys surop dros fwyd, yn enwedig suropau persawrus megis surop masarn, neu ei ddefnyddio fel cynhwysyn. Cynhwysyn melys yw surop a ddefnyddir gyda siwgr, neu yn ei le. Mewn cacen goch, er enghraifft, mae surop yn rhoi iddi ansawdd llaith a thrwchus. Mewn fflapjacs, mae surop yn pobi â siwgr, menyn a cheirch i greu cymysgedd sy'n debyg i doffi. Coginir fflapjacs am gyfnod byr i'w gwneud yn gnoadwy, neu'n hirach i'w gwneud yn galed.[1]
Gwneir triagl (neu driog) trwy goethi siwgr o'r gansen. Mae gan y surop trwchus a thywyll a elwir yn driagl du flas chwerw yn debyg i licris.[2] Ceir math arall o driagl, yn drwchus ond yn felyn-aur ei liw ac â blas melys iawn, o'r enw triagl melyn. Gellir ei arllwys dros fwydydd neu ei ddefnyddio mewn cymysgeddau teisenni a bisgedi, ac i wneud sawsiau megis menyn caramel.[3]
Daw surop corn o flawd corn, a chanddo flas sydd fymryn yn felys.[3] Cynhyrchir surop masarn yng Nghanada a gogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau trwy dapio'r fasarnen am ei sudd, a'i ferwi gan adael surop. Gwneir surop palmwydd, sy'n boblogaidd yn y Dwyrain Canol, India, a De America, drwy broses debyg. Rhoddir surop palmwydd mewn siytni yn ogystal â theisenni a bisgedi. Un o'r suropau mwyaf cyffredin a ddaw o rawn yw surop heiddfrag a gynhyrchir drwy fragu grawn haidd a'u berwi i greu'r surop tewychedig. Mae ganddo flas brag arbennig, ac fe'i gymysgir ag ysgytlaethau a diodydd poeth yn ogystal â bwydydd melys.[2]
Ceir hefyd "suropau bar" i wneud diodydd cymysg a choctels. Gwneir surop siwgr syml trwy hydoddi siwgr mewn dŵr (yn aml dwy ran o siwgr i un ran o ddŵr),[4] a'i ychwanegu at ddiodydd i'w melysu.[5] Surop di-alcoholig yw grenadin a wneir o bomgranad, ac fe'i ddefnyddir i liwio coctels a rhoi iddynt flas melys.[6][7]
Meddyginiaeth
golyguToddiad o siwgr, yn aml swcros, mewn dŵr a ddefnyddir i gludo moddion trwy'r geg yw surop meddyginiaethol.[8] Mae melysrwydd y hylif yn ei wneud yn haws i gleifion, yn enwedig plant, i lyncu'r moddion. Yn aml daw moddion dros y cownter i leddfu peswch ar ffurf surop, ond er ei fod yn boblogaidd iawn, nid oes tystiolaeth ddigonol bod y math hwn o feddyginiaeth yn effeithiol.[9]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 412.
- ↑ 2.0 2.1 Food Encyclopedia, t. 411.
- ↑ 3.0 3.1 Food Encyclopedia, t. 410.
- ↑ The Bartender's Book (Caerfaddon, Parragon, 2008), t. 77.
- ↑ Halley, Ned. The Wordsworth Ultimate Cocktail Book (Ware, Wordsworth, 1998), tt. 295–6.
- ↑ Halley, t. 293.
- ↑ The Bartender's Book, t. 61.
- ↑ (Saesneg) syrup. medical-dictionary.thefreedictionary.com. Adalwyd ar 27 Awst 2012.
- ↑ Smith SM, Schroeder K, Fahey T (2008). Smith, Susan M. ed. "Over-the-counter medications for acute cough in children and adults in ambulatory settings". Cochrane Database Syst Rev (1): CD001831. doi:10.1002/14651858.CD001831.pub3. PMID 18253996.