Sglein melys a wneir o siwgr a hylif megis dŵr neu laeth yw eisin sydd yn aml yn cynnwys cynhwysion megis menyn, gwynwy, caws hufen, neu gyflasynnau. Fe'i ddefnyddir i addurno bwydydd pob, megis teisenni neu fisgedi.

Teisenni bychain wedi'u haddurno gan blant gan ddefnyddio eisin hufen menyn

Gwneir siwgr eisin o'r gansen neu'r fetysen. Mae'n siwgr mân iawn sy'n hydoddi'n syth mewn dŵr.[1] Gan amlaf mae'n wyn, ond gellir ei liwio â lliwiad bwyd.

Ceir cyfeiriad ato yn y gân Pedair Oed a genir gan Rhys Meirion. Hen air arall amdano ydy siwgwr melys.

Cyfeiriadau golygu

  1. Good Housekeeping Food Encyclopedia (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 407.
  Eginyn erthygl sydd uchod am fwyd neu ddiod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.