Tref fechan 2,825 troedfedd i fyny yng ngogledd-ddwyrain Yuba County, Califfornia, yw Camptonville. Gorwedda ger Highway 49 rhwng Downieville a Nevada City, ar lan Afon Yuba.

Camptonville
Mathlle cyfrifiad-dynodedig Edit this on Wikidata
Poblogaeth158 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Cefnfor Tawel, UTC−07:00, UTC−08:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYuba County Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd2.211388 km², 2.263034 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,825 troedfedd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNevada City Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.4519°N 121.0486°W Edit this on Wikidata
Cod post95922 Edit this on Wikidata
Map

Daeth yn un o ganolfannau "Gold Rush" Califfornia lle arhosai teithwyr yn disgyn o Fwlch Donner. Tyfodd i fod yn dref fywiog gyda hanner cant o dafarnau (saloons) a nifer o buteindai. Ond ar ôl y Gold Rush dirywiodd yn gyflym. Erbyn heddiw dim ond cymuned fechan sy'n byw yno ac mae adfeilion yr hen adeiladau yn gorwedd yng nghanol pinwydd ponderosa.

Mae gan Camptonville le pwysig yn hanes Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Yn 1856, ffurfiwyd cymdeithas yn Camptonville i geisio sefydlu gwladfa Gymreig. Yma, i bob golwg, y soniwyd gyntaf am Patagonia fel lleoliad posibl i'r Wladfa honno. Gyrrwyd llythyrau i bapurau Cymraeg i ofyn am gefnogaeth, a threfnodd Michael D. Jones trwy drefnu cyfarfod cyhoeddus yn Y Bala, lle ffurfiwyd cymdeithas arall.

Dolenni allanol golygu