Rhanbarth yn nwyrain Canada yw Canada'r Iwerydd neu Daleithiau'r Iwerydd sydd yn cynnwys y pedair talaith sydd yn ffinio â Chefnfor yr Iwerydd, ac eithrio Québec, sef Newfoundland a Labrador, a Thaleithiau'r Arfordir: New Brunswick, Prince Edward Island, a Nova Scotia.[1] Fel rheol ni chynhwysir Québec gyfan yn un o daleithiau'r Iwerydd, er weithiau gellir ystyried gorynys Gaspé yn rhan o Ganada'r Iwerydd.

Canada'r Iwerydd
Mathrhanbarth Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1949 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCanada Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd500,531 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47°N 62°W Edit this on Wikidata
Map
Map o Ganada'r Iwerydd (gwyrdd).

Hyd at 1949, yr oedd Newfoundland yn ddominiwn ar wahân i Ganada o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig. Roedd gan Daleithiau'r Arfordir hunaniaeth nodweddiadol yn debyg i'w gilydd, o ganlyniad i'w hanes. Bathwyd yr enw "Canada'r Iwerydd" gan Joey Smallwood, prif weinidog cyntaf Newfoundland, wedi i'r ynys honno ymuno â Dominiwn Canada yn 1949.

Mae nifer o drigolion Taleithiau'r Arfordir o blaid Undeb yr Arfordir, hynny yw uno'r tair talaith, ond nid oes fawr o awydd yn yr Arfordir nac yn Newfoundland dros uno pedair talaith Canada'r Iwerydd yn un.[1][2]

Daearyddiaeth ac hinsawdd

golygu

Tirwedd hardd ac amrywiol sydd gan Ganada'r Iwerydd, gan gynnwys coedwigoedd pinwydd, bryniau, iseldiroedd ffrwythlon, arfordiroedd cilfachog, a chlogwyni creigiog. Yn y gaeaf mae'r arfordiroedd yn wlyb ac yn oer iawn, yn niwlog ac yn stormus, ac mae'r tywydd yn fwyn ac yn braf yn yr haf. Mae'r ardaloedd mewndirol yn sych ac yn cael cwymp eira uchel yn y gaeaf.

Economi

golygu

Yn hanesyddol roedd y diwydiant mwydion a phapur yn bwysig yn yr ardal, a brodor o Nova Scotia oedd Charles Fenerty a ddyfeisiodd y broses o wneud papur o fwydion pren.

Yn yr 20g, gostyngodd twf economaidd yng Nghanada'r Iwerydd wrth i'r diwydiannau pysgota a choedwigaeth ddirywio. Yn yr 21g mae gobaith byddai llwyfannau olew a nwy ar y môr yn hwb i economi'r rhanbarth, yn enwedig ym maes olew Hibernia i dde-ddwyrain Newfoundland. Mae nifer fawr o oleudai yng Nghanada'r Iwerydd.

Porthladd prysuraf dwyrain Canada o ran masnach ydy Morffordd St Lawrence yn ne Québec, sy'n cysylltu'r Iwerydd â'r Llynnoedd Mawr, ac mae'n rhaid teithio trwy Gwlff St Lawrence yng Nghanada'r Iwerydd i hwylio o'r cefnfor i'r forffordd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Atlantic Provinces", The Canadian Encyclopedia. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2018.
  2. (Saesneg) "Maritime Union: is it time for a debate?", The Guardian (Charlottetown, 19 Mehefin 2010). Adalwyd ar 16 Tachwedd 2018.

Darllen pellach

golygu
  • Corey Slumkoski, Inventing Atlantic Canada: Regionalism and the Maritime Reaction to Newfoundland's Entry into Canadian Confederation (Toronto: University of Toronto Press, 2011).