Diwydiant mwydion a phapur

Y diwydiant sy'n ymwneud â throi planhigion prennaidd yn fwydion, papur, a phapurbord yw'r diwydiant mwydion a phapur. Gwneir papur trwy fathru pren yn seliwlos gan ddefnyddio naill ai ffrithiant neu gemegion. Yn ystod y broses hon, ceith gwared â'r gwastraff a'r dŵr gan adael papur.[1]

Gweithwraig yn bwydo peiriant i baratoi mwydion mewn melin bapur yn yr Alban ym 1918.
Paolo Monti, 1980

Hanes golygu

Gwnaed brwynbapur (papyrws) gan yr Hen Eifftiaid drwy osod stribynnau tenau o'r planhigyn papurfrwyn yn haenau ar onglau sgwâr i'w gilydd. Cychwynnodd y broses fodern o droi mwydion yn bapur yn Tsieina tua'r flwyddyn 105. Pan ddaeth y broses i Ewrop tua mil o flynyddoedd yn hwyrach defnyddiwyd crwyn anifeiliaid i wneud memrwn neu barsment. Oherwydd y pris uchel o ddefnyddio croen, gwnaed papur hefyd o ddefnyddiau megis cotwm a lliain. Yn nhreigl amser tyfodd lefelau llythrennedd a chylchrediad papurau newydd a chylchgronau, a sbardunwyd yr ymchwil am ddefnydd crai rhatach. Erbyn y 19g, pren oedd y dewis mwyaf boblogaidd. Yn Ewrop, a'r Almaen yn enwedig, datblygodd cynhyrchwyr papur beiriannau i dorri boncyffion yn fwydion ac i sychu a gwastadu'r mwydion gan ddefnyddio cyfres o roleri gwasgu, pob un yn fwy o faint ac yn gyflymach na'r un blaenorol. Gyda'r broses hon, cafodd nifer o fathau o fwydion a phapurau ei fasgynhyrchu, a'r rhataf oedd papur papur newydd. Trowyd mwydion yn gynnyrch hylendid personol newydd megis hancesi papur a phapur tŷ bach.[1]

Rhestr y prif gwmnïau yn ôl maint cynnyrch golygu

Dyma'r deg cwmni cynhyrchu papur a bord (P&B) mwyaf yn y byd yn 2012, yn ôl adroddiad blynyddol y cylchgrawn Pulp and Paper International (PPI):[2]

Safle Cwmni Gwlad Cynnyrch P&B
(1000 tunnell)
1 International Paper   Unol Daleithiau America 12,901
2 Oji Paper   Japan 10,721
3 UPM   Y Ffindir 10,700
4 Nine Dragons Paper Holdings   Tsieina 10,450
5 Stora Enso   Y Ffindir 10,268
6 RockTenn   Unol Daleithiau America 8,075
7 Sappi   De Affrica 7,705
8 Smurfit Kappa Group   Gweriniaeth Iwerddon 6,900
9 Mitsubishi Paper Mills   Japan 5,917
10 Nippon Paper   Japan 5,590

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Pulp and Paper Industry. The Canadian Encyclopedia. Adalwyd ar 12 Hydref 2014.
  2. (Saesneg) The PPI Top 100. Pulp and Paper International (Medi 2013). Adalwyd ar 12 Hydref 2014.