Québec (talaith)

Talaith fwyaf o ran tiriogaeth a'r ail o ran poblogaeth yng Nghanada yw Québec (Ffrangeg "Québec") neu yn Gymraeg Cwebéc.[1] Fe'i lleolir yn nwyrain Canada. I'r gorllewin mae talaith Ontario, Bae James a Bae Hudson; i'r gogledd mae Culfor Hudson a Bae Ungava; i'r dwyrain mae Gwlff St Lawrence a thaleithiau Newfoundland a Labrador a New Brunswick; ac i'r de mae'r Unol Daleithiau (taleithiau Efrog Newydd, New Hampshire, Vermont a Maine. Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw ar lannau Afon St Lawrence, ac mae ardaloedd gogleddol y dalaith yn denau eu poblogaeth.

Québec
ArwyddairJe me souviens Edit this on Wikidata
MathTalaith Canada Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlQuébec Edit this on Wikidata
FR-Québec.ogg Edit this on Wikidata
PrifddinasQuébec Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,501,833 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Gorffennaf 1867 (Constitution Act, 1867) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethFrançois Legault Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser y Dwyrain, Cylchfa Amser yr Iwerydd, UTC−04:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iShanghai, Kyoto Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCanada Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd1,542,056 km² Edit this on Wikidata
GerllawLlyn Champlain, Afon St Lawrence, Bae Hudson Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNew Hampshire, Maine, Brunswick Newydd, Newfoundland a Labrador, Efrog Newydd, Vermont, Ontario, Nunavut Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52°N 72°W Edit this on Wikidata
Cod postG, H, J Edit this on Wikidata
CA-QC Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of Quebec Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholLegislature of Quebec Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn Canada Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSiarl III Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Premier of Quebec Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethFrançois Legault Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)449,051 million C$ Edit this on Wikidata
Ariandoler Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.5708 Edit this on Wikidata

Québec yw'r unig dalaith yng Nghanada lle mae mwyafrif y boblogaeth (82%) yn siarad Ffrangeg fel mamiaith. Ffrangeg yw'r unig iaith swyddogol. Siaredir Saesneg fel mamiaith gan tuag 8% o'r boblogaeth gan fwyaf yn Montréal, dinas fwyaf poblog y dalaith, ac yn ardal Outaouais ar y ffin ag Ontario. Dinas Québec yw ei phrifddinas. Yn ôl y cyfreithiau iaith, mae'n rhaid i'r llythyrennau Ffrangeg ar arwyddion fod yn fwy na llythyrennau unrhyw iaith arall. [1] Mae hon yn achosi problemau i fwytai Tsieineaidd, achos bod rhaid i lythyrennau Tseineg fod yn eitha fawr i fod yn ddealladwy.

Astudiaeth feirniadol o dair gwlad – Québec, Catalunya a Chymru gan Paul W. Birt

Cyfeiriadau golygu

Taleithiau a thiriogaethau Canada  
Taleithiau: Alberta | British Columbia | Manitoba | New Brunswick | Nova Scotia | Ontario | Québec
Saskatchewan | Prince Edward Island | Newfoundland a Labrador
Tiriogaethau: Nunavut | Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin | Yukon