Cangues d'Onís
Ardal weinyddol (neu concejo) yng nghymuned ymreolaethol Astwrias yw Cangues d'Onís (Sbaeneg: Cangas de Onís). Prifddinas yr ardal hon yw tref o'r un enw. Hyd at 774, Cangas de Onís oedd prifddinas Teyrnas Astwrias, hefyd.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/49/Cangues_d_Onis_Asturies_map.svg/300px-Cangues_d_Onis_Asturies_map.svg.png)
Mae mwy na saith deg cilometr sgwâr o'r concejo yn rhan o Barc Cenedlaethol de los Picos de Europa. Yn y parc mae pentref Covadonga, lle bu Brwydr Covadonga oddeutu 722, y fuddugoliaeth fawr gyntaf gan fyddin milwrol, Cristnogol yn Iberia ar ôl y goncwest Islamaidd, yn nodi pwynt cychwyn y Reconquista.
Dyma'r fan lle codwyd yr eglwys gyntaf a adeiladwyd wedi'r goncwest, sef Santa Cruz de Cangas de Onis (737), a adeiladwyd ar gromlech hynafol.
Geirdarddiaad
golyguMae'n fwy na phosib i enw'r dref darddu o'r term Fisigotheg "kuningaz ðeowan is", sef "mae'r brenin yn absoliwt".
Plwyfi
golyguCeir 13 plwyf (neu Parroquies), oddi fewn i Cangues d'Onís:
- Abamia
- Cangues d'Onís
- Cuadonga
- Llabra
- Margolles
- Mestas de Con
- La Riera
- Samartín de Grazanes
- Triongu
- Villanueva
- Zardón
- ↑ "Asturias: población por municipios y sexo". Cyrchwyd 6 Ionawr 2018.