Roedd y Fisigothiaid (Gothiaid Gorllewinol) yn un o'r ddwy brif gangen o'r Gothiaid; yr Ostrogothiaid oedd y llall.

Fisigothiaid
Enghraifft o'r canlynolllwyth, grwp ethnig hanesyddol Edit this on Wikidata
MathGermaniaid, llwyth, Gothiaid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Symudiadau y Fisigothiaid ar draws Ewrop

Yn 410 cipiwyd Rhufain gan fyddin Fisigothaidd dan arweiniad eu brenin Alaric I. Wedi cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, yr oedd y Fisigothiaid yn un o bwerau mawr Ewrop am gyfnod o ddwy ganrif a hanner.

Rhwng 407 a 409 roedd y Fandaliaid, gyda chymorth yr Alaniaid, wedi concro rhan helaeth o Sbaen. Gofynnodd yr ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin, Honorius, am gymorth y Fisigothiaid i adennill y tiriogaeth, ac wedi iddynt lwyddo, rhoddodd diriogaeth iddynt yn Gallia Aquitania fel gwobr. Yn 475, llwyddodd eu brenin Euric i orfodi'r Rhufeiniaid i gydnabod annibyniaeth teyrnas y Fisigothiaid. Erbyn 500 roedd Teyrnas y Fisigothiaid, gyda'r brifddinas yn Toulouse, yn rheoli Aquitania, Gallia Narbonensis a'r rhan fwyaf o Sbaen, neu Hispania. Yn 507 gorchfygwyd hwy gan y Ffranciaid dan Clovis I. Lladdwyd eu brenin Alaric II a chollasant eu gafael ar Aquitaine. Symudwyd canolfan y deyrnas i Barcelona, ac yna i Toledo. O 511 hyd 526, roedd y Fisigothiaid mewn cynghrair â'r Ostrogothiaid dan Theodoric Fawr.

Yn 554, collwyd Granada a rhan ddeheuol Hispania Baetica i'r Ymerodraeth Fysantaidd, ond erbyn 624 roedd y Fisigothiaid wedi adennill y tiriogaethau hyn. Yn 711, lladdwyd y brenin Roderic (Rodrigo) wrth wynebu ymosodiad Mwslemaidd ym Mrwydr Guadalete, ac erbyn 718 roedd y rhan fwyaf o Sbaen yn eiddo'r Mwslimiaid fel rhan o Al Andalus.

Symudodd llawer o'r Fisigothiaid tua'r gogledd, gan ffurfio Teyrnas Asturias yng ngogledd Sbaen, a bu gan eraill ran bwysig yn ymerodraeth Siarlymaen ychydig yn ddiweddarach.


Brenhinoedd y Fisigothiaid

golygu

Brenhinoedd Paganaidd

golygu

Gwrthryfelwyr

golygu

Brenhinllin Balti - brenhinoedd Ariaidd

golygu

Brenhinllin Balti - brenhinoedd Ariaidd Toulouse

golygu

Brenhinllin Balti

golygu

Brenhinoedd diweddarach

golygu

Brenhinoedd diweddarach - Teyrnas Ariaidd Toledo

golygu

Brenhinoedd diweddarach - Teyrnas Gatholig Toledo

golygu