Heneb cynhanesyddol o feini neu gerrig mawr yw cromlech, sy'n air Cymraeg ac sydd wedi'i fenthyg i'r Saesneg. Defnyddir yr enw Llydaweg cyfatebol dolmen yn amlach yn yr iaith honno a rhai ieithoedd eraill lle mae'n gallu golygu unrhyw heneb fegalithig a siambrau claddu. Codwyd y rhan fwyaf ohonynt yn Oes Newydd y Cerrig (y Neolithig).

Cromlech
Mathbedrodd megalithic Edit this on Wikidata
Deunyddmegalith Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn wreiddiol roedd meini'r gromlech yn ffurfio siambr yng nghanol siambr gladdu neolithig ond ar ôl i'r cerrig a phridd a godwyd drostynt gael eu herydu neu eu dwyn i ffwrdd dim ond y meini mawr sy'n aros.

Fel rheol mae cromlech yn cynnwys tri neu ragor o feini wedi'u gosod ar eu sefyll yn y ddaear gyda maen clo drostynt. Mae eu maint yn amrywio; y gromlech fwyaf yng Nghymru yw cromlech Pentre Ifan yn Sir Benfro.

Traddodiadau a damcaniaethau hynafiaethol

golygu

Gyda threigliad amser daeth pobl ddiweddarach i gysylltu cromlechi a'r Arallfyd neu'r Tylwyth Teg a cheir ystorfa werthfawr o chwedlau llên gwerin a thraddodiadau sy'n ymwneud â chromlechi yng Nghymru a gwledydd eraill. Yng Nghymru ceir sawl enghraifft o roi enwau fel "Llety'r Filiast" arnynt — roedd milgwn yn anifeiliaid cysegredig gan y Celtiaid sy'n cael ei chysylltu â'r Byd Arall ac Angau, e. e. Cŵn Annwn — ac fe'i cysylltir hefyd â beirdd neu'r brenin Arthur.

Yn y cyfnod modern cynnar daeth hynafiaethwyr rhamantaidd i gysylltu cromlechi â'r Derwyddon, gan gredu eu bod yn allorau ac yn fannau aberthu.

Dosbarthiad cromlechi

golygu

Tueddir i gysylltu cromlechi â thirwedd y gwledydd Celtaidd (yn arbennig Cymru, Llydaw ac Iwerddon), ond ceir cromlechi mewn nifer o lefydd ar draws Ewrop, gogledd Affrica a rhannau o Asia. Ceir cromlechi ar gyfandir Ewrop yn yr Iseldiroedd, Sbaen a'r Almaen a lleoedd eraill. Ceir nifer fawr o gromlechi mewn rhannau o Rwsia. Yng ngogledd Affrica ceir enghreifftiau da ar yr arfordir yn Nhunisia ac Algeria. Yn Asia mae'r enghreifftiau mwyaf trawiadol i'w cael mor bell i ffwrdd â De India a Corea.

Ceir siambrau claddu Megalithig o arfordir y Môr Baltig a Môr y Gogledd, hyd at Sbaen a Portiwgal yn y de. Yn yr Iseldiroedd ceir y siambrau claddu Hunebedden sy'n dyddio o ganol y cyfnod Neolithig ac yn perthyn i'r diwylliant Funnelbeaker (4ydd fileniwm CC).

Yn y gwledydd Celtaidd o gwmpas Môr Iwerddon ceir cromlechi yn ne-ddwyrain a gorllewin Iwerddon (e. e. ardal y Burren a Conamara), Cymru a Chernyw. Ceir enghreifftiau hefyd yng ngogledd Iwerddon lle mae'n bosibl eu bod yn perthyn i'r un cyfnod â'r carneddi llys. Credir fod y cromlechi hyn wedi datblygu o fath o gladdfeydd cist cynharach. Fel ag yn achos Cymru, ceir nifer o draddodiadau a chwedlau am y meini hyn.

Yn ardal Carnac, yn Llydaw, ceir rhai dwsinau o gromlechi (dolmen). Mae enghreifftiau eraill yn Ffrainc yn cynnwys Passebonneau a des Gorces ger Saint-Benoît-du-Sault.

Yn Sbaen ceir cromlechi yn Ngalicia (e. e. Axeitos), Catalonia (e. e. Romanyà de la Selva a Creu d'en Cobertella) ac Andalucía (e. e. Cueva de Menga). Ceir nifer o gromlechi ym Mhortiwgal yn ogystal.

Y gromlech fwyaf yn Ewrop yw Dolmen Browneshill yn Swydd Carlow, yn Iwerddon. Mae ei maen clo yn pwyso tua 150 tunnell.

Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol

golygu

Yng Ngogledd Affrica ceir cromlechi bychain yn Algeria a Thiwnisia. Yn y Dwyrain Canol ceir rhai yn Syria a Gwlad Iorddonen.

Eurasia

golygu

Ceir tua 3000 o gromlechi a strwythurau megalithig eraill yn ardal ogledd-orllewin y Caucasus yn ne Rwsia, a darganfyddir rhagor o enghreifftiau yn y mynyddoedd bob blwyddyn.

Ceir nifer o gromlechi a siambrau claddu yng Nghorea, sy'n dyddio o tua'r mileniwm cyntaf C. C. Mae'r gromlech yn Ganghwa yn perthyn i ddosbarth cromlechi'r gogledd, ac o siâp pen bwrdd. Ei maen clo yw'r mwyaf yn Ne Corea, yn mesur 2.6 wrth 7.1 wrth 5.5 medr. Amcangyfrifir fod tua 30,000, o gromlechi a siambrau claddu yn Nghorea (De a Gogledd), sef tua 40% o'r cyfanswm yn y byd.

Ceir nifer o gromlechi yn nhalaith Kerala, yn ne-orllewin India. Un safle yw'r un ger Marayoor, Kerala, yn ymyl pentref bychan Pious Nagar (Alinchuvad). Mae'r cromlechi hyn yn digwydd mewn grwpiau o rhwng dau a phedwar o gromlechi ac ymddengys eu bod ar gyfer aelodau o'r un teulu. Ceir rhai cannoedd o grwpiau tebyg yn ardal Kerala.

Mae ynys Sumba yn nwyrain Indonesia yn nodedig am fod yn un o'r ychydig leoedd yn y byd lle mae traddodiad o gladdu meirwon mewn cromlechi yn parhau.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu