Canis Major
Un o'r 88 cytser seryddol yw Canis Major, sydd yn golygu `ci mawr' yn Lladin. Defnyddir y gair Major i wahaniaethu rhwng y Ci Mawr a chytser Canis Minor, y Ci Bach. Mae'r cytser yn cynnwys Sirius, y seren ddisgleiriaf yn y wybren.
Enghraifft o'r canlynol | cytser |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Llwybr Llaethog yn mynd trwy Canis Major, a felly mae nifer o nifylau a chlystyrau sêr yn y cytser. Ymhlith y clystyrau yw Messier 41, NGC 2354, NGC 2360 a NGC 2362. Nifwl allyrru yw NGC 2359.