Yn seryddiaeth, cwmwl o nwy a llwch yn y gofod sy'n dod yn weladwy dan amgylchiadau neilltuol yw nifwl neu nebiwla (Lladin: nebula). Mae'r rhan fwyaf o'r nifylau a welir yn nifylau rhyngseryddol.

Seryddiaeth
Seryddiaeth

Lleuad
Planed
Seren
Galaeth
Bydysawd


Astroffiseg
Cosmoleg


Nifwl

Nifwl Llygad y Gath, enghraifft o nifwl planedol

Achosir i nifwl fod yn weladwy am y rhesymau canlynol:

Mae nifwl allyrru yn weladwy am fod y nwy ynddo yn cael ei ïoneiddio gan ymbelydredd uwchfioled, fel rheol o seren boeth o fewn y cwmwl. Wrth i'r ïonau adweithio gydag electronnau rhydd, creir goleuni (yn rhannau coch a gwyrdd o'r sbectrwm gan amlaf) sy'n cael ei daflu allan o'r nifwl. Mae Nifwl Mawr Orion yn enghraifft dda o nifwl allyrru.
Gelwir yr ail fath o nifwl yn nifwl adlewyrch, lle mae goleuni o seren agos yn cael ei adlewyrchu i bob cyfeiriad gan y llwch yn y nifwl, gan ei oleuo fel canlyniad.
Yn olaf ceir y nifwl tywyll. Yn yr achos yma, yn lle adlewyrchu goleuni mae'r llwch yn y nifwl yn ei leihau yn sylweddol gan beri i'r nifwl sefyll allan fel ffurf dywell ar gefndir mwy golau.

Mae nifylau planedol yn fath arbennig o nifwl allyrru ffurfiwyd gan hen seren esblygedig sydd wedi gwthio nwy oddi wrth eu wynebau. Tarddiad hanesyddol yr enw oedd y ffaith bod llawer yn ymddangos fel blaned bell trwy delescopau bach.[1]

Creodd y seryddwr Ffrengig Charles Messier ei gatalog enwog (Catalog Messier) gan gredu ei fod yn cofnodi nifylau, ond erbyn heddiw gwyddom mai dim ond rhai o'r wrthrychau Messier sy'n nifylau ac mai galaethau a gwrthyrchau eraill ydy'r mwyafrif ohonynt.

Yn hanesyddol, defnyddiwyd y term nifwl i ddisgrifio galaethau, ond heddiw adnabyddir fod galaethau yn gyfundrefnau annibynnol o sêr, nwy a mater tywyll. Felly dydy'r term nifwl byth yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio galaeth heddiw.

Ffynonellau golygu

  1. Evans, Aneurin (1984), "Hanes yr Haul a'r Sêr–II", Y Gwyddonydd 22 (3): 104–108, https://journals.library.wales/view/1394134/1406652/35, adalwyd 10 Ebrill 2017. Gweler tudalen 105.
  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.