Canolfan Cludiant Britomart
Canolfan cludiant yn Auckland, Seland Newydd, yw Canolfan Cludiant Britomart (Saesneg: Britomart Transport Centre).
Math | gorsaf reilffordd, gorsaf reilffordd tanddaearol, gorsaf pengaead, central station |
---|---|
Enwyd ar ôl | Waitematā Harbour |
Agoriad swyddogol | Gorffennaf 2003 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Auckland Region |
Gwlad | Seland Newydd |
Cyfesurynnau | 36.844°S 174.767°E |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 5 |
Perchnogaeth | Auckland Council |
Statws treftadaeth | Heritage New Zealand Category 1 historic place listing |
Manylion | |
Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch wella'r erthygl hon drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a gellir ei ddileu, o ganlyniad. Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yma yn y categori Categori:Dim-ffynonellau. |
Hanes
golyguMae ardal Britomart yn gorwedd ar lan Harbwr Waitemata, ac wedi bod yn hanesyddol bwysig i lwythau Maori lleol; roedd yno Pa (sef "tŷ cyfarfod") ar Bwynt Britomart[1][2], ac ymladdwyd sawl brwydr rhwng y Maori a'r bobol ddwad i sefydlu rheolaeth dros yr ardal. Cyrhaeddodd HMS Britomart a sawl llong arall Seland Newydd ym 1840, er mwyn cynnal arolwg hydrolegol ar ran y Morlys, a chyfrannodd HMS Britomart i arolwg o Harbwr Waitemata[1][2]. Enwyd y llong ar ôl tywysoges Frythonig sy'n gymeriad yn y gerdd y Faerie Queen gan Edmund Spenser.[angen ffynhonnell]
Adeiladwyd Fort Britomart ym 1841 ar safle'r Pa Maori, i reoli'r Harbwr ac roedd 10,000 o filwyr ym Marics Britomart yn ystod rhyfeloedd Seland Newydd y 1860au. Tyfodd ardal fasnachol y dref, ac adenillwyt tir o'r Bae rhwng 1860 ac 1883
Canolbwynt y ganolfan fodern yw'r hen Brif Swyddfa Bost, a adeiladwyd rhwng 1909-12 gyda meini o Oamaru ac ithfaen o Goromandel. Caewyd y swyddfa bost ym 1988.[2]
Bysiau
golyguPrynwyd bws gan Leonard John Keys – a oedd yn groser ar gornel Ffyrdd Clonbern a Remuera – yn 1914[3], a dechreuodd wasanaeth cyntaf y dref. Roedd bysiau Keys yn ymadael o safle o flaen y swyddfa bost nes agor Gorsaf Fws Britomart ym Medi 1937.
Trenau
golyguAgorwyd Gorsaf Reilffordd Queen Street ynghanol y dref ar 30 Tachwedd 1885[2]. Disodlwyd yr orsaf wreiddiol ym 1930 gan orsaf newydd, Beach Road[1]. Cafodd yr orsaf adeilad odidog, newydd a adeiladwyd gydag ithfaeth o Goromandel, marmor o Whangarei a briciau o New Lynn. Yn anffodus roedd yr orsaf tua chilomedr o ganol y dref.[4]
Waterfront 2000
golyguGrwp o brosiectau oedd Waterfront 2000; roedd Seland Newydd wedi ennill ras hwylio Cwpan America ym 1995 a'r bwriad oedd rhoi wyneb newydd i'r ddinas yn ardaloedd Britomart a Viaduct Harbour.
Dros y blynyddoedd dilynol, newidiwyd manylion y prosiect a chynyddodd y gost. Ym Mai 2003 cyrhaeddodd y trên cyntaf, i brofi traciau, uchder platfform, a signalau. Bendithiwyd yr orsaf gan y Maori ar doriad gwawr 20 Mehefin 2004, ac am 5.40yb ar 23 Mehefin, cyrhaeddodd y trên cyntaf swyddogol, yr cyntaf i gyrraedd canol y ddinas ers 73 mlynedd. Croesawyd y trên gan bibydd, ac wedyn gan Haka ac Waiata (gair Maori am gân).
Agorwyd y Ganolfan yn swyddogol ar 25 Gorffennaf 2003 gan John Banks, maer y ddinas. Y gwestai anrhydeddus oedd Syr Edmund Hillary a'r Foneddiges Hillary.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Gwefan britomart.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-26. Cyrchwyd 2016-01-25.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 New Zealand Herald, 23 Ebrill 2004
- ↑ "Gwefan nzhistory.net". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-09. Cyrchwyd 2016-01-25.
- ↑ "Gwefan transportblog.co.nz". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-11. Cyrchwyd 2016-01-25.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan y ganolfan