Canolfan Dylan Thomas

canolfan y celfyddydau rhestredig Gradd II* yng Nghastell (cymuned)

Canolfan gelfyddydol yw Canolfan Dylan Thomas ac fe'i lleolir yn ardal y Marina yn Abertawe, de Cymru.

Canolfan Dylan Thomas
Mathcanolfan y celfyddydau Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1995 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1995 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCastell Edit this on Wikidata
SirAbertawe, Castell Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr6.9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6192°N 3.9358°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCyngor Dinas a Sir Abertawe Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Yn wreiddiol, adeiladwyd yr adeilad ym 1825 fel neuadd Guildhall y ddinas ond cafodd Canolfan Dylan Thomas ei hadnewyddu a'i moderneiddio er mwyn cynnal Blwyddyn Ysgrifennu a Llenyddiaeth y Deyrnas Unedig ym 1995.

Agorwyd y Ganolfan ym 1995 gan cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Jimmy Carter, un o gefnogwyr mwyaf brwdfrydig Dylan Thomas (ynghyd â Bob Dylan). Mae gan y Ganolfan arddangosfa parhaol am fywyd a gwaith Dylan Thomas, yn ogystal â thŷ bwyta a bar, caffi siop lyfrau, ystafelloedd gynadledda a theatr.

Cerflun o Dylan Thomas yn Abertawe

Mae'r Ganolfan wedi datblygu i fod yn ganolbwynt i gefnogwyr Dylan Thomas o ledled y byd. Ceir yno arddangosfa barhaol "Dyn a Chwedl" sydd yn seiliedig ar y casgliad fwyaf o femorabilia o'i fath yn y byd. Cynlluniwyd yr arddangosfa fel ei fod yn apelio at bobl a ŵyr lawer am Dylan Thomas yn ogystal ag ymwelwyr sydd yn dangos diddordeb ynddo hefyd. Edrycha'r arddangosfa ar waith a bywyd Dylan Thomas trwy ystod eang o gyfryngau gan gynnwys llythyron, llyfrau, taflenni gwaith a ffotograffau. Gellir gwneud chwiliad o'r casgliad ar y wefan www.dylanthomas.com

Ar hyd y flwyddyn, mae gan Ganolfan Dylan Thomas gyfres o ddigwyddiadau llenyddol, gan gynnwys nosweithiau lawnsio llyfrau, dramâu, nosweithiau barddoniaeth, arddangosfeydd cyfnewidiol a thrafodaethau gwyddonol. Cynhelir Gwyl Dylan Thomas yn flynyddol rhwng ei ddyddiad geni a dyddiad ei farwolaeth, sef o'r 27ain o Hydref tan y 9fed o Dachwedd. Dena'r wyl gynulleidfa ryngwladol er mwyn dathlu gwaith un o brif lenorion yr 20g a'r ysbrydoliaeth mae'n ysgogi o hyd yn ei dref enedigol.

Mae tîm llenyddol profiadol y Ganolfan Dylan Thomas hefyd yn darparu amrywiaeth o deithiau a sylwebaethau sy'n gofynion pob cynulleidfa, megis sylwebaethau ar agweddau o fywyd a gweithiau Dylan Thomas, ar lenyddiaeth gyfoes ac ar dwristiaeth diwylliannol. Diweddir pob sylwebaeth gyda sesiwn cwestiwn ac ateb.