Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Corff sy'n gyfrifol am ddysgu Cymraeg y tu hwnt i addysg orfodol yw'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Cymerodd y Ganolfan gyfrifoldeb llawn am y sector Cymraeg i Oedolion ar 1 Awst 2016. Cyn hynny — ers 2006 — perthyn i'r Canolfannau Cymraeg i Oedolion oedd y cyfrifoldeb hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Pwyllgor Craffu i'w chynghori yn ei chylch am faterion megis gwerth am arian.[1] Cafodd Efa Gruffudd Jones ei phenodi yn brif weithredwr ym mis Medi 2015[2] i gychwyn ar ei gwaith ar ddechrau 2016. Gyda phenodi Efa Gruffudd Jones i swydd Comisiynydd y Gymraeg, penodwyd Dona Lewis yn Brif Weithredwr ar y Ganolfan ym mis Rhagfyr 2022.[3]

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Sylfaenydd2016 Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2017-18N

Cafodd y Ganolfan ei sefydlu yn sgil sawl adroddiad:

  • Cafodd adroddiad Grŵp Adolygu a benodwyd gan y Llywodraeth ei gyhoeddi ar ddiwedd 2013.[4].
  • Cyn hynny, ar 23 Ebrill 2013, cyhoeddwyd adroddiad a gomisiynodd y Llywodraeth gan Brifysgol Caerdydd ar 'Adnoddau, dulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu ym maes Cymraeg i Oedolion'.[5]
  • Yn gynharach eto, ar 14 Hydref 2011, cyhoeddwyd gwerthusiad gan ymgynghorwyr Old Bell 3 a Dateb i'r Llywodraeth.[6]

Ym mis Mai 2015 y penderfynodd Llywodraeth Cymru ddyfarnu grant i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i sefydlu'r 'endid' genedlaethol a argymhellwyd gan y Grŵp Adolygu a gafodd ei enwi'n Ganolfan yn y diwedd. Mae'r arian a roddwyd i faes Cymraeg i Oedolion wedi ei gwtogi ers 2014-15 o £11,882,012 i £10,568,711 yn 2016-17.[7]

Ni ddylid cymysgu'r Canolfannau Cymraeg i Oedolion gyda'r canolfannau Cymraeg y rhoddwyd £1.500,000 gan y Llywodraeth yn 2015 i'w sefydlu.[8] Mae'n debyg mai ymateb y Llywodraeth oedd hyn i adroddiad arall a edrychodd ar faes Cymraeg i Oedolion ac a argymhellodd sefydlu canolfannau cymdeithasol Cymraeg. Cafodd Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n Dysgu’r Gymraeg: Ymdrechion i Wrthdroi Shifft Ieithyddol mewn Cymunedau cymharol ddi-Gymraeg[dolen marw] ei gyhoeddi gan Academi Hywel Teifi ym mis Gorffennaf 2012.

Mesuriadau iaith golygu

Mae'r Ganolfan yn dilyn canllawiau Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR) ar gyfer asesu rhuglder a chaffael iaith dysgwyr. Serch hynny, nododd papur gwyn Bil Addysg Gymraeg 2023 gall bydd sefydliadau megis y Ganolfan am addasu tabl a mesuriadau CEFR ar gyfer anghenion a chyd-destun Gymreig. Nodwyd hefyd, gan mai cynllun o dan arweiniad Cyngor Ewrop yw CEFR y gall hyn hefyd newid yn y dyfodol neu dod i ben.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. [1] cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
  2. [2], cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
  3. "Prif weithredwr newydd i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg". Newyddion BBC Cymru Fyw. 21 Rhagfyr 2022.
  4. [3], cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
  5. [4][dolen marw], cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
  6. [5][dolen marw], cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
  7. [6][dolen marw], cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
  8. [7], cyrchwyd 20 Gorffennaf 2017
  9. "Cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg". Llywodraeth Cymru. 27 Mawrth 2023.

Dollenni Allanol golygu