Comisiynydd y Gymraeg

Crëwyd swydd Comisiynydd y Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Daeth y swyddfa i rym ar 1 Ebrill 2012. Mae gwaith y comisiynydd yn wleidyddol annibynnol.[1] Efa Gruffudd Jones yw'r comisiynydd presennol.

Comisiynydd y Gymraeg


PencadlysCaerdydd
ComisiynyddEfa Gruffudd Jones
Sefydlwyd2012
Gwefancomisiynyddygymraeg.cymru

Prif nod Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg.[2] Gwneir hyn drwy ddwyn sylw i’r ffaith bod statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru a thrwy osod safonau ar sefydliadau. Credir y bydd hyn, yn ei dro, yn arwain at sefydlu hawliau i siaradwyr Cymraeg. Yn hyn o beth mae'r rôl yn debyg i ombwdsmon.

Yn ôl gwefan y Comisiynydd, mae dwy egwyddor yn sail i waith y Comisiynydd, a hynny yw,

  • Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru
  • Dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Swyddogaeth y Comisiynydd

golygu

Caiff y Comisiynydd wneud unrhyw beth y mae’n ei ystyried yn briodol er mwyn:

  • hybu defnyddio’r Gymraeg
  • hwyluso defnyddio’r Gymraeg
  • gweithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Mae hynny’n cynnwys hybu darparu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac annog arferion gorau o ran defnyddio’r Gymraeg gan bobl sy’n delio â phersonau eraill, neu sy’n darparu gwasanaethau i bersonau eraill. Mae maes ei gorchwyl hefyd yn cynnwys materion cyfreithiol, llunio a chyhoeddi adroddiadau, gwaith ymchwil, gweithgareddau addysgol ac argymhellion ysgrifenedig i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Gall hefyd gynghori pobl.

Aelodaeth o IALC

golygu

Mae'r Comisiwn yn aelodau o Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith (International Association of Language Commissioners; IALC) a sefydlwyd i gefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol ledled y byd a chefnogi comisiynwyr iaith fel eu bod yn gallu gweithio gan gadw at y safonau proffesiynol uchaf. Sefydlwyd IALC yn 2014 a cynhaliwyd cynhadledd dan nawdd Comisiynydd y Gymraeg yng Nghymru yn 2017 a 2024.[3] Aelodau eraill IALC yw: Office of the Commissioner of Indigenous Language (Canada), Commissaire à la langue française Québec (Quebec, Canada), Commissioner of Official Languages for New Brunswick (Brunswick Newydd, Canada), Comisiynydd Ieithoedd Nunavut (Nunavut, Canada), Comisiynydd Ieithoedd y Northwest Territories (Northwest Territories, Canada), Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada (Canada), Swyddfa Gwasanaethau Ffrangeg Ontaria (Ontario, Canada), Comisiynydd Iaith Cosofo (Cosofo), Coimisinéir Teanga (Iwerddon), Síndic (Ombudsmon Catalaneg, Catalwnia), ac Arartek (Ombudsmon Basgeg, Euskadi), Defensor del Pueblo de Navarra-Nafarroako Arartekoa (Nafarroa, Basgeg).[4]

Comisiynwyr

golygu
  • Meri Huws - Fe'i penodwyd ar 5 Hydref 2011 i fod y Comisiynydd cyntaf a cychwynodd ei gwaith ar ddydd Llun, 2 Ebrill 2012.
  • Aled Roberts - Cyhoeddwyd ei benodiad ar 1 Chwefror 2019 a cychwynodd y swydd ar 1 Ebrill 2019 (bu farw Chwefror 2022).[5] Arweiniwyd y sefydliad dros dro gan y Dirprwy Gomisiynydd, Gwenith Price.
  • Efa Gruffudd Jones - Cyhoeddwyd ei phenodiad ar 20 Hydref 2022 a cychwynodd y swydd yn Ionawr 2023.[6]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Gwefan Comisiynydd y Gymraeg, http://www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Cyfraith/mesurygymraeg2011/Pages/hafanmesurygymraeg2011.aspx, adalwyd 18 Mai 2012
  2. Nod y Comisiynydd, Gwefan Comisiynydd y Gymraeg, http://www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Comisiynydd/Pages/Nod.aspx, adalwyd 18 Mai 2012
  3. "Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith, Cymru #IALC2024". Gwefan Comisiynydd y Gymraeg. Cyrchwyd 10 Mehefin 2024.
  4. "Aelodau". Gwefan IALC. Cyrchwyd 10 Mehefin 2024.
  5. [https:dd-nesaf-gymraeg Aled Roberts fydd Comisiynydd nesaf y Gymraeg] , Golwg360, 27 Tachwedd 2018. Cyrchwyd ar 1 Chwefror 2019.
  6. Efa Gruffudd Jones wedi’i phenodi yn Gomisiynydd y Gymraeg , BBC Cymru Fyw, 20 Hydref 2022.

Dolenni allanol

golygu