Cyngor Ewrop
Corff rhyngwladol o 46 gwlad yw Cyngor Ewrop. Mae aelodaeth yn agored i unrhyw wladwriaeth Ewropeaidd sydd yn barod i dderbyn egwyddor cyfraith a threfn, sicrhau iawnderau dynol sylfaenol a rhyddid ei dinasyddion. Lleolir y pencadlys yn ninas Strasbourg, Ffrainc.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhynglywodraethol ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 5 Mai 1949 ![]() |
Yn cynnwys | European Commission against Racism and Intolerance ![]() |
Pennaeth y sefydliad | Secretary General of the Council of Europe ![]() |
Isgwmni/au | Llys Hawliau Dynol Ewrop, European Commission for the Efficiency of Justice ![]() |
Pencadlys | Palace of Europe ![]() |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
Gwefan | https://www.coe.int ![]() |
![]() |
Mae'n bwysig peidio cymysgu Cyngor Ewrop â Chyngor yr Undeb Ewropeaidd neu â'r Cyngor Ewropeaidd, gan fod Cyngor Ewrop yn gorff cwbl gwahanol a chanddo ddim i'w wneud a'r Undeb Ewropeaidd.
Aelodaeth golygu
Sefydlwyd ar 5 Mai 1949 gan Gwlad Belg, Denmarc, Ffrainc, Iwerddon, Yr Eidal, Lwcsembwrg, Yr Iseldiroedd, Norwy, Sweden a'r Deyrnas Unedig. Daeth Gwlad Groeg a Twrci yn aelodau tri mis wedyn, a Gwlad yr Ia a'r Almaen y flwyddyn ganlynol. Erbyn hyn mae 47 aelod-wladwriaeth; Montenegro oedd yr un diweddaraf i ymuno.
Mae Erthygl 4 o Statudau Cyngor Ewrop yn datgan bod aelodaeth yn agored i unrhyw wladwriaeth Ewropeaidd. Dim ond Belarws sy ddim yn aelod bellach.
Baner | Gwladwriaeth | Dyddiad ymuno |
---|---|---|
Gwlad Belg | Sefydlydd | |
Denmarc | Sefydlydd | |
Ffrainc | Sefydlydd | |
Gweriniaeth Iwerddon | Sefydlydd | |
Yr Eidal | Sefydlydd | |
Lwcsembwrg | Sefydlydd | |
Yr Iseldiroedd | Sefydlydd | |
Norwy | Sefydlydd | |
Sweden | Sefydlydd | |
Y Deyrnas Unedig | Sefydlydd | |
Gwlad Groega | 9 Awst 1949 | |
Twrcia | 9 Awst 1949 | |
Gwlad yr Iâ | 7 Mawrth 1950 | |
Yr Almaenb | 13 Gorffennaf 1950 | |
Awstria | 16 Ebrill 1956 | |
Cyprus | 24 Mai 1961 | |
Y Swistir | 6 Mai 1963 | |
Malta | 29 Ebrill 1965 | |
Portiwgal | 22 Medi 1976 | |
Sbaen | 24 Tachwedd 1977 | |
Liechtenstein | 23 Tachwedd 1978 | |
San Marino | 16 Tachwedd 1988 | |
Y Ffindir | 5 May 1989 | |
Hwngari | 6 Tachwedd 1990 | |
Gwlad Pwyl | 26 Tachwedd 1991 | |
Bwlgaria | 7 Mai 1992 | |
Estonia | 14 Mai 1993 | |
Lithwania | 14 Mai 1993 | |
Slofenia | 14 Mai 1993 | |
Y Weriniaeth Tsiec | 30 Mehefin 1993 | |
Slofacia | 30 Mehefin 1993 | |
Rwmania | 7 Hydref 1993 | |
Andorra | 10 Tachwedd 1994 | |
Latfia | 10 Chwefror 1995 | |
Albania | 13 Gorffennaf 1995 | |
Moldofa | 13 Gorffennaf 1995 | |
Macedoniac | 9 Tachwedd 1995 | |
Wcrain | 9 Tachwedd 1995 | |
Rwsia | 28 Chwefror 1996 | |
Croatia | 6 Tachwedd 1996 | |
Georgia | 27 Ebrill 1999 | |
Armenia | 25 Ionawr 2001 | |
Aserbaijan | 25 Ionawr 2001 | |
Bosnia-Hertsegofina | 24 Ebrill 2002 | |
Serbiad | 3 Ebrill 2003 | |
Monaco | 5 Hydref 2004 | |
Montenegro | 11 Mai 2007 |
Ymgeisyddion golygu
Statws Gwesteuon Arbennig oedd gan senedd Belarws Medi 1992 tan Ionawr 1997, ond ers etholiadau 'annheg' a phroblemau ym 1996 maent yn 'suspended'.
Derbynnwyd cais Casachstan am Statws Gwesteuon Arbennig yn 1999. Penderfynnwyd eu bod yn rhan o Ewrop. Llofnodwyd Casachstan cytundeb i cydymffurfio a'r Cyngor.