Canolfan y Morlan
Mae Canolfan y Morlan yn ganolfan gymunedol, grefyddol ar gyfer tref Aberystwyth. Agorwyd hi yn 2005. Cynhelir digwyddiadau amrywiol ynddi o ddramâu, clybiau ymarfer cordd a dawns, eisteddfodau, arddangosfeydd celf, ffeiriau Nadolig a chyngherddau. Lleolir y ganolfan ychydig i'r gogledd o ganol tref Aberystwyth ar gyffordd Morfa Mawr, Rhodfa'r Gogledd a Stryd y Faenor, wrth ymyl yr A487 o fewn ffiniau'r dref Fictorianaidd.
Math | canolfan gymunedol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Hanes y lleoliad
golyguSaif Morlan ar safle hen gapel Seilo[1] a oedd yn cynnwys y capel ei hun, ysgoldy a mans (Beth-seilun). Ffrwyth gweledigaeth aelodau Capel y Morfa ydyw, ac yn adlewyrchiad o awydd yr aelodau i sefydlu canolfan bwrpasol fyddai’n estyn allan i’r gymuned a’i gwasanaethu.
Sefydlwyd Capel y Morfa yn 1989 pan unodd cynulleidfaoedd Seilo a Salem, gan benderfynu defnyddio adeiladau Salem, yn Stryd Portland, ar gyfer addoli ar y Sul.
Erbyn 1995, roedd adeilad Seilo wedi’i ddymchwel ond roedd yr ysgoldy yn parhau i sefyll ac yn dal i gael ei ddefnyddio gan Gapel y Morfa er bod ei gyflwr yn dirywio. Roedd yr awydd i sefydlu canolfan bwrpasol yn parhau hefyd – canolfan fyddai’n gweithredu fel pont rhwng yr eglwys a chymunedau Aberystwyth a thu hwnt gan roi sylw arbennig i berthynas ffydd a diwylliant a hynny yn yr ystyr ehangaf.
Ar ôl rhyw ddeng mlynedd o waith caled i sicrhau cyllid digonol a’r caniatâd cynllunio angenrheidiol, agorodd Morlan ym mis Ebrill 2005.[1]
Erys Morlan yn rhan greiddiol o genhadaeth a thystiolaeth Capel y Morfa (sydd ei hun yn rhan o Eglwys Bresbyteraidd Cymru).
Adeilad ac adnoddau
golyguRoedd yr ysgoldy wedi’i adnewyddu a’i gysylltu â Beth-seilun i greu’r ganolfan fodern, aml-bwrpas a welir heddiw. Mae’r ysgoldy ei hun bellach yn neuadd fawr ag adnoddau ar gyfer perfformiadau cerddorol a theatrig ac Ystafell Werdd sydd hefyd yn gweithredu fel ystafell bwyllgor. Ceir ail ystafell bwyllgor (Ystafell Dawel), swyddfa a Bar Coffi ar lawr gwaelod Beth-Seilun, a datblygwyd rhan o’r estyniad newydd yn oriel gelf.
Neuadd
golyguCeir Neuadd amlbwrpas sy'n addas ar gyfer cyngherddau, dramâu, ffeiriau o bob math, dosbarthiadau dawns a chadw’n heini, pwyllgorau mawr, darlithoedd, cyfarfodydd cyhoeddus, partïon priodas, a mwy!
Gellir defnyddio cadeiriau a byrddau i addasu’r ystafell yn unol ag anghenion y digwyddiad ac, os oes angen, mae modd defnyddio llenni i greu gofod llai, mwy agos atoch.
Maint: tua 10.9m x 16.5m gyda chapasiti i tua 150 person (trefniant theatr) a tua 100 (trefniant cabaret).
Yr Ystafell Werdd
golyguYstafell llawr pren sy'n addas ar gyfer pwyllgorau, hyfforddiant, anerchiadau bach, dosbarthiadau celf.
Maint, tua 4.5m x 5m gyda chapasiti i 16 person (trefniant pwyllgor)
Yr Ystafell Dawel
golyguYstafell gyfforddus sy'n addas ar gyfer cylchoedd trafod, grwpiau addoli bach, sesiynau ymdawelu, pwyllgorau bach.
Maint: tua 3.5m x 4m, capasiti i 10 person (trefniant pwyllgor)
Bar Coffi
golyguGofod cyfforddus gyda lle i ryw 16 eistedd (ond mae hefyd lle i eistedd yn yr Oriel gyfagos). Addas iawn ar gyfer boreau coffi neu achlysuron tebyg, ond gellir ei ddefnyddio hefyd fel man cyfarfod anffurfiol. Adnoddau arlwyo syml ar gael.
Amcanion y Morlan
golyguNodir amcanion y Morlan ar wefan,[2] fel bod yn ganolfan gymunedol a fydd yn:
- cefnogi amcanion Capel y Morfa fel rhan o Eglwys Bresbyteraidd Cymru
- meithrin dealltwriaeth a chyswllt rhwng yr Eglwys Gristnogol a'r gymdeithas gyfoes o'i chwmpas
- defnyddio amrywiol weddau ar y diwylliant cyfoes i ddyfnhau dealltwriaeth a phrofiad o'r ffydd Gristnogol
- darparu fforwm a gofod i hyrwyddo integreiddio pobl o bob oed, traddodiad a ffordd o fyw ac i'w cynorthwyo i adnabod eu gwerth a'u potensial.
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 https://morlan.cymru/wp-content/uploads/2017/07/Ffrydiaur-Morfa.pdf[dolen farw]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-26. Cyrchwyd 2018-05-02.