Capel y Morfa, Aberystwyth
Capel gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw Capel y Morfa. Fe'i lleolir ar Stryd Portland, Aberystwyth.
Math | capel, eglwys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberystwyth |
Sir | Ceredigion, Aberystwyth |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.41674°N 4.08215°W |
Cod post | SY23 2HL |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguFfurfiwyd Capel y Morfa yn 1989, wedi cyfnod hir o drafod, trwy uniad cynulleidfaoedd Salem a Seilo. Unwyd cynulleidfaoedd y Morfa a Chapel y Tabernacl (oedd â'i mynediad ar Stryd Powell, Aberystwyth, ond a ddifrodwyd gan dân yn 2002[1] ac sydd bellach yn fflatiau) pan gaeodd y Tabernacl yn 2002. Sefydlwyd Ebeneser, Penparcau, yn 1939 yn gangen o'r Tabernacl. Wedi cau'r Tabernacl daeth yn gangen o Gapel y Morfa.
Mae'r capel ei hun yn enw newydd ar y capel a alwyd yn Salem a ffurfiwyd wedi rhwyg o fewn Capel Seilo.
Adeilad
golyguFfurfiwyd yr hen Gapel Salem ar Stryd Portland wedi rhwyg o fewn cynulleidfa Capel Seilo, Morfa Mawr. Wedi cyfnod yn cwrdd yn yr 'Assembly Rooms' ar Maes Lowri ger yr Hen Goleg, agorwyd Capel Salem yn 1895. Cost yr adeilad oedd £2,600. Er mwyn tanlinellu'r gwahaniaeth rhwng y ddwy gapel, fe adeiladwyd Salem newydd yn arddull Gothig, oedd yn arddull anghyfarwydd i gynulleidfa Fethodistiaid Calfinaidd Cymreig, ond mewn gwrthgyferbyniad ag arddull Baróc Seilo.
Dyluniwyd y capel gan y pensaer Thomas Morgan o Aberystwyth. Adeiladwyd y Capel yn 1894–1895 gan David Lloyd, Trefechan.[2]
Trwy gyd-ddigwyddiad, hen leoliad Capel Seilo (yr eglwys yr ymwahanodd Salem oddi wrtho) yw safle Canolfan y Morlan bellach.
Heddiw
golyguY Gweinidog cyfredol (2018) yw y Parch. Eifion Roberts. Gweinidog gyntaf y capel unedig oedd y Parch. Pryderi Llwyd Jones.
Trefn y Sul
golygu- 10.00am – Oedfa Capel y Morfa
- 10.20–11.00am – Ysgol Sul; bydd y plant yn gadael yr oedfa tua 10.20
- 11.00am – Ysgol Sul i oedolion
- 2.15pm – Oedfa yn Ebeneser, Penparcau
- 6.00pm – Oedfa Capel y Morfa
Mae'r holl weithgaredd yn y Gymraeg.
Canolfan y Morlan
golyguDatblygwyd Canolfan y Morlan fel canolfan ffydd a diwylliant ar safle yr hen Gapel Seilo oedd ar Morfa Mawr. Lleolir y Morlan oddeutu 300m i'r gogledd ddwyrain o adeilad Capel y Morfa.
Llyfryddiaeth
golygu- Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt. 26–7