Canu pop a roc yn yr Ynys Las
Er gwaethaf ei lleioliad daearyddol anghysbell a phoblogaeth o lai na 50,000 ac iaith unigryw, mae canu poblogaidd roc cynhenid yr Ynys Las yn boblogaidd ac yn denu sylw tu allan i'r Ynys Las.[1]
Enghraifft o'r canlynol | cerddoriaeth yn ôl gwlad neu ardal, genre gerddorol |
---|---|
Math | cerddoriaeth gwledydd Nordig |
Gwladwriaeth | Yr Ynys Las |
Hanes
golyguTan canol yr 20g, roedd yr Ynys Las wedi'i hynysu oddi ar ganu poblogaidd Gogledd America ac Ewrop. Un o'r bandiau cyntaf i ddod o'r genedl sy'n hunanlywodraethol ond yn rhan o Deyrnas Denmarc], oedd yr Nuuk Orleans Jazz Band.[2]
Roc
golyguDechreuodd canu pop a roc yr Ynys Las yn 1973 pan gyhoeddwyd yr albwm Sumut gan y band Sume ar label ULO, un o'r labeli recordio cyntaf.[3] Roedd Sumut yn boblogaidd iawn ledled y wlad. Prynodd tua ugain y cant o boblogaeth yr Ynys Las y record, gyda chanu yn yr iaith Kalaallisut (gelwir hefyd yn 'Glasynyseg') a rhoi lle amlwg i ddrwm-ddawnsio traddodiadol yn y caneuon. Cymerodd y canwr, Rasmus Lyberth, ran yn y proses o ddewis cân i Ddenmarc ar gyfer Cystadleuaeth Cân Eurovision yn 1979. Cân yn Kalaallisut oedd honno. Ffurfiwyd nifer o fandiau roc a pop yn y 1980au a 1990au. Enghreifftiau da o fandiau roc oedd G-60 ac Ole Kristiansen, a bandiau ysbrydolwyd gan reggae Jamaica a ffync Affro-Americanaidd oedd Aalut a Zikaza. Gwerthodd albwm cyntaf Zikaza 10,000 o gopiau (oddeutu 50,000 yw poblogaeth yr Ynys Las). Yn lle derbyn disg aur neu blatinwm fel gwobr, derbynasant ddisg croen morlo.
Cynhelir yr ŵyl roc Nipiaa pob blwyddyn yn Aasiaat, a cantorion poblogaidd yw Chilly Friday, a gwddf-gantoresau Sylvia Watt-Cloutier a Karina Moller. Bandiau roc enwog eraill ydy Kalaat, Siissisoq, Angu Motzfeldt, Pukuut, X-it, Fiassuit, Nanook, Small Time Giants a Ultima Corsa. Cerddoriaeth metal sy'n dod yn fwy amlwg yn yr Ynys Las, er enghraifft Arctic Spirits. Maen nhw'n canu yn Kalaallisut yn unig.
Hip hop
golyguErs 1984, hip hop America oedd dylanwad pwysig. Nuuk Posse ydy un band hip hop llwyddiannus diweddar.[3]
Diwydiant cerddoriaeth
golyguY label recordio mwyaf yn yr Ynys Las ydy ULO, o Sisimiut; ffurfiwyd ef gan Malik Hoegh (aelod o'r band Sume) a Karsten Sommer o Ddenmarc.[4] ULO sy'n cyhoeddi albymau gan bandiau roc fel Sume, cantorion roc fel Rasmus Lyberth,[5] a bandiau hip hop fel Nuuk Posse yn ogystal â chanu traddodiadol.[3]
Kalaallit Nunaata Radioa (Radio yr Ynys Las) ydy'r sefydliad cyfryngau pwysicaf yn y wlad.
Caneuon
golyguDolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=v7xHIX-4Klo
- ↑ Mark Sabbatini (13 Hydref 2005). "Going To Extremes To Find Jazz In Greenland". All About Jazz (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Hydref 2021.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Bours, Etienne (2000). "Sealskin Hits". In Broughton, Simon; Ellingham, Mark; McConnachie, James; Duane, Orla (gol.). World Music, Vol. 1: Africa, Europe and the Middle East (yn Saesneg). Rough Guides. tt. 143–145. ISBN 1-85828-636-0.
- ↑ Orla Duane; James McConnachie; Frederick Dorian; Vanessa Dowell (1999). World Music: Africa, Europe and the Middle East (yn Saesneg). Rough Guides. t. 143.
- ↑ Hara, Kevin (2003). South Greenland : an Arctic paradise (yn Saesneg). Ottawa: Uanga Pub. t. 60. ISBN 9781894673129.