Yr ynys fwyaf yn y byd yw'r Ynys Las neu'r Lasynys (Kalaallisut: Kalaallit Nunaat; Daneg: Grønland). Fe'i lleolir yng Ngogledd Môr yr Iwerydd rhwng Canada a Gwlad yr Iâ. Mae brenhines Denmarc, Margrethe II, hefyd yn frenhines ar yr Ynys Las. Prifddinas yr ynys yw Nuuk.

Yr Ynys Las
Kalaallit Nunaat
Grønland
Mathgwlad ymreolaethol o fewn Brenhiniaeth Denmarc, etholaeth, ynys-genedl, rhestr tiriogaethau dibynnol Edit this on Wikidata
LL-Q33810 (ori)-Psubhashish-ଗ୍ରୀନଲାଣ୍ଡ.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasNuuk Edit this on Wikidata
Poblogaeth56,609 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Mai 1979 Edit this on Wikidata
AnthemNuna asiilasooq Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMúte Bourup Egede Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00, UTC−01:00, UTC−02:00, UTC−03:00, UTC−04:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Kalaallisut Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBrenhiniaeth Denmarc, Gogledd America Edit this on Wikidata
GwladBrenhiniaeth Denmarc Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,166,086 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCanada, Nunavut, Gwlad yr Iâ, Norwy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau72°N 40°W Edit this on Wikidata
DK-GL Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholSenedd yr Ynys Las Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethMargrethe II Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog yr Ynys Las Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMúte Bourup Egede Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$3,236 million Edit this on Wikidata
ArianKrone Danaidd Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.037 Edit this on Wikidata

Daearyddiaeth golygu

 
Golygfa ger Nanortalik

Mae iâ yn gorchuddio 84% o'r tir. Gorchuddir y rhan fwyaf o'r wlad gan gap rhew anferth â nunatakau yn torri trwodd o gwmpas ei ymylon. O'r cap rhew hwn mae nifer o rewlifoedd, neu afonydd iâ, yn llifo, gan gynnwys Rhewlif Humboldt, ac yn torri i fyny'n fynyddoedd iâ wrth gyrraedd y môr. Nodwedd arall ar dirwedd yr Ynys Las yw'r nifer sylweddol o pingos (bryniau crwn gyda rhew yn eu canol) a geir yno.

Er gwaethaf yr holl rew, mae'r enw yn y Ddaneg (ac mewn ieithoedd Almaenaidd eraill) yn golygu "Tir (neu wlad) glas" (gweler isod).

Mae'r Ynys Las (2 miliwn km²) yn ymddangos ar fapiau o dafluniad Mercator cymaint ag yr Affrig (30 miliwn km²),

Hanes golygu

Cyrhaeddodd pobl yr Ynys Las am y tro cyntaf tua 2500 CC. Tua'r flwyddyn 986, darganfu'r morwr o Lychlynwr Eric Goch yr ynys. Fe'i galwodd "yr Ynys Las" er mwyn denu pobl yno o Wlad yr Iâ a Norwy. Cyrhaedodd yr Inuit modern o'r gogledd-orllewin tua 1200. Am gyfnod bu nifer fach o drefedigaethau Llychlynaidd ar yr arfordir, ond diflanasant erbyn y 15g, naill ai o ganlyniad i afiechyd neu ymosodiadau gan y brodorion. Yn 1721 creuwyd tref fechan Ddanaidd newydd ar yr ynys a hawliodd coron Denmarc y tir. Cafodd yr Ynys Las ei gwahanu oddi wrth Denmarc yn ystod yr Ail Ryfel Byd o ganlyniad i feddiannaeth Denmarc gan yr Almaen. Daeth y wlad yn rhan gymathedig o Ddenmarc yn 1953. Yn 1979, y flwyddyn y collwyd y refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru, enillodd yr Ynys Las hunanlywodraeth dan sofraniaeth Denmarc, gyda'i senedd ei hun ar gyfer materion mewnol.

Iaith a diwylliant golygu

Ers Mehefin 2009 yr iaith yn swyddogol yw Kalaallisut; cyn hynny roedd y Ddaneg hefyd yn iaith swyddogol. Yn ieithyddol, mae'n un deulu'r Inuit. Yn 2007 roedd 56,200 yn ei siarad yn fyd-eang. Credir i'r iaith gyrraedd yr Ynys Las pan gyrhaeddodd y Thuliaid oddeutu 1200.

Enwogion golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.