Canwyll y Cymry

llyfr gan Rhys Prichard, 'y Ficer Prichard'

Llyfr o waith Rhys Prichard (Y Ficer Prichard) yw Canwyll y Cymry. Gyda'r Beibl a Taith y Pererin, roedd am gyfnod hir yn un o'r tri llyfr oedd i'w cael yn ymron bob cartref Cymreig lle ceid llyfrau o gwbl.

Canwyll y Cymry
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurRhys Prichard Edit this on Wikidata
Blaenddalen fersiwn 1807 o Ganwyll y Cymry; argraffwyd gan J. Daniel, Caerfyrddin

Ysgrifennodd y Ficer Prichard (1579? - 1644), ficer Llanymddyfri, lawer o gerddi ar gyfer y werin yn argymell bywyd bucheddol. Ni chyhoeddwyd hwy tan 1659, pan gyhoeddodd Stephen Hughes y rhan gyntaf. Tua dechrau 1660 cyhoeddodd yr ail ran; a rhan arall yn 1670. Yn 1672 cyhoeddodd Stephen Hughes bedair rhan o waith y Ficer yn un gyfrol, ond hyd yma nid oedd wedi cael y teitl "Canwyll y Cymru". Cafodd y teitl yma yn 1681, pan gyhoeddodd Stephen Hughes argraffiad newydd gan roi iddo'r teitl Canwyll y Cymru: Sef, Gwaith Mr. Rees Prichard, gynt Ficcer Llanddyfri, A brintiwyd or blaen yn bedair rhan wedi ei cyssylltu yn un Llyfr.

Mae'r farddoniaeth wedi ei hanelu at y werin yn hytrach na dysgedigion, ac yn annog byw bywyd Cristionogol yn wyneb sicrwydd angau:

Ni cheir gweled mwy on hôl
nag ôl neidr ar y ddôl,
neu ôl llong aeth dros y tonnau,
neu ôl saeth mewn awyr denau.

Llyfryddiaeth

golygu
  • D. Gwenallt Jones, Y Ficer Prichard a "Canwyll y Cymry" (Caernarfon: Cwmni'r Llan a Gwasg yr Eglwys yng Nghymru, 1946)
  • Siwan Non Richards, Y Ficer Prichard, Cyfres Llên y Llenor (Caernarfon: Gwasg Pantycelyn, 1994)

Dolenni allanol

golygu