Stephen Hughes

cyfieithydd (1622?–1688)

Anghydffurfiwr cynnar a chyhoeddwr Cymreig oedd Stephen Hughes (16221688).[1]

Stephen Hughes
Ganwyd1622 Edit this on Wikidata
Bu farw1688 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg Y Frenhines Elisabeth Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed ef yng Nghaerfyrddin, yn fab i sidanydd o'r enw John Hughes. Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am ei fywyd cynnar, ond efallai iddo gael ei addysgu yn ysgol ramadeg Caerfyrddin. Daeth yn offeiriad Meidrim yn 1654, a daeth yn bur ddylanwadol pan oedd Oliver Cromwell mewn grym.

Dechreuodd gyhoeddi llyfrau Cymraeg tua 1658. Yn 1659 cyhoeddodd ran gyntaf gwaith barddonol y Ficer Prichard, ac yn fuan wedyn cyhoeddodd yr ail ran. Wedi marwolaeth Cromwell, adferwyd Siarl II i'r orsedd, a bu raid i Hughes adael ei fywoliaeth ym Meidrim. Bu'n pregethu a chadw ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, a tua 1670 ail-ddechreuodd gyhoeddi llyfrau Cymraeg, gan ddechrau gyda'r drydedd ran o waith y Ficer Prichard. Yn 1672 cyhoeddodd bedair rhan o waith y Ficer yn un gyfrol, ynghyd â Llyfr Psalmau a Thestament Newydd. Yn Llundain, cyfarfu a Thomas Gouge a Charles Edwards, a bu'n cydweithio a hwy. Yn 1677 cyhoeddodd Tryssor i'r Cymru a Cyfarwydd-deb i'r Anghyfarwydd. Yn 1677-8 cyhoeddodd argraffiad rhad o'r Beibl, ac yn 1681 argraffiad newydd o waith Ficer Prichard, gan roi iddo'r teitl Canwyll y Cymry. Yn 1688 cyhoeddodd gyfieithiad o waith John Bunyan, Taith y Pererin, wedi'i gyfieithu ganddo ef ei hun a thri arall. Bu farw yn Abertawe yn 1688.

Cyfeiriadau golygu

  1.  HUGHES , STEPHEN. Y Bywgraffiadur Ar-lein. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 14 Ionawr 2013.