Capel Gwynfil
capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Llangeitho
Capel y Methodistiaid Calfinaidd sydd wedi ei leoli yn Llangeitho yw Capel Gwynfil.[1]
Math | capel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llangeitho |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 109.4 metr |
Cyfesurynnau | 52.219°N 4.0209°W |
Cod post | SY25 6TW |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguCafodd Capel Gwynfil ei adeiladu yn 1760[2] ar gyfer cymuned Fethodistiaeth Galfinaidd, a sefydlwyd yn 1735. Mae gan y capel gysylltiadau cryf gyda Daniel Rowland, sef gweinidog Methodistaidd ac un o sefydlwyr Methodistiaid Calfinaidd. Tu allan i’r capel mae yna gerflun ohono. Cafodd y capel ei ail-adeiladu yn 1764, 1813 a 1861–1863,[3] i gynllun John Lumley, Aberystwyth.
Ar un adeg ystyrid Llangeitho yn ‘Gaersalem’ y Methodistiaid yng Nghymru, a byddai yn agos i 10,000 o addolwyr yn teithio yma bob Sul i wrando ar Daniel Rowland a derbyn cymun ganddo.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cymraeg – Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2024-01-16.
- ↑ "Gwynfil, Llangeitho | The Presbyterian Church of Wales" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-16.
- ↑ "Llangeitho Llangeitho Community Council". Cyngor Llangeitho. Cyrchwyd 2024-01-16.
- ↑ "Capel Gwynfil, Llangeitho". Capel Gwynfil, Llangeitho. Cyrchwyd 2024-01-16.