Caplan
Am y pysgodyn, gweler caplan (pysgodyn).
Clerigwr sydd yn cynnal gwasanaethau crefyddol mewn sefydliad sydd fel arall yn seciwlar yw caplan. Ceir caplaniaid mewn ysbytai, ysgolion a phrifysgolion, carchardai, y lluoedd arfog, yr heddlu, y frigâd dân, a busnesau.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b1/Padre_decorating_the_altar_in_his_%27Church%27_in_the_line_%284688626662%29.jpg/220px-Padre_decorating_the_altar_in_his_%27Church%27_in_the_line_%284688626662%29.jpg)
Caplaniaid ar y môr
golyguOherwydd peryglon bywyd ar y môr, mae presenoldeb cynghorwyr crefyddol ar longau wedi cysuro morwyr ers oesoedd yr Henfyd. Mae'n debyg i forwyr Ffenicia a Charthago deithio gydag offeiriaid i alw ar nawdd Asherah, duwies y môr. Aeth daroganwyr ar longau rhyfel y Rhufeiniaid i ddehongli'r argoelion a rhagweld buddugoliaeth neu fethiant yn y frwydr i ddod. Yn yr oes fodern, dynodir caplaniaid yn anymladdwyr yn ôl Confesiynau Genefa.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ David S. T. Blackmore, The Seafaring Dictionary: Terms, Idioms and Legends of the Past and Present (Jefferson, Gogledd Carolina: McFarland & Company, 2009), t. 69.