Capten John Glynn-Jones

sefydlydd Clybiau Bechgyn a Merched Cymru

Nid i'w ddrysu gyda'r actor John Glyn-Jones na'r bardd a Phrif Weithredwr gyntaf Tai Clwyd, John Glyn Jones

Capten John Glynn-Jones
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Roedd y Capten John Glynn-Jones neu, i nifer, Capten Glynn yn gyn-filwr a sefydlydd Clybiau Bechgyn a Merched Cymru. Mynychodd Ysgol Sirol Llanrwst.[1]

Milwr golygu

Bu'n filwr gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig rhwng 1912-22 [2] gan ennill y Croes Filwrol ('Military Cross') yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf am iddo lwyddo i gynorthwyo 10 o'i gyd-filwyr oedd wedi eu hanfu mewn brwydr i ddiogelwch er gwaethaf tanio cyson arnynt gan y gelyn.[1]

Clybiau Bechgyn a Merched Cymru golygu

Yn 1922 dechreuod Capten John Glynn-Jones ('Capten Glynn') a David Davies Llandinam, ŵyr y diwydiannwr enwog greu clwb i fechgyn a meibion glowyr pylloedd y De.

Bu Capten Glynn sy'n gweithio fel swyddog lles yn yrr Ocean Group, sef, grŵp Glofeydd Davies oedd â phyllau glo ledled De Cymru. Wrth ystyried y problemau wynebau “meibion y cloier”. dechreuodd ddatblygu'r syniad o glwb lle gallai'r bechgyn fwynhau ymarfer corff iach, gweithgareddau diwylliannol, disgyblaeth a datblygu cyfrifoldeb i'w cymuned eu hunain.

Agorwyd y Clwb Bechgyn cyntaf yn swyddogol yn Nhreharris yn 1923 gyda Clybiau Bechgyn eraill ledled Cymoedd y De yn Nant-y-moel, Ton Pentre, Treorci, Wattstown a Nine Mile Point a cynheliwyd y cyfarfod cyffredinol blynyddol cyntaf ym mis Mai yng Nghaerdydd lle cytunwyd ar gynlluniau ar gyfer y 12 mis nesaf.

Ar ôl cyfnod arbrofol o bythefnos yn 1925, yng Ngwersyll Sain Tathan, agorwyd y Gwersyll i aelodau o bob Clwb Bechgyn. Yr enw swyddogol oedd “Gwersyll Glan y Môr Pwyllgor Cronfa Les y Glowyr” oherwydd rhoddion o gronfa lles y plant dan oed. Gobaith Capten Glynn oedd gorfodi'r undod rhwng y gwahanol glybiau gyda chymorth y gwersyll.

Ym mis Gorffennaf 1928 cynheliwyd y gynhadledd flynyddol gyntaf gydag arweinwyr clybiau, aelodau'r pwyllgor rheoli ac ysgrifenyddion y chwe chlwb bechgyn cyntaf ym Mhentref Sain Tathan. Ddeufis yn ddiweddarach, mae'r clybiau presennol yn uno fel Ffederasiwn Clybiau Bechgyn De Cymru ('The South Wales Federation of Boys’ Clubs'). Yn 1947 ymestynodd Ffederasiwn De Cymru i dod yn Cymdeithas Clybiau Bechgyn Cymru

Yn 1998 newidiodd y sefydliad ei henw eto i Clybiau Bechgyn a Merched Cymru.

Gwersyllt Sain Tathan golygu

Wedi cyfnod o segurdod ac adfail, gwerthwyd gwersyllt y Clwb Bechgyn yn 2012 i gwmni datblygu i'w droi'n gartrefi.[3]

Yn ystod ei oes, bu'r Gwersyllt ganolfan i brentisiaid, hostel ieuenctid a chanolfan filwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[3]

Cofeb Rhyfel Gweryllt Clwb Bechgyn golygu

Adeiladwyd y gofeb ym 1930 ac mae'n wahanol iawn i eraill a welwyd mewn llawer o bentrefi ledled y DU. Nid oes ganddo enwau unigolion, ond mae'n nodi ei fod yn gofeb sydd wedi'i chofrestru er cof am ieuenctid yr holl genhedloedd a syrthiodd.

Ar ddiwedd pob wythnos gwersyll ers 1930, byddent yn cynnal gwasanaeth coffa yno i atgoffa pobl ifanc o'u haberth a sut y dylai cysylltiadau rhyngwladol, nid rhyfel, fod yn ffordd o ddod o hyd i heddwch.[4] Llwyddwyd i gadw cofeb ryfel y Gwersyllt oedd yn hynod oherwydd nad oedd yn enwi milwyr unigol ond, yn hytrach, "milwyr o bob cenedl" bu farw yn y Rhyfel Mawr.</ref>[5]</ref>

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 https://www.casgliadywerin.cymru/items/515762
  2. https://discovery.nationalarchives.gov.uk/details/r/C1087357?descriptiontype=Full&ref=WO+339/33456
  3. 3.0 3.1 https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/site-former-boys-village-earmarked-2022896
  4. "Boys and Girls Clubs attend special Remembrance event at Boys Village". Unknown parameter |gwefan= ignored (help); Unknown parameter |adalwyd= ignored (help)[dolen marw]
  5. "Derelict Boys' Village holiday camp in West Aberthaw up for sale". Unknown parameter |gwefan= ignored (help); Unknown parameter |adalwyd= ignored (help)