Caradog Roberts
Roedd Caradog Roberts (30 Hydref 1878 – 3 Mawrth 1935) yn gyfansoddwr, organydd a chorfeistr Cymraeg.[1]
Caradog Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 30 Hydref 1878 Rhosllannerchrugog |
Bu farw | 3 Mawrth 1935 Wrecsam |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfansoddwr |
Cafodd Roberts ei eni yn Rhosllannerchrugog yn fab i John a Margaret Roberts. Roedd ganddo dalent cerddorol ers ei blentyndod, gan gystadlu mewn ac ennill nifer o wobrau mewn eisteddfodau.[2]
Astudiodd y piano a'r organ, gan ddod yn organydd capel yr Annibynwyr Mynydd Seion, Ponciau o 1894 i 1903. Daeth yn organydd yng Nghapel yr Annibynwyr Bethlehem, Rhosllanerchrugog y flwyddyn wedyn, gan barhau i wneud hynny tan ei farwolaeth. Graddiodd yn Rhydychen gyda B.Mus (1906) a D. Mus (1911)[3] O 1914 i 1920, ef oedd Cyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Bangor.
Roedd Roberts yn un o olygyddion y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd [4] (1921), llyfr emynau yr Annibynwyr Cymraeg, ynghyd â Chaniedydd Newydd yr Ysgol Sul (1930), llyfr emynau'r Ysgol Sul yr un enwad.
Roedd Roberts yn gyfansoddwr ac yn drefnydd tonau emynau toreithiog, gyda nifer ohonynt wedi ymddangos mewn nifer o lyfrau emynau Cymraeg. Ymhlith y mwyaf adnabyddus mae Rachie (emyn-dôn) ac In Memoriam, teyrnged Harry Evans, y cyfansoddwr Cymraeg .
Bu farw yn Wrecsam, Sir Ddinbych, ar 3 Mawrth 1935, a chafodd ei gladdu ym mynwent Rhosllannerchrugog.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dr Caradog Roberts". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-09. Cyrchwyd 8 November 2016.
- ↑ Welsh Biography Online
- ↑ Evans, Robert; Humphreys, Maggie; Dictionary of Composers for the Church in Great Britain and Ireland.
- ↑ Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd ar Google Books