Cardinal (Yr Eglwys Gatholig)
(Ailgyfeiriad o Cardinal (Eglwys Gatholig))
Un o brif swyddogion yr Eglwys Gatholig Rufeinig ac aelod o Goleg y Cardinaliaid yw cardinal.[1] Ymhlith ei swyddogaethau mae ethol y pab, cynghori'r pab, a llywodraethu'r Eglwys Gatholig drwy Lys y Pab. Fel rheol, esgob neu archesgob dros esgobaeth fawr yw cardinal, ac weithiau'n llysgennad ar ran Esgobaeth y Pab.[2]
Y teitl "Arucheledd"[3] yw'r dull o gyfarch cardinal, ac fe'i elwir hefyd yn "Dywysog yr Eglwys".
Cyferiadau
golygu- ↑ cardinal. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 23 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) cardinal (Roman Catholicism). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ionawr 2017.
- ↑ Geiriadur yr Academi, [eminence: Your Eminence].