Carl Hermann Ethé

Athro Almaenig, Prifysgol Aberystwyth, arbenigwr Oriental, Rhyfel Mawr

Roedd Carl Hermann Ethé neu Hermann Ethé (13 Chwefror 18447 Mehefin 1917) yn Ddwyreiniwr neu Orientalydd o'r Almaen.

Carl Hermann Ethé
Ganwyd13 Chwefror 1844 Edit this on Wikidata
Stralsund Edit this on Wikidata
Bu farw7 Mehefin 1917 Edit this on Wikidata
Bryste Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethdwyreinydd Edit this on Wikidata
Plac Hermann Ethé, Aberystwyth

Mae fwyaf adnabyddus yng Nghymru, bellach, oherwydd ei driniaeth adeg Rhyfel Mawr ond, y tu allan cofir ef yn bennaf am ei gatalog o lawysgrifau Islamaidd a'i astudiaethau a chyfieithiadau Almaeneg o farddoniaeth Persieg.[1]

Bu'n Athro Almaeneg ac Ieithoedd Dwyreiniol, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn ystod y Rhyfel Mawr.[2] Fe dargedwyd ef a'i wraig yn frwnt yn ystod y rhyfel oherwydd eu cenedligrwydd.[3]. Bu'n rhaid iddynt ffoi o'u cartref yn Ffordd Caradog yn y dref ym mis Hydref 1914. Bu farw Ethé ym Mryste yn 1917. Ceir plac llechen, tair ieithog (Cymraeg, Saesneg, Almaeneg) ar safle hen Gapel Seilo ar stryd Morfa Mawr lle mae Canolfan y Morlan bellach, yn Aberystwyth i gofnodi'r ffaith iddynt cael eu herlid o'u cartref.

Ymysg ei gyfieithiadau mae rhan gyntaf cosmograffi Zakariya al-Qazwini, Ajā'ib al-makhlūqāt wa gharā'ib al-mawjūdāt (Rhyfeddod y Greadigaeth, The Wonders of Creation, Die Wunder der Schöpfung yn ei Almaeneg ef) a gyhoeddwyd yn 1868.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "ETHÉ, CARL HERMANN – Encyclopaedia Iranica". Iranicaonline.org. Cyrchwyd 2017-10-10.
  2. "Professor Carl Hermann Ethé (1844-1917) and his experiences during the First World War" (PDF). Cyrchwyd 2017-10-10.
  3. "BBC Blogs - Wales - The story of Professor Hermanne Ethé and the Aberystwyth 1914 riot". Bbc.co.uk. Cyrchwyd 2017-10-10.