Carlos Denis Molina
Bardd, dramodydd a nofelydd yn yr iaith Sbaeneg ac actor a chyfarwyddwr theatr o Wrwgwái oedd Carlos Denis Molina (1918 – 1983).
Carlos Denis Molina | |
---|---|
Ganwyd | 1918, 1916 San José |
Bu farw | 19 Awst 1983 Montevideo |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Galwedigaeth | llenor |
Ganed yn San José de Mayo yn Nhalaith San José. Gweithiodd yn actor ac yn gyfarwyddwr y Teatro Solís. Cafodd lwyddiant gyda'r ddrama Orfeo (1949), gyda Margarita Xirgu yn y brif ran. Mynegir ei weledigaeth absẃrd mewn sawl drama, gan gynnwys Soñar con Ceci trae cola (1983) sydd yn dychanu'r unbennaeth sifil-filwrol yn Wrwgwái. Ei nofel bwysicaf ydy Lloverá siempre (1950), un o brif weithiau'r genre realaeth hudol yn llên Wrwgwái. Bu farw ym Montevideo.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Norah Giraldi Dei Cas, "Denis Molina, Carlos" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 175.