Theatr yr absẃrd

Mudiad drama a flodeuai yn Ewrop yn y 1950au a'r 1960au yn bennaf oedd theatr yr absẃrd sydd yn ymwneud â dirfodaeth mewn arddull anghonfensiynol, yn aml trwy ddulliau dychan, swrealaeth, a chomedi ddu. Ei nod yw defnyddio technegau'r "disynnwyr"—megis dialog di-drefn, ailadroddiad, cymeriadaeth ddadleoledig, ymddygiad annealladwy, plotiau direswm, diffyg stori, ac afrealaeth—i ddisgrifio anghytgord ac afresymoldeb y profiad dynol yn y byd annynol, gan beri i'r gynulleidfa deimlo effeithiau'r absẃrd: colled, diffyg pwrpas, a phenbleth.[1] Tarddodd yn Ffrainc, ar sail athroniaeth un o brif ladmeryddion dirfodaeth, Albert Camus, a honnai natur absẃrd a diffyg pwrpas sefyllfa'r ddynolryw yn ei ysgrif "Le Mythe de Sisyphe" (1942). Mynegir felly pesimistiaeth wrth ymdrin â'r chwilfa am ystyr bywyd ac ymdrech dyn i reoli ei ffawd, gan haeru bod yr hynny yn ofer, a phortreadir yr anobaith, dryswch, a phryder o ganlyniad i fyfyrio ar y cwestiynau hyn. Bathwyd y term gan y beirniad theatr o Hwngari Martin Esslin yn ei gyfrol Saesneg The Theatre of the Absurd (1961).

Yr esiampl gynharaf o theatr yr absẃrd yw'r "wrth-ddrama" La Cantatrice chauve (1950) gan Eugène Ionesco, sydd yn portreadu ymddieithriad a cham-gyfathrebu rhwng unigolion. Un o glasuron y genre ydy En attendant Godot (1952) gan Samuel Beckett, gwaith ailadroddus sydd yn hepgor plot i greu golygfa ddiamser ac ansicr. Mae'r ddwy ddrama honno yn cynnwys yr elfen gomig, neu drasigomig, gref sydd yn gyffredin yn theatr yr absẃrd. Ymhlith y dramodwyr eraill yn yr iaith Ffrangeg a gysylltir â theatr yr absẃrd mae Jean Genet ac Arthur Adamov.

Iaith yw un o brif dechnegau'r dramodydd wrth gyfleu'r absẃrd ar y llwyfan. Dialog afrealistig sydd yn awgrymu dryswch a geir yn y ddrama abswrdaidd, yn llawn ystrydebau, chwarae ar eiriau, ailadroddiad, a datganiadau nad ydynt yn dilyn yr hyn a ddaw o'r blaen. O ran y stori, nid oes fawr o lunio plot na datblygiad yn hynt y cymeriadau. Nid oes llawer o ddigwyddiadau na chyffro yn yr ystyr ddramataidd arferol; os perfformir ystumiau gwyllt a phrysur gan yr actorion ar y llwyfan, mae hynny ond yn pwysleisio oferedd eu hymdrechion i bennu eu bodolaeth eu hunain.[2] Tynnai theatr yr absẃrd yn sylweddol ar adloniant poblogaidd, megis meim, clownio, ac acrobateg, a thraddodiadau comedi, gan gynnwys commedia dell'arte, vaudeville, a'r neuadd gerdd.[1][2] Yn ogystal, dylanwadwyd ar y genre gan fudiadau swrealaeth a mynegiadaeth yn y celfyddydau, a'r cyfuniad o realaeth a ffantasi a arloeswyd gan yr awdur Franz Kafka.[2]

Er nad oedd "abswrdiaeth" yn fudiad llenyddol ffurfiol, lledaenodd arddulliau a themâu theatr yr absẃrd ar draws Ewrop, yn enwedig i'r gwledydd Almaeneg. Cafodd ei throsglwyddo hefyd i'r theatr Saesneg, er enghraifft yng ngwaith Harold Pinter yn Lloegr ac Edward Albee yn Unol Daleithiau America. Dirywiodd theatr yr absẃrd erbyn diwedd y 1960au, ond cafodd technegau newydd y genre eu mabwysiadu gan mudiadau'r theatr arbrofol yn ogystal â nifer o ddramodwyr y brif ffrwd.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Dinah Birch (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009).
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Theatre of the Absurd. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Hydref 2022.