Carn Ingli
Bryn ym mynyddoedd y Preselau yn Sir Benfro yw Carn Ingli neu Mynydd Carningli. Saif ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i'r de o Drefdraeth. Ef yw'r pellaf i'r gogledd-orllewin o gopaon y Preselau.
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 346 metr |
Cyfesurynnau | 51.9984°N 4.8245°W |
Cod OS | SN0624337231 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 232 metr |
Rhiant gopa | Foel Cwmcerwyn |
Cadwyn fynydd | Mynydd Preseli |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Olion cynhanesyddol
golyguMae Carn Ingli yn nodedig am y nifer fawr o olion o Oes yr Efydd a geir ar ei lethrau, gyda gweddillion tali a charnedd o'r cyfnod yma. Ceir hefyd fryngaer o Oes yr Haearn ar y copa, gydag olion tai (gweler isod). Ymddengys fod Carn Ingli o bwysigrwydd arbennig yn y cyfnodau hyn. Mae'r henebion hyn yn cynnwys sawl crug crwn o Oes yr Efydd.
Bryngaer
golyguMae muriau o gerrig wedi cael eu codi rhwng y creigiau ym mhen y bryn i ffurfio bryngaer. Mae'r muriau hyn yn ymestyn ar ffurf gylchog ymhell i lawr y llethrau i gyfeiriad y de-orllewin hefyd hefyd, gan amgau o'u mewn nifer o derasau.
Tybir gan archaeolegwyr y byddai'r gaer hon yn lloches dda i gymuned o ffermwyr lleol a ddibynnai ar gadw gwartheg; ffordd nodweddiadol Geltaidd o fyw.[1]
Hanes diweddarach
golyguYn ddiweddarach, dywedir i Sant Brynach fyw mewn ogof ar Garn Ingli, ac i angylion ymweld ag ef yno. Er nad oes sicrwydd am y safle, efallai mai yma yr ymladdwyd Brwydr Mynydd Carn yn 1081.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber and Faber, 1978).