Buwch
Gwartheg | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Bovidae |
Is-deulu: | Bovinae |
Genws: | Bos |
Rhywogaeth: | B. taurus |
Enw deuenwol | |
Bos taurus Linnaeus, 1758 |

Anifail dof yw buwch (lluosog buchod). Maent yn cael eu magu am eu llefrith a'u cig. Tarw yw enw'r gwryw, a llo yw'r epil. Gelwir anifail gwryw sydd wedi ei ysbaddu yn fustach. Mae'r enw lluosog gwartheg yn cwmpasu'r cwbl, yn wryw, benyw ac epil a'r term am dorf ydy 'buches o wartheg'.
Hanes y fuwch Golygu
Defnyddid gwartheg i aredig cyn gynhared â'r Oes Efydd ac erbyn yr Oes Haearn ceid amryw o fathau, yn cynnwys y fuwch Geltaidd fechan fyrgorn; o'r hon y tarddodd y rhan fwyaf o'r bridiau llaethog modern. Yng Nghyfraith Hywel disgrifir gweddoedd o 2, 4, 6 neu 8 ychen yn tynnu aradr. Roedd gwartheg yn unedau ariannol a thardda'r gair 'cyfalaf' o 'alaf' sef y gair am yrr o wartheg.
Tan y 16 - 17g symudid gwartheg yn dymhorol rhwng hafod a hendre ynghyd â geifr ac ychydig ddefaid, ond erbyn y 18g porid y mynydd-dir bellach gan ddefaid yn unig. Cynyddodd y farchnad i wartheg Cymreig yn Lloegr yn sylweddol wrth i boblogaeth y dinasoedd dyfu'n gyflym trwy'r 18 - 19g. Fe'u cerddwyd gan borthmyn i ffeiriau Canolbarth a De-ddwyrain Lloegr.
Ceid amryw o fridiau Cymreig, e.e. gwartheg Morgannwg, Maldwyn, Môn, Penfro a llawer o amrywiaethau lleol. Hefyd gwartheg gwynion hanner gwylltion Dinefwr a'r Faenol. O'r 1850au, trosglwyddid anifeiliaid yn bennaf ar y rheilffyrdd a newidiodd y galw am anifeiliaid bychan caled i rai mwy a gwell eu cyflwr. Yn raddol, disodlwyd y ffeiriau pentref gan y martiau - a leolid ar fin y rheilffyrdd.
Sefydlwyd Cofrestrau Pedigri i wartheg Penfro yn 1874, a Môn yn 1883, a'u cyfuno yn 1905 i ffurfio Bucheslyfr y Gwartheg Duon Cymreig, sy'n frîd rhyngwladol-bwysig erbyn hyn. Diflannodd gwartheg Morgannwg a Maldwyn ddiwedd y 19g. Trwy'r 20g gwellhaodd ansawdd a chynnyrch bridiau yn sylweddol pan sefydlwyd Cymdeithasau Teirw o 1914, y Bwrdd Marchnata Llaeth yn 1933, ffrwythloni artiffisial o'r 1950au a throsglwyddo embryonau o'r 1990au.
Yn y 1950au gwartheg duon Cymreig gynhyrchai'r rhan fwyaf o'r llaeth ar yr ucheldir a buchesi Byrgorn neu Ayrshire ar dir gwaelod. Cynhyrchid cig yn bennaf trwy groesi'r gwartheg â theirw Henffordd. Erbyn y 1960au roedd buchesi bychain y beudy wedi eu newid am fuchesi mwy o wartheg Friesian-Holstein mewn parlyrau godro, i'w croesi â theirw cyfandirol am gig. Aeth ffermydd yr ucheldir i arbenigo mewn cig eidion a defaid a disodlwyd y tarw Henffordd i groesi gan y Charolais a'r Limousin yn y 1970au - 80au.
Ych Golygu
Arferai gwartheg (gwrywaidd gan amlaf) dynnu cerbydau neu erydr ar ffermydd, er bod yr arfer hwn bellach wedi dod i ben yng Nghymru a gwledydd datblygedig eraill yn sgil dyfodiad y tractor. Gelwir bustach sydd wedi ei fagu at waith tynnu yn ych. Fe ddefnyddir ychen i aredig, i dynnu trol, cert, coed neu lwyth arall ac i weithio pwmp dŵr i ddyfrhau. Yr enw torfol yw 'gyrr o wartheg'.
Gan amlaf defnyddir dau ych i weithio ar y cyd a rhoddid iau ar eu gwarrau fel bod y gwaith tynnu yn cael ei rannu ar draws eu hysgwyddau. Dewisir ychen â chyrn ganddynt at y gwaith fel bod modd defnyddio’r cyrn i gadw’r iau yn ei le pan fydd yr ychen yn arafu, yn cerdded am yn ôl neu yn gostwng eu pennau.
Cynhyrchu modern Golygu
Llaeth - Caiff buchod eu godro â pheiriant mewn parlwr godro ddwywaith y dydd a chedwir y llaeth i'w gasglu gan dancer - lori o hufenfa leol yn ddyddiol neu bob yn eilddydd. Yn y parlwr herringbôn arferol gellir godro oddeutu 20 o wartheg ar unwaith a thros 100 mewn awr. Cyrhaedda cynnyrch llaeth uchafbwynt o tua 40 litr y fuwch y dydd am tua deufis, cyn lleihau'n raddol nes i'r fuwch gael ei hesbio wedi 10 mis, iddi gryfhau cyn dechrau llaetha eto ar enedigaeth ei llo nesa.
Yn y gaeaf cedwir buchod llaeth dan do a'u bwydo â gwair, silwair a dwysfwyd. Dros yr haf byddant yn pori allan a derbyn dwysfwyd wrth odro. Ond erbyn yr 20g ceid ffermydd yng Nghymru lle cedwir y gwartheg dan do drwy gydol y flwyddyn, heb i'r fuwch weld blewyn o laswellt Er mwyn cael llo bob blwyddyn i laetha defnyddir tarw potel o frîd pur neu o frîd cig. Maint y buchesi llaeth yw 60 - 80, gyda dros 80% yn Friesian-Holstein a'r gweddill yn Ayrshire, Jersey a Guernsey.
Cig - O'r 4 - 6 llo gynhyrcha buwch laeth dim ond un, o frîd pur, fydd ei angen i gymryd lle'r fuwch. Felly gall y gweddill fod yn groesiadau â bridiau eraill ar gyfer eu cig. Daw y rhan fwyaf o'r cig a fwytawn felly o'r fuches laeth.
Erbyn y 21g, y bridiau cig pwysicaf yng Nghymru oedd y Du Cymreig, Henffordd, Byrgorn, Aberdeen Angus a'r Charolais, Limousin a Simental cyfandirol. Ceir cig eidion o'r ansawdd orau o'r bridiau cig pur, a cheir sawl dull o'i gynhyrchu. Ar ucheldir Cymru cedwir yr anifeiliaid dan do dros y gaeaf fel arfer, a'u bwydo ar wair neu silwair. Pori allan wnânt dros yr haf a bydd y bustych a'r heffrod yn barod i'w lladd pan fyddant bron yn 300 kg.
Cymru Golygu
Gofyn tarw ac ymadroddion eraill Golygu
Drwy Ogledd Cymru, hyd at Machynlleth, a ffin afon Dyfi, 'gofyn tarw' yw'r ymadrodd mwyaf cyffredin a cheir ymadrodd ddigon tebyg ym Morgannwg: 'mofyn tarw'. Yng Ngheredigion dywedir fod y fuwch yn 'wasod'.[1] Sonia Cyfraith Hywel Dda (14g) am "weithred tarw gra geisso gwartheg gwasawt o galan Mei hyd galan gaeaf." Mae dwy ardal ar wahân yn defnyddio'r un term, 'eisiau tarw', sef yr hen Sir Fflint a chanol Powys.
Ym Morgannwg hefyd arferid defnyddio: 'yn erlid' ac 'yn ysu'.[2]
Ar Ynys Môn, ar whân i'r arfordir dwyreiniol, defnyddir: 'tryfenydd', 'tyrfenydd' neu 'derefnydd' am fuwch yn ei gwres. Cofnodir hyn gyntaf yn Llyfr Iorwerth yn y 13g: "Ny deleyr dale y teyru o hanner haf hyt Aust nac ar yt nac ar wellt, canys en er amser hunnu y byd teruenyd e guarthec prouadwy..." Dywedir ‘Mae’r terfenydd arni’ a defnyddir y termau hyn mewn mannau yn Arfon.
Nodweddion Golygu
Anatomeg Golygu
Mae gwartheg yn garnolyn bedeircoes, sy'n famal. Mae gan y mwyafrif o fridiau gyrn, a all fod mor fawr â'r chyrn y Texas Longhorn neu'n fach fel y ffug-gorn a elwir yn "sgwr". Drwy ddethol genetig gofalus, ceir hefyd gwartheg di-gyrn, sy'n olygfa eitha cyffredin.
System dreulio Golygu
Mae gwartheg yn gilgnowyr (anifeiliaid sy'n cnoi cil), sy'n golygu bod eu system dreulio yn hynod o arbenigol ac sy'n caniatáu bwyta planhigion anodd eu treulio. Mae gan wartheg un stumog gyda phedair adran, y rwmen, y reticwlwm, omaswm, ac abomaswm. Y rwmen yw'r fwyaf. Gelwir y reticwlwm, y sef yr adran leiaf, yn "ddiliau". Prif swyddogaeth yr omaswm yw amsugno dŵr a maetholion o'r porthiant (glaswellt fel rheol). Mae'r abomasum yn debyg i'r stumog ddynol; dyma pam mae'n cael ei adnabod fel "y gwir stumog".
Mae gwartheg yn nodedig am ail-cnoi eu bwyd, a gelwir hyn yn "gnoi cil" (cilgnoi). Tra bo'r anifail yn bwydo, mae'r bwyd yn cael ei lyncu heb gael ei gnoi ac yn mynd i mewn i'r rwmen i'w storio nes bo'r anifail yn gallu dod o hyd i le tawel i barhau â'r broses dreulio. Gall 'gnoi cil' hefyd olygu person yn ystyried rhywbeth neu'i gilydd. Caiff y bwyd ei yrru'n ol i'r geg i'w ail-gnoi, llond ceg ar y tro, lle mae'r bwyd, a elwir yn awr y cil, yn cael ei gnoi gan y cilddannedd, gan falu'r llystyfiant bras yn ronynnau bach. Yna mae'r ciw yn cael ei lyncu eto a'i dreulio ymhellach gan ficro-organebau arbenigol yn y rwmen. Mae'r microbau hyn yn bennaf gyfrifol am ddadelfennu seliwlos a charbohydradau eraill yn asidau brasterog cadwyn-fer (<i>short-chain fatty acid</i>) y mae gwartheg yn eu defnyddio fel eu prif danwydd metabolig.
Mae'r microbau yn y rwmen hefyd yn syntheseiddio asidau amino o ffynonellau nitrogenaidd nad ydynt yn brotein, fel wrea ac amonia. Wrth i'r microbau hyn atgynhyrchu yn y rwmen, mae cenedlaethau hŷn yn marw ac mae eu celloedd yn parhau trwy'r llwybr treulio. Yna caiff y celloedd hyn eu treulio'n rhannol yn y coluddion bach, gan ganiatáu i wartheg gael ffynhonnell brotein o ansawdd uchel. Mae'r nodweddion hyn yn galluogi gwartheg i ffynnu ar wair a llystyfiant caled arall.
Beichiogrwydd Golygu
Mae cyfnod beichiogrwydd buwch tua'r un cyfnod a merch feichiog: naw mis. Gall maint llo newydd-anedig amrywio rhwng bridiau, ond mae llo nodweddiadol yn pwyso 25 i 45 cilogram (55 i 99 pwys). Gall maint a phwysau yr oedolion amrywio'n sylweddol rhwng bridiau a rhyw. Yn gyffredinol mae bustych yn cael eu lladd cyn cyrraedd 750 kg. Gall stoc bridio fyw cyhyd â 25 mlynedd. Bu farw’r fuwch hynaf a gofnodwyd, Big Bertha, yn 48 oed ym 1993.
Atgynhyrchu Golygu
Ar ffermydd, y dyddiau hyn, mae'n gyffredin iawn defnyddio ffrwythloni artiffisial (AI), sef techneg atgenhedlu â chymorth meddygol sy'n cynnwys rhoi sampl artiffisial o semen yng ngwain y fuwch.[3] Fe'i defnyddir mewn achosion lle na all y sbermatosoa gyrraedd y tiwbiau ffalopaidd neu os yw'r ffermwr yn dewis AI am ryw reswm ee nad oes ganddo darw, neu i wella genynau'r epil.Mae AI yn golygu trosglwyddo, i'r groth y sbermatosoa a gasglwyd ac a broseswyd yn flaenorol, gan ddewis sbermatosoa normal a bywiog.
Mae pwrs buwch yn cynnwys dau bâr o chwarennau laeth, (a elwir yn gyffredin yn dethi) gan greu pedwar "chwarter". [4] Cyfeirir at y rhai blaen fel chwarteri blaen a'r rhai cefn fel chwarteri cefn.[5]
Gellir cydamseru ofyliad gwartheg er budd ffermio llaeth yn yr un modd ag y gwneir gyda defaid, er mwyn i'r wyn (neu'r lloi) cael eu geni ar amser arbennig.
Mae’r gymhareb rhyw eilaidd – y gymhareb o epil gwrywaidd i fenyw adeg eu geni – tua 52:48, er y gall gael ei ddylanwadu gan ffactorau amgylcheddol ayb.[6] Mae teirw'n dod yn ffrwythlon tua saith mis oed. Ceir cysylltiad agos rhwng eu ffrwythlondeb a maint eu ceilliau, ac un prawf ffrwythlondeb syml yw mesur cylchedd y sgrotwm (sef cwd y tarw): mae tarw ifanc yn debygol o fod yn ffrwythlon unwaith y bydd ei gwd yn cyrraedd 28 cm (11 mod); gall cwd tarw llawndwf fod dros 40 cm (16 mod) o ran cylchedd.
Mae gan darw bidyn ffibr-elastig. O ystyried y swm bach o feinwe i'w godi, nid chwyddo llawer ar ôl codi. Mae'r pidyn yn eithaf caled pan nad yw'n codi.[7][8][9]
Pwysau Golygu
Record y byd am y tarw trymaf yw 1,740 kg, sef buwch o'r Eidal o fath Chianina o'r enw Donetto, pan gafodd ei arddangos yn sioe Arezzo, yn rhanbarth Toscana, yn 1955.[10] Roedd y bustach trymaf yn wyth oed 'Old Ben', ac o frid cymysg byrgorn / Henffordd a oedd yn pwyso 2,140 kg yn 1910.[11]
Yn yr Unol Daleithiau, mae pwysau cyfartalog gwartheg cig eidion wedi cynyddu'n raddol, yn enwedig ers y 1970au, gan olygu bod angen adeiladu lladd-dai newydd sy'n gallu trin carcasau llawer mwy. Ochr yn ochr â hyn, mae'r stecs a roddir ar blatiau bwyd yr Americanwyr hefyd wedi cynyddu.[12] Cyn 1790 pwysau cyfartalog gwartheg yn America oedd 160 kg (350 pwys).[13][14]
Synhwyrau Golygu
Mae gwartheg yn defnyddio pob un o'r pum synnwyr, sy'n cynorthwyo gyda rhai patrymau ymddygiad cymhleth, er enghraifft, pori. Mae gwartheg yn bwyta diet cymysg, ond pan gânt y cyfle, maent yn dangos ffafriaeth rannol i borthiant o tua 70% meillion a 30% glaswellt. Ar ben hyn, gwyddus fod un well gan wartheg feillion yn y bore, a glaswellt gyda'r nos.[16]
Golwg Golygu
Golwg yw'r prif synnwyr mewn gwartheg ac maent yn cael bron i 50% o'u gwybodaeth yn weledol.[17]
Mae gwartheg yn anifeiliaid a all fod yn ysglyfaeth i nifer o gigyswyr; mae eu llygaid wedi'u lleoli ar ochrau eu pen yn hytrach na'r blaen. Mae hyn yn rhoi maes gweld eang iddynt o 330° ond yn cyfyngu ar olwg ysbienddrych (ac felly stereopsis) i 30° - 50° o'i gymharu â 140° mewn bodau dynol.[18][19] Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw fan dall yn union y tu ôl iddyn nhw. Mae'r hyn a welant yn eitha manwl[18][17].
Mae gan wartheg ddau fath o dderbynyddion lliw yng nghelloedd côn eu retinas . Golyga hyn bod gwartheg yn ddeucromatig (yn gweld dau liw, nid tri), fel y rhan fwyaf o famaliaid tir eraill nad ydynt yn primatiaid.[20][21] Mae dwy i dair gwialen fesul côn yn y fovea centralis ond pump i chwech ger y papila optig.[19] Gall gwartheg wahaniaethu rhwng lliwiau tonfedd byr (melyn, oren a choch) yn llawer gwell na'r thonfeddi hirach (glas, llwyd a gwyrdd). Gall lloi wahaniaethu rhwng tonfeddi hir (coch) a byr (glas) neu ganolig (gwyrdd), ond mae eu gallu i wahaniaethu rhwng y byr a'r canolig yn gyfyngedig. Maent hefyd yn mynd at y ffermwr sy'n eu bwydo yn gyflymach o dan olau coch.[22] Er bod ganddo sensitifrwydd lliw da, nid yw cystal â bodau dynol neu ddefaid.[18]
Camsyniad cyffredin am wartheg (yn enwedig teirw) yw eu bod yn cael eu cynddeiriogi gan y lliw coch (dywedir weithiau fod dweud rhywbeth pryfoclyd "fel dangos baner goch i darw"). Myth yw hyn! Mewn ymladd teirw, symudiad y faner goch neu fantell goch sy'n cythruddo'r tarw ac yn ei gymell i ymosod, ac nid y lliw.[23]
Blas Golygu
Mae gan wartheg synnwyr blas datblygedig a gallant wahaniaethu rhwng y pedwar blas sylfaenol (melys, hallt, chwerw a sur). Mae ganddyn nhw tua 20,000 o flasbwyntiau. Mae cryfder canfyddiad blas yn dibynnu ar ofynion bwyd presennol yr unigolyn. Maent yn osgoi bwydydd â blas chwerw (a allai fod yn wenwynig) ac mae ganddynt ffafriaeth amlwg at fwydydd melys (gwerth caloriffig uchel) a hallt (cydbwysedd electrolyte). Mae eu sensitifrwydd i fwydydd blasu sur yn eu helpu i gynnal y pH gorau posibl.[17]
Mae gan blanhigion lefelau isel o sodiwm ac mae gwartheg wedi datblygu'r gallu i chwilio am halen trwy flas ac arogl. Gall dderbynyddion arogleuol ganfod symiau bach iawn o halwynau sodiwm.[24][25]
Clyw Golygu
Mae clyw gwartheg yn amrywio o 23 Hz i 35 kHz. Eu hamlder sensitifrwydd gorau yw 8 kHz ac mae ganddynt drothwy isaf o −21 db (re 20 μN/m −2 ), sy'n golygu bod eu clyw yn fwy acíwt na cheffylau (trothwy isaf o 7 db).[26] Trothwy craffter lleoleiddio sain ar gyfartaledd yw 30°. Mae hyn yn golygu bod gwartheg yn llai abl i leoleiddio synau o gymharu â geifr (18°), cŵn (8°) a bodau dynol (0.8°).[27]
Mae brefu'n ddull pwysig o gyfathrebu ymhlith gwartheg a gall y swn hwn ddarparu gwybodaeth am oedran, rhyw, statws goruchafiaeth a statws atgenhedlu'r galwr. Gall lloi adnabod eu mamau o'u brefu.[28]
Ymddygiad Golygu
O dan amodau naturiol, mae lloi'n aros gyda'u mam nes eu bod wedi diddyfnu yn 8 i 11 mis oed. Dyfnu yw llo'n sugno llaeth ei fam. Mae lloi heffrod a tharw yr un mor gysylltiedig â'u mamau yn ystod misoedd cyntaf eu bywydau.[29][30]
Mae lloi sy'n cael eu magu ar gyfer cig eidion sy’n cael eu magu ar dir pori yn sugno 5.0 gwaith bob 24 awr gyda chyfanswm amser cyfartalog o 46 munud a dreuliwyd yn sugno. O ran amser sugno, ceir rhythm dyddiol o sugno gyda'r anterth rhwng 05:00-07:00, 10:00-13:00 a 17:00-21:00.[31]
Ymddygiad atgenhedlu Golygu
Mae heffrod lled-wyllt yr Ucheldir yn rhoi genedigaeth am y tro cyntaf yn 2 neu 3 oed, ac mae amseriad geni yn cael ei gydamseru â ansawdd y bwyd naturiol. Y cyfwng lloia ar gyfartaledd yw 391 diwrnod, ac mae marwolaethau lloi o fewn blwyddyn gyntaf bywyd yn 5%.[32]
Dofi a hwsmonaeth Golygu
Mae gan wartheg rôl unigryw yn hanes y ddynolryw, ar ôl cael eu dofi ers yOes Newydd y Cerrig o leiaf.
Mae data archaeolegol a genetig yn dangos i wartheg gael eu dofi am y tro cyntaf o aurochiaid gwyllt (Bos primigenius ) tua 10,500 o flynyddoedd yn ôl. Roedd dwy prif ardal lle cawsant eu dofi: un yn y Dwyrain Agos (yn benodol ganolog Anatolia, y Lefant a Gorllewin Iran), a arweiniodd at y llinell thawrin, ac ail yn yr ardal a elwir bellach yn Pacistan, gan arwain at y llinell indicin.[33] Mae amrywiad DNA mitocondriaidd modern yn dangos y gallai'r llinell thawrin fod wedi codi o gyn lleied ag 80 auroch wedi'u dofi yn y rhannau uchaf o Mesopotamia ger pentrefi Çayönü Tepesi yn yr hyn sydd bellach yn dde-ddwyrain Twrci a Dja'de el-Mughara yn yr hyn sydd bellach yn ogledd Syria.[34]
Er bod gwartheg Ewropeaidd yn disgyn yn bennaf o'r llinach taurin, cyfrannodd llif genynnau gwartheg Affricanaidd yn sylweddol i fridiau gwartheg o dde Ewrop a'u disgynyddion Byd Newydd.[33] Dangosodd astudiaeth ar 134 o fridiau fod gwartheg tawrin modern yn tarddu o Affrica, Asia, Gogledd a De America, Awstralia ac Ewrop.[35] Mae rhai ymchwilwyr wedi awgrymu bod gwartheg taurin Affricanaidd yn deillio o drydydd system o ddofi annibynnol sef o'r aurochsen yng Nggledd Affrica.[33]
Defnydd fel arian Golygu
Mor gynnar â 9000 CC defnyddiwyd grawn a gwartheg fel arian neu fel cyfnewidyn (barter). Mae'r olion grawn cyntaf a ddarganfuwyd, yn perthyn i'r cyfnod cyn-amaethyddol, ac yn dyddio i 17,000 CC).[36][37][38] Mae peth tystiolaeth hefyd i awgrymu y gallai anifeiliaid eraill, megis camelod a geifr, fod wedi cael eu defnyddio fel arian cyfred mewn rhai rhannau o'r byd.[39] Un o fanteision defnyddio gwartheg fel arian cyfred (ac fel cyfnewidion) yw ei fod yn caniatáu i'r gwerthwr osod pris sefydlog. Am y tro cyntaf, felly, gwelwyd rhywbeth a oedd yn ymylu ar 'bris safonol'. Er enghraifft, roedd dwy iâr yn cael eu masnachu am un fuwch gan fod buchod yn cael eu hystyried yn fwy gwerthfawr nag ieir.[37]
Hwsmonaeth fodern Golygu
Mae gwartheg yn aml yn cael eu magu ar faesydd glaswelltog eang. Fel hyn, defnyddir tir a allai fod yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau. Prif waith yr amaethwr yw bwydo, glanhau a godro, a hynny sawl tro'r bob dydd. Ymhlith y gwaith arall mae tagio clustiau, digornio, llawdriniaethau meddygol, ffrwythloni artiffisial, brechiadau a gofal am y carnau, yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer sioeau amaethyddol a pharatoadoi. Ceir rhai gwahaniaethau diwylliannol wrth weithio gyda gwartheg; mae hwsmonaeth gwartheg dynion Fulani yn dibynnu ar dechnegau ymddygiadol, ond yn Ewrop, mae gwartheg yn cael eu rheoli'n bennaf trwy ddulliau corfforol, megis ffensys.[40] Mae bridwyr yn defnyddio hwsmonaeth gwartheg i leihau heintiau megis haint M. bovis trwy fridio detholus a chynnal iechyd y fuches.[41]
Mae gwartheg yn cael eu ffermio ar gyfer cig eidion, cig llo, llaeth a lledr. Cânt eu defnyddio’n llai cyffredin ar gyfer pori cadwraethol, neu’n i gynnal glaswelltir ar gyfer bywyd gwyllt. Fe'u defnyddir yn aml mewn rhai o'r mannau mwyaf gwyllt ar gyfer da byw. Yn dibynnu ar y brid, gall gwartheg oroesi ar fynyddoedd, rhostiroedd, corsydd, gweunydd a lled-anialwch. Mae gwartheg modern yn fwy masnachol na bridiau hŷn ac, ar ôl dod yn fwy arbenigol, ond yn llai amlbwrpas. Am y rheswm hwn, mae llawer o ffermwyr llai yn dal i ffafrio hen fridiau, fel brîd llaeth Jersey. Ym Mhortiwgal, Sbaen (ar wahân i Gatalwnia), de Ffrainc a rhai o wledydd America Ladin, defnyddir teirw i ymladd teirw; Mewn llawer o wledydd eraill mae ymladd teirw'n anghyfreithlon. Fel rhan o rodeo, yn enwedig yng Ngogledd America, ceir marchogaeth teirw. ac mae llamu tarw, defod ganolog yn niwylliant Minoaidd yr Oes Efydd, yn dal i fodoli yn ne-orllewin Ffrainc. Yn y cyfnod modern, mae gwartheg hefyd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau amaethyddol megis Sioe Llanelwedd.
Mae bwyta gwartheg yn llai effeithlon na grawn a llysiau o ran defnydd tir ar blaned sydd a'i boblogaeth yn cynyddu'n aruthrol, ac o ran methan a newid hinsawdd. Mae pori gwartheg yn defnyddio mwy o arwynebedd na chynhyrchiant amaethyddol arall o'i fagu ar rawn.[42] O'i roi'n syml: mae cae 1 acer o rawn yn medru bwydo mwy o bobl na chae 1 acer o wartheg.
Cwsg Golygu
Amser cwsg cyfartalog buwch ddof yw tua 4 awr y dydd.[43] Mae gan wartheg offer cloi meinweoedd y coesau,[44] ond, yn wahanol i geffylau, nid ydynt yn cysgu wrth sefyll;[45] gorweddant i gysgu'n ddwfn.[46][47]
Economi Golygu
Mae cig o wartheg oedolion yn cael ei adnabod fel cig eidion, a cheir hefyd cig llo (veal) mewn ambell iaith. Defnyddir rhannau anifeiliaid eraill hefyd fel cynhyrchion bwyd, gan gynnwys gwaed i wneud pwdin gwaed, afu (neu iau) yr arennau, y galon a chynffon ychen. Mae gwartheg hefyd yn cynhyrchu llaeth, ac mae gwartheg llaeth yn cael eu bridio'n benodol i gynhyrchu'r llynnoedd mawr o laeth sy'n cael ei brosesu a'i werthu i'w yfed gan bobl. Mae gwartheg heddiw'n sail i ddiwydiant gwerth biliynau o ddoleri ledled y byd. Roedd y fasnach ryngwladol mewn cig eidion yn 2000 dros $30 biliwn.[48] Caiff tua 300 miliwn o wartheg, gan gynnwys gwartheg godro, eu lladd bob blwyddyn fel bwyd.[49] Defnyddir llaeth hefyd i wneud caws, menyn, iogwrt, a chynhyrchion llaeth eraill, yn debyg o ran maint economaidd i gynhyrchu cig eidion, ac mae'n darparu rhan bwysig o'r cyflenwad bwyd i lawer o wledydd y byd. Mae crwyn gwartheg yn cael eu defnyddio i wneud lledr ar gyfer esgidiau, cadeiriau a soffas.
Prif gynhyrchwyr cig gwartheg Golygu
Gwlad | 2008 | 2009 | 2010 | 2011 |
---|---|---|---|---|
Ariannin | 3132 | 3378 | 2630 | 2497 |
Awstralia | 2132 | 2124 | 2630 | 2420 |
Brasil | 9024 | 9395 | 9115 | 9030 |
Tsieina | 5841 | 6060 | 6244 | 6182 |
Yr Almaen | 1199 | 1190 | 1205 | 1170 |
Japan | 520 | 517 | 515 | 500 |
U.S | 12163 | 11891 | 12046 | 11988 |
Ffynhonnell: Llyfrgell Helgi, [50] Banc y Byd, FAOSTAT
Daw tua hanner cig y byd o wartheg.[51]
Llaeth Golygu
Defnyddir rhai bridiau o wartheg, megis yr Holstein-Friesian, i gynhyrchu llaeth,[52][53]. Mae gwartheg godro fel arfer yn cael eu cadw ar ffermydd llaeth arbenigol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer cynhyrchu llaeth. Yng Nghymru, ceir ffermydd yn 2020au, lle mae'r fuches i fewn mewn sied ddydd a nos, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae’r rhan fwyaf o wartheg yn cael eu godro ddwywaith y dydd, gyda llaeth yn cael ei brosesu mewn llaethdy, a all fod ar y safle ar y fferm neu gall y llaeth gael ei gludo i ffatri laeth er mwyn gwerthu cynnyrch llaeth yn y pen draw.[54] Gellir hybu'n fuwch i greu llaeth trwy gyfuniad o ysgogiadau a thriciau corfforol a seicolegol, gan gyffuriau, neu gan gyfuniad o'r dulliau hyn.[55][56] Er mwyn i'r fam barhau i gynhyrchu llaeth, maent yn rhoi genedigaeth i un llo'r flwyddyn. Os yw'r llo yn wryw, fel arfer caiff ei ladd yn ifanc i gynhyrchu cig llo bach.[57] Bydd y fam-fuwch yn parhau i gynhyrchu llaeth am dair wythnos cyn geni'r llo nesaf.[53] Dros yr hanner can mlynedd diwethaf, mae ffermio llaeth wedi dod yn fwy dwys, ac mae hyn yn rhan o ffermio dwys, mewn gwledydd fel Cymru. Yr Holstein-Friesian yw’r brid o fuchod godro sydd fwyaf cyffredin yn y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Mae wedi'i fridio'n arbennig drwy ddetholiad i gynhyrchu'r cynnyrch llaeth uchaf ei safon. Ceir tua 22 litr y dydd gan un fuwch ar gyfartaledd gwledydd Prydain.[52][53]
Lledr Golygu
Nid yw’r rhan fwyaf o wartheg yn cael eu cadw ar gyfer eu crwyn yn unig, sydd fel arfer yn sgil-gynnyrch cynhyrchu cig eidion. Defnyddir crwyn gwartheg yn bennafcreu ar gyfer lledr. Yn 2012 India oedd cynhyrchydd mwyaf y byd o grwyn gwartheg.[58]
Gweler hefyd Golygu
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Daw'r term yma o 'gosod', mae'n debyg hy gosodir y tarw ar gefn y fuwch sydd mewn gwres.Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd Medi 2015
- ↑ Fferm a Thyddyn; golygydd Twm Elias; Rhif 54, 2014.
- ↑ Richard M. Hopper (18 August 2014). Bovine Reproduction. Wiley. ISBN 978-1-118-47085-5.
- ↑ Hasheider, Phillip (25 June 2011). The Family Cow Handbook. ISBN 978-0-7603-4067-7.
- ↑ "Udder Structure & Disease" (PDF). UVM. 6 May 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 18 May 2015.
- ↑ Roche, J.R.; Lee, J.M.; Berry, D.P. (2006). "Pre-Conception Energy Balance and Secondary Sex Ratio—Partial Support for the Trivers-Willard Hypothesis in Dairy Cows". Journal of Dairy Science (American Dairy Science Association) 89 (6): 2119–2125. doi:10.3168/jds.s0022-0302(06)72282-2. ISSN 0022-0302. https://archive.org/details/sim_journal-of-dairy-science_2006-06_89_6/page/2119.
- ↑ Sarkar, A. (2003). Sexual Behaviour In Animals. Discovery Publishing House. ISBN 978-81-7141-746-9.
- ↑ William O. Reece (2009). Functional Anatomy and Physiology of Domestic Animals. John Wiley & Sons. ISBN 978-0-8138-1451-3.
- ↑ James R. Gillespie; Frank Flanders (2009). Modern Livestock & Poultry Production. Cengage Learning. ISBN 978-1-4283-1808-3.
- ↑ Friend, John B., Cattle of the World, Blandford Press, Dorset, 1978
- ↑ McWhirter, Norris & Ross, Guinness Book of Records, Redwood Press, Trowbridge, 1968
- ↑ Kenneth H. Mathews – 1999 – U.S. Beef Industry: Cattle Cycles, Price Spreads, and Packer concentration. Page 6
- ↑ American Economic Growth and Standards of Living before the Civil War, Robert E. Gallman, John Joseph Wallis. 2007 p. 248
- ↑ "Cattle increasing in size". Beef Magazine. Chwefror 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mai 2015. Cyrchwyd 5 Mai 2015.
- ↑ Proctor, Helen S.; Carder, Gemma (9 Hydref 2014). "Can ear postures reliably measure the positive emotional state of cows?". Applied Animal Behaviour Science 161: 20–27. doi:10.1016/j.applanim.2014.09.015. http://www.appliedanimalbehaviour.com/article/S0168-1591(14)00249-4/abstract.
- ↑ Rutter, S.M. (2006). "Diet preference for grass and legumes in free-ranging domestic sheep and cattle: current theory and future application.". Applied Animal Behaviour Science 97 (1): 17–35. doi:10.1016/j.applanim.2005.11.016.
- ↑ 17.0 17.1 17.2 Adamczyk, K.; Górecka-Bruzda, A.; Nowicki, J.; Gumułka, M.; Molik, E.; Schwarz, T.; Klocek, C. (2015). "Perception of environment in farm animals – A review". Annals of Animal Science 15 (3): 565–589. doi:10.1515/aoas-2015-0031.
- ↑ 18.0 18.1 18.2 Coulon, M.; Baudoin, C.; Heyman, Y.; Deputte, B.L. (2011). "Cattle discriminate between familiar and unfamiliar conspecifics by using only head visual cues". Animal Cognition 14 (2): 279–290. doi:10.1007/s10071-010-0361-6. PMID 21132446.
- ↑ 19.0 19.1 Phillips, C. (2008). Cattle Behaviour and Welfare. John Wiley and Sons.
- ↑ Jacobs, G.H.; Deegan, J.F.; Neitz, J. (1998). "Photopigment basis for dichromatic color vision in cows, goats and sheep". Vis. Neurosci. 15 (3): 581–584. doi:10.1017/s0952523898153154. PMID 9685209.
- ↑ Phillips, C.J.C.; Lomas, C.A. (2001). "Perception of color by cattle and its influence on behavior". Journal of Dairy Science 84 (4): 807–813. doi:10.3168/jds.s0022-0302(01)74537-7. PMID 11352156. https://archive.org/details/sim_journal-of-dairy-science_2001-04_84_4/page/807.
- ↑ Phillips, C.J.C.; Lomas, C.A. (2001). "The perception of color by cattle and its influence on behavior". Journal of Dairy Science 84 (4): 807–813. doi:10.3168/jds.S0022-0302(01)74537-7. PMID 11352156. https://archive.org/details/sim_journal-of-dairy-science_2001-04_84_4/page/807.
- ↑ "Why Do Bulls Charge When they See Red?". Live Science. 6 February 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2015.
- ↑ Bell, F.R.; Sly, J. (1983). "The olfactory detection of sodium and lithium salts by sodium deficient cattle.". Physiology and Behavior 31 (3): 307–312. doi:10.1016/0031-9384(83)90193-2. PMID 6634998.
- ↑ Bell, F. R. (1984). "Aspects of ingestive behavior in cattle". Journal of Animal Science 59 (5): 1369–1372. doi:10.2527/jas1984.5951369x. PMID 6392276. https://archive.org/details/sim_journal-of-animal-science_1984-11_59_5/page/1369.
- ↑ Heffner, R.S.; Heffner, H.E. (1983). "Hearing in large mammals: Horses (Equus caballus) and cattle (Bos taurus)". Behavioral Neuroscience 97 (2): 299–309. doi:10.1037/0735-7044.97.2.299. https://archive.org/details/sim_behavioral-neuroscience_1983-04_97_2/page/299.
- ↑ Heffner, R.S.; Heffner, H.E. (1992). "Hearing in large mammals: sound-localization acuity in cattle (Bos taurus) and goats (Capra hircus)". Journal of Comparative Psychology 106 (2): 107–113. doi:10.1037/0735-7036.106.2.107. PMID 1600717. https://archive.org/details/sim_journal-of-comparative-psychology_1992-06_106_2/page/107.
- ↑ Watts, J.M.; Stookey, J.M. (2000). "Vocal behaviour in cattle: the animal's commentary on its biological processes and welfare". Applied Animal Behaviour Science 67 (1): 15–33. doi:10.1016/S0168-1591(99)00108-2. PMID 10719186.
- ↑ Johnsen, J.F.; Ellingsen, K.; Grøndahl, A.M.; Bøe, K.E.; Lidfors, L.; Mejdell, C.M. (2015). "The effect of physical contact between dairy cows and calves during separation on their post-separation behavioural". Applied Animal Behaviour Science 166: 11–19. doi:10.1016/j.applanim.2015.03.002. https://www.researchgate.net/publication/274013035.
- ↑ Edwards, S.A.; Broom, D.M. (1982). "Behavioural interactions of dairy cows with their newborn calves and the effects of parity". Animal Behaviour 30 (2): 525–535. doi:10.1016/s0003-3472(82)80065-1.
- ↑ Odde, K. G.; Kiracofe, G.H.; Schalles, R.R. (1985). "Suckling behavior in range beef calves". Journal of Animal Science 61 (2): 307–309. doi:10.2527/jas1985.612307x. PMID 4044428. https://archive.org/details/sim_journal-of-animal-science_1985-08_61_2/page/307.
- ↑ Reinhardt, C.; Reinhardt, A.; Reinhardt, V. (1986). "Social behaviour and reproductive performance in semi-wild Scottish Highland cattle". Applied Animal Behaviour Science 15 (2): 125–136. doi:10.1016/0168-1591(86)90058-4. https://archive.org/details/sim_applied-animal-behaviour-science_1986-05_15_2/page/125.
- ↑ 33.0 33.1 33.2 McTavish, E.J.; Decker, J.E.; Schnabel, R.D.; Taylor, J.F.; Hillis, D.M.year=2013 (2013). "New World cattle show ancestry from multiple independent domestication events". Proc. Natl. Acad. Sci. U.S.A. 110 (15): E1398–1406. Bibcode 2013PNAS..110E1398M. doi:10.1073/pnas.1303367110. PMC 3625352. PMID 23530234. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3625352.
- ↑ Bollongino, R.; Burger, J.; Powell, A.; Mashkour, M.; Vigne, J.-D.; Thomas, M. G. (2012). "Modern taurine cattle descended from small number of Near-Eastern founders". Molecular Biology and Evolution 29 (9): 2101–2104. doi:10.1093/molbev/mss092. PMID 22422765. Op. cit. in Wilkins, Alasdair (28 March 2012). "DNA reveals that cows were almost impossible to domesticate". io9. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 May 2012. Cyrchwyd 2 April 2012.
- ↑ Decker, J.E.; McKay, S.D.; Rolf, M.M.; Kim, J.; Molina Alcalá, A.; Sonstegard, T.S. (2014). "Worldwide patterns of ancestry, divergence, and admixture in domesticated cattle.". PLOS Genet. 10 (3): e1004254. doi:10.1371/journal.pgen.1004254. PMC 3967955. PMID 24675901. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3967955.
- ↑ Gustavo A Slafer; Jose Luis Molina-Cano; Roxana Savin; Jose Luis Araus; Ignacio Romagosa (2002). Barley Science: Recent Advances from Molecular Biology to Agronomy of Yield and Quality. CRC Press. t. 1. ISBN 978-1-56022-910-0.
- ↑ 37.0 37.1 Glyn Davies; Julian Hodge Bank (2002). A history of money: from ancient times to the present day. University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-1717-4.
- ↑ Jesús Huerta de Soto (2006). Money, Bank Credit, and Economic Cycles. Ludwig von Mises Institute. t. 51. ISBN 978-1-61016-388-0.
- ↑ "The History of Money". PBS. Cyrchwyd 15 July 2021.
- ↑ Lott, Dale F.; Hart, Benjamin L. (October 1979). "Applied ethology in a nomadic cattle culture". Applied Animal Ethology 5 (4): 309–319. doi:10.1016/0304-3762(79)90102-0.
- ↑ Bovine tuberculosis in cattle and badgers: an independent scientific review. Ministry of Agriculture, Fisheries and Food. 1997. http://www.defra.gov.uk/animalh/tb/publications/hpanel.pdf. Adalwyd 4 September 2006.
- ↑ Edward O. Wilson, The Future of Life, 2003, Vintage Books, 256 pages ISBN 0-679-76811-4
- ↑ "40 Winks?" Jennifer S. Holland, National Geographic Vol. 220, No. 1. July 2011.
- ↑ Asprea, Lori; Sturtz, Robin (2012). Anatomy and physiology for veterinary technicians and nurses a clinical approach. Chichester: Iowa State University Pre. t. 109. ISBN 978-1-118-40584-0.
- ↑ "Animal MythBusters – Manitoba Veterinary Medical Association". www.mvma.ca. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 April 2016.
- ↑ Collins, Nick (6 September 2013). "Cow tipping myth dispelled". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 April 2016. Cyrchwyd 18 May 2016.
- ↑ Haines, Lester (9 November 2005). "Boffins debunk cow-tipping myth". The Register UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 October 2012. Cyrchwyd 30 November 2012.
- ↑ (Clay 2004).
- ↑ "FAOSTAT". www.fao.org. Cyrchwyd 2019-10-25.
- ↑ | "HelgiLibrary – Cattle Meat Production". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 April 2014. Cyrchwyd 12 February 2014. Cattle Meat Production | 12 February 2014
- ↑ Rickard, G., & Book, I. (1999). Bovids:useful ruminants. In Investigating God's world (3rd ed.). Pensacola, Fla.: A Beka Book.
- ↑ 52.0 52.1 "UK Dairy Cows". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2015. Cyrchwyd 7 May 2015.
- ↑ 53.0 53.1 53.2 "Compassion in World Farming: Dairy Cattle". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2015. Cyrchwyd 7 May 2015.
- ↑ Pearson, R.E.; Fulton, L.A.; Thompson, P.D.; Smith, J.W. (1979). "Milking 3 Times per day". Journal of Dairy Science 62 (12): 1941–1950. doi:10.3168/jds.S0022-0302(79)83526-2. PMID 541464. http://www.journalofdairyscience.org/article/S0022-0302%2879%2983526-2/abstract.
- ↑ Glenza, Jessica (14 February 2018). "Transgender woman able to breastfeed in first documented case".
- ↑ Reisman, Tamar; Goldstein, Zil (2018). "Case Report: Induced Lactation in a Transgender Woman". Transgender Health 3 (1): 24–26. doi:10.1089/trgh.2017.0044. PMC 5779241. PMID 29372185. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5779241.
- ↑ "Veal and the Dairy Industry". Compassion in World Farming. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2015. Cyrchwyd 9 May 2015.
- ↑ "FAO – Cattle Hides" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 28 January 2015. Cyrchwyd 16 May 2015.
- Bhattacharya, S. 2003. Cattle ownership makes it a man's world Archifwyd 7 October 2008 yn y Peiriant Wayback.. Newscientist.com. Retrieved 26 December 2006.
- Cattle Today (CT). 2006. Website. Breeds of cattle. Cattle Today. Retrieved 26 December 2006
- Clay, J. 2004. World Agriculture and the Environment: A Commodity-by-Commodity Guide to Impacts and Practices. Washington, DC: Island Press. ISBN 1-55963-370-0.
- Clutton-Brock, J. 1999. A Natural History of Domesticated Mammals. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 0-521-63495-4.
- Purdy, Herman R.; R. John Dawes; Dr. Robert Hough (2008). Breeds Of Cattle (arg. 2nd). – A visual textbook containing History/Origin, Phenotype & Statistics of 45 breeds.
- Huffman, B. 2006. The ultimate ungulate page. UltimateUngulate.com. Retrieved 26 December 2006.
- Invasive Species Specialist Group (ISSG). 2005. Bos taurus Archifwyd 2008-06-25 yn y Peiriant Wayback.. Global Invasive Species Database.
- Johns, Catherine. 2011 Cattle: History, Myth, Art. London: The British Museum Press. 978-0-7141-5084-0
- Nowak, R.M. and Paradiso, J.L. 1983. Walker's Mammals of the World. Baltimore, MD: The Johns Hopkins University Press. ISBN 0-8018-2525-3
- Oklahoma State University (OSU). 2006. Breeds of Cattle. Retrieved 5 January 2007.
- Public Broadcasting Service (PBS). 2004. Holy cow Archifwyd 2014-10-13 yn y Peiriant Wayback.. PBS Nature. Retrieved 5 January 2007.
- Rath, S. 1998. The Complete Cow. Stillwater, MN: Voyageur Press. ISBN 0-89658-375-9.
- Raudiansky, S. 1992. The Covenant of the Wild. New York: William Morrow and Company, Inc. ISBN 0-688-09610-7.
- Spectrum Commodities (SC). 2006. Live cattle. Spectrumcommodities.com. Retrieved 5 January 2007.
- Voelker, W. 1986. The Natural History of Living Mammals. Medford, NJ: Plexus Publishing, Inc. ISBN 0-937548-08-1.
- Yogananda, P. 1946. The Autobiography of a Yogi. Los Angeles: Self Realization Fellowship. ISBN 0-87612-083-4.