Carnarvonshire (Cambridge County Geographies)

Carnarvonshire yw'r gyfrol yn y gyfres Cambridge County Geographies sy'n ymdrin â'r hen Sir Gaernarfon.[1]

Carnarvonshire
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
Map o Sir Gaernarfon yn y llyfr

Cefndir golygu

Mae Cambridge County Geographies yn gyfres o lyfrau a gyhoeddwyd gan Wasg Brifysgol Caergrawnt yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Cynlluniwyd Cambridge County Geographies i ddarparu cyfres o ganllawiau cryno i rai o siroedd Cymru, Yr Alban a Lloegr. Wedi'u hanelu at y darllenydd cyffredinol, fe wnaethant gyfuno dull cynhwysfawr o ymdrin ag amrywiol agweddau ar ddaearyddiaeth gorfforol a dynol gyda phwyslais ar eglurder. Mae'r llyfrau yn frith o ffotograffau, mapiau a graffiau. Ysgrifennwyd y gyfrol am Sir Gaernarfon gan Syr John Edward Lloyd (186) – 1947) [2] ac fe'i cyhoeddwyd gyntaf ym 1911 gan wasg Brifysgol Caergrawnt. Ailgyhoeddwyd y gyfrol yn 2013,[3] mae'r ailgyhoeddiad dal mewn print. Mae modd darllen y gyfrol wreiddiol ar wefan Internet Archive.[4]

Cynnwys golygu

Mae'r llyfr yn cynnwys 24 pennod sy'n ymdrin â tharddiad ac ystyr yr enw Caernarfon; nodweddion cyffredinol y sir a'i afonydd, llynnoedd ac arfordiroedd yn ogystal a'i phorthladdoedd. Mae'r gyfrol yn ymdrin â hanes pensaernïaeth, enwogion a hynafiaethau'r sir yn ogystal â thrafodaeth am hil, iaith a phoblogaeth. Mae penodau am ddaeareg, hanes naturiol, hinsawdd a diwydiant. Mae hefyd rhestr gyda pharagraff am holl drefi a phentrefi Sir Gaernarfon.

Penodau golygu

Dyma restr o benodau'r gyfrol

  1. County and Shire. Meaning and Origin of the name Carnarvonshire
  2. General Characteristics. Position and Natural Conditions
  3. Size. Shape. Boundaries
  4. Surface and General Features
  5. Watersheds. Rivers. Lakes
  6. Geology
  7. Natural History
  8. A Peregrination of the Coast
  9. Coastal Gains and Losses. Coast Protection
  10. Climate
  11. People, Race, Language, Population
  12. Agriculture
  13. Industries Mines and Quarries
  14. Shipping. Ports. Fisheries
  15. History of the County to the Edwardian Conquest
  16. Later History of the County
  17. Antiquities
  18. Architecture (a) Ecclesiastical. Abbeys and Churches
  19. Architecture (b) Military. Castles
  20. Architecture (c) Domestic
  21. Communications Past and Present. Roads and Railways
  22. Divisions Ancient and Modern. Administration
  23. Roll of Honour
  24. The Chief Towns and Villages of Carnarvonshire

Cyfeiriadau golygu

  1. Lloyd, John Edward (1911). Carnarvonshire. Caergrawnt: Gwasg Brifysgol Caergrawnt.
  2. "LLOYD, Syr JOHN EDWARD (1861 - 1947), hanesydd, a golygydd cyntaf y Bywgraffiadur Cymreig. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-12-09.
  3. Lloyd, John Edward, Sir, 1861-1947. (2012). Carnarvonshire. Cambridge: Cambridge University Press. ISBN 978-1-107-64162-4. OCLC 809560487.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  4. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-12-08.