Talaith yn Slofenia yw Carniola (Slofeneg Kranjska, Almaeneg Krain). Dan reolaeth Ymerodraeth Awstria-Hwngari, tir y goron, Dugaeth Carniola (Herzogtum Krain), ydoedd. Rhennir y dalaith yn dair rhan: Carniola Uchaf, Carniola Isaf a Carniola Fewnol. Prifddinas wreiddiol y dalaith oedd Krainburg (heddiw Kranj), ond symudwyd y brifddinas wedyn i Laibach (heddiw Ljubljana). Diddymwyd y ddugaeth yn 1918, pryd ymgorfforwyd o fewn Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (wedyn Teyrnas Iwgoslafia). Heddiw mae'r dalaith o fewn Gweriniaeth Slofenia, lle mae'n llunio rhan fwya'r wlad.

Carniola
Mathmers Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlKranj Edit this on Wikidata
NawddsantAgathius Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAwstria-Hwngari Edit this on Wikidata
GwladBaner Slofenia Slofenia
Uwch y môr400 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46°N 14.5°E Edit this on Wikidata
Map
Map o Slofenia yn dangos Carniola Uchaf (2a), Carniola Fewnol (2b) a Carniola Isaf (2c), (4) Styria Isaf (Styria Slofenia)
Eginyn erthygl sydd uchod am Slofenia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato