Caroline Fox
Dyddiadurwr a gohebydd o Gernyw oedd Caroline Fox (24 Mai 1819 – 12 Ionawr 1871). Cofnododd, drwy ei dyddiaduron, atgofion sawl person nodedig, gan gynnwys John Stuart Mill a Thomas Carlyle.
Caroline Fox | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mai 1819, 1819 Aberfal |
Bu farw | 12 Ionawr 1871, 1871 |
Dinasyddiaeth | Cernyw |
Galwedigaeth | dyddiadurwr |
Tad | Robert Were Fox |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Caroline Fox ar 24 Mai 1819 ym Mhenjerrick, tŷ mawr ger Aberfal (Falmouth), fel un o bump o blant Robert Were Fox FRS, dyfeisiwr, o deulu dylanwadol Fox yn Aberfal a'i wraig, Maria Barclay. Roedd y ddau yn Grynwyr. Caroline oedd chwaer iau Barclay Fox, a oedd hefyd yn ddyddiadurwr, ac Anna Maria Fox, un o sefydlwyr a hyrwyddwyr Cymdeithas Polytechnig Frenhinol Cernyw.[1]
Mae dyddiaduron adnabyddus Caroline yn cofnodi atgofion am bobl o fri fel John Stuart Mill, John Sterling a Thomas Carlyle. Ymddangosodd detholiadau o'i dyddiadur a'i llythyrau (1835-1871) fel Atgofion am Hen Ffrindiau: Caroline Fox o Penjerrick, Cernyw .[2][3] Ymddangosodd detholiad o'r argraffiad Fictoraidd ym 1972.
Helpodd Caroline Fox a'i chwaer Anna Maria i sefydlu Cymdeithas Polytechnig Frenhinol Cernyw yn Falmouth.[4]
Bu farw Caroline Fox ar 12 Ionawr 1871 a chladdwyd hi ym Mynwent y Crynwyr yn Roseglos (Budock) gyda'i chwaer Anna.[4]
Darllen pellach
golygu- Fox, Caroline (1972). Wendy Monk (gol.). The journals of Caroline Fox, 1835–1871: a selection. London: Paul Elek. ISBN 0-236-15447-8.
- Tod, Robert (1980). Caroline Fox, Quaker blue-stocking 1819–1871, friend of John Stuart Mill, Thomas and Jane Carlyle, Frederick Denison Maurice and helper of sailors in distress. York: Sessions. ISBN 0-900657-54-5.
- Harris, Wilson (1944). Caroline Fox. London: Constable..[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Virginia Blain, Patricia Clements and Isobel Grundy, eds., The Feminist Companion to Literature in English. Women Writers from the Middle Ages to the Present, London: Batsford, 1990, p. 390.
- ↑ Edited by H. N. Pym, 1881; 2nd edition, 1882.
- ↑ For detail on this and her relations with members of the Fox family, see Horace Pym.
- ↑ 4.0 4.1 Biography. Retrieved 30 October 2020.
- ↑ (Henry) Wilson Harris (1883–1955), journalist and author (Biographer of Caroline Fox), appears in ODNB: Derek Hudson, "Harris, (Henry) Wilson (1883–1955)", rev. Marc Brodie, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 , retrieved 10 December 2007] His parents were Plymouth Quakers.