Dyddiadur

cofnod ysgrifenedig gyda chofnodion wedi'u trefnu yn ôl y dyddiad

Cofnod o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn ôl dyddiad yw dyddiadur (weithiau dyddlyfr), yn draddodiadol ar ffurf ysgrifenedig mewn llyfr. Gall ddyddiadur personol gynnwys manylion ar brofiadau'r awdur, eu teimladau a'i meddyliau, yn cynnwys sylwadau ar ddigwyddiadau'r dydd neu am brofiadau'r awdur. Gelwir rhywun sy'n cadw dyddiadur yn ddyddiadurwr. Mae dyddiaduron ar gyfer defnydd sefydliadol yn rhan sylfaenol o wareiddiad dynol, yn cynnwys cofnodion llywodraethol (e. e. Cofnod y Trafodion yng Nghynulliad Cymru, llyfr cyfrifon busnes a chofnod o wasanaeth milwrol.

Atgynhyrchiad o ddyddiadur Anne Frank mewn arddangosfa yn Berlin

Erbyn heddiw defnyddir y gair ar gyfer dyddiaduron personol fel arfer, gyda'r bwriad o'u cadw'n breifat neu gylchrediad cyfyngedig gyda ffrindiau neu berthnasau. Cedwir dyddiaduron yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn y Llyfrgell Genedlaethol a chyfrifir Hafina Clwyd yn ddyddiadurwraig fodern nodedig.[1]

Er bod dyddiadur yn gallu cofnodi manylion ar gyfer cofiant, hunangofiant neu fywgraffiad, nid yw fel arfer wedi ei ysgrifennu gyda'r bwriad o'i gyhoeddi fel y mae, ond ar gyfer defnydd yr awdur ei hun. Yn y blynyddoedd diweddar fod bynnag, mae tystiolaeth o fewn rhai dyddiaduron (e.e. Ned Rorem, Alan Clark, Tony Benn neu Simon Gray) bod rhai awduron yn ei hysgrifennu gyda'r bwriad o'i chyhoeddi yn y pen draw (cyn neu ar ôl marwolaeth) neu er elw.

Drwy estyniad mae'r gair dyddiadur yn cael ei ymestyn i gyhoeddi dyddiadur ysgrifenedig mewn llyfr; ac fe all gyfeirio at fathau arall o gofnodi yn cynnwys mewn fformat electronig (e.e. blogiau).

Dyddiadurwyr Cymreig golygu

Ymhlith y dyddiadurwyr Cymreig y mae:

  • Y Parch. John Jones, M.A. (1773-1853).[2]
  • William Jones, ffermwr bychan ddiwedd oes Fictoria a dechrau'r 20g. Mae ei gofnodion amgylcheddol (tywydd, gweithgareddau fferm etc.) i'w gweld ar wefan Llên Natur.[3] Defnyddir cofnodion y ffermwr mewn cymhariaeth a chofnodion tywydd heddiw er mwyn ymchwilio i gynhesu byd-eang.
  • D. Tecwyn Lloyd (22 Hydref 1914 - 22 Awst 1992)
  • William Ambrose Bebb (4 Gorffennaf 1894 – 27 Ebrill 1955). Mae'r dyddiaduron, yn bennaf, yn cofnodi ei fywyd teuluol, ei waith yn ddarlithydd ac awdur, bywyd y capel ayb.
  • Richard Burton (10 Tachwedd 1925 – 5 Awst 1984). Cadwodd Burton ddyddiaduron o 1939 hyd at ei farwolaeth ac fe'u cedwir ym Mhrifysgol Abertawe.[4]

Dyddiaduron Cledwyn Roberts o Gonwy golygu

Cedwir 18 cyfrol o ddyddiaduron yr Arglwydd Wyn Roberts o Gonwy yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Maent yn cynnwys deunydd o'r cyfnod 1970 - 1995 tra roedd yn y Swyddfa Gymreig ac yn llefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig ac yn cynnwys ei fyfyrdodau ar ddigwyddiadau'r dydd gyda llythyron rhwng yr Arglwydd Roberts a'r farwnes Margaret Thatcher, Syr John Major a Syr Edward Heath, nodiadau amrywiol a thoriadau o'r wasg.

Mae'r dyddiaduron yn cyfeirio at ystod eang o bynciau gan gynnwys Etholiadau Cyffredinol, ymddiswyddiad Thatcher a Rhyfel y Malvinas, ond mae llawer iawn yn ymwneud â materion Cymreig.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu