Cassie Davies

addysgydd a chenedlaetholwraig

CefndirGolygu

Cassie Davies
Ganwyd20 Mawrth 1898  
Tregaron  
Bu farw17 Ebrill 1988  
Dinasyddiaeth  Cymru
Galwedigaethathro  

Ganwyd Cassie Davies (1898 - 1988)[1] yn Tregaron, yn 1898. Magwyd hi yn un o ddeg o blant mewn teulu llengar a cherddgar.    

Addysgwyd hi yn ysgol fach Blaencaron, ac yna yn y ‘Cownti Sgŵl’ yn Nhregaron, lle bu iddi gael ei dysgu gan S. M. Powell.  Dyma un o’r prif ddylanwadau ar y Cassie ifanc, gyda’i gwersi wedi’u gwreiddio yn hanes, chwedlau a thraddodiadau’r ardal.  

Symudodd ymlaen i astudio Saesneg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, ac er iddi ennill ei gradd nid effeithiodd y cwrs arni o gwbl, ac felly aeth yn ôl i ennill ail radd yn y Gymraeg.  Yn ystod y cwrs hwn “…yr enynnwyd fy niddordeb diollwng i yn fy iaith fy hun.  Dyma’r pryd y dechreuais i ddod yn ymwybodol o’m gwreiddiau a’m hetifeddiaeth fel Cymro…”.[2]

Bu’n ddarlithydd yng Ngholeg Addysg y Barri rhwng 1923 ac 1938.

Bu farw yn 1988. Gosodwyd cofeb iddi ar wal Capel Blaencaron gan Gangen Plaid Cymru Tregaron gyda’r geiriau canlynol wedi’u hysgrifennu arni: Bu’n hwb i’w bro a’i gwlad.

Plaid CymruGolygu

Yn ystod Ysgol Haf gyntaf Plaid Cymru ym Machynlleth yn 1926, ymunodd Cassie â’r Blaid gan gwrdd â rhai o’i ffrindiau oes yno, pobl fel Saunders Lewis, Kate Roberts a D.J. Williams.  Aeth yn ôl i’r Bari a sefydlu cangen o’r Blaid yno, a bu ei gwaith gyda Phlaid Cymru yn ddiflino wedi’r haf hwnnw.  

Yn 1938 penodwyd hi yn Arolygydd Ysgolion, gyda gofal arbennig dros y Gymraeg. Yn y swydd hon y daeth hi i adnabod Cymru, gan flasu ac ymgolli yn niwylliannau amrywiol ei gwlad; o Ben Llŷn i’r Rhondda, Morgannwg a Phenfro. Lle bynnag yr âi, hoffai ddim mwy ’na dod i adnabod cymeriadau’r ardal a rhannu ambell i stori neu gân.[3]

Trafodir dylanwad S. M. Powell ar Cassie Davies a nifer o arweinwyr cynnar eraill Plaid Cymru yn narlith yr Athro E. Wyn James, ‘“Gweld gwlad fawr yn ymagor”: Breuddwyd Cyffrous G. J. Williams a Saunders Lewis’, http://www.hanesplaidcymru.org/english-cofio-yr-athro-griffith-john-williams-ai-wraig-elizabeth/.


CyfeiriadauGolygu

  1. Archifau Cymru: Cassie Davies Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback.
  2. Davies, Cassie (1973). Hwb i'r galon. Gwasg John Parry.
  3. Elin, Mari. "Cassie Davies". Prosiect Drudwen. Cyrchwyd 22/03/2018. Check date values in: |access-date= (help)


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.