Castell Caerffili
Castell yng nghanol tref Caerffili a adeiladwyd rhwng 1268 a 1271 yw Castell Caerffili. Castell tua 1.2ha cydganol yw e gyda ffos o'i gwmpas. Hwn yw'r castell mwyaf yng Nghymru a'r ail fwyaf yng ngwledydd Prydain.
![]() Awyrlun o'r castell | |
Math | castell ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Caerffili ![]() |
Sir | Caerffili |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 1.2 ha ![]() |
Uwch y môr | 94.9 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.576052°N 3.220333°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Gilbert de Clare, 7th Earl of Gloucester ![]() |
Manylion | |
HanesGolygu
Adeiladwyd y castell ar safle hen gaer Rufeinig gynharach, gan Gilbert de Clare, Arglwydd Morgannwg a oedd o dras Normanaidd. Yr amcan oedd rhwystro'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd rhag ychwanegu'r tiroedd i'w Dywysogaeth. Llwyddodd Llywelyn gipio'r castell yn 1270 ond mewn blwyddyn roedd de Clare yn dechrau ailadeilad'r castell eto.[1]
Yn ystod gwrthryfel Llywelyn Bren yn 1316 ymosododd y Cymry ar y castell. Ymosododd rhan o fyddin Owain Glyndŵr arno hefyd.
Chafodd y castell ddim llawer o ddifrod adeg Rhyfel Cartref Lloegr (1642-1648) ar wahân i'r tŵr de-orllewinol a ddechreuodd wyro.
AdeiladwaithGolygu
Mae Caerffili yn gastell consentrig a amgylchynir gan ffosydd dŵr a chylchoedd o dir. Mae'r tŵr de-orllewinol yn 80 troedfedd o uchder ond yn gwyro allan 13 troedfedd.
Cadwraeth a mynediadGolygu
Mae Castell Caerffili ar rhestr Cadw ac yn hawdd i gyrraedd o ganol tref Caerffili.
LlyfryddiaethGolygu
- William Rees, Caerphilly Castle, a history and description (1937)
- H. P. Richards, A History of Caerphilly (1975)
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Over Wales Pitkin Unichrome 2000