Oes y Tywysogion
Oes y Tywysogion yw'r enw a arferir i ddynodi'r cyfnod yn hanes Cymru sy'n ymestyn o tua chanol yr 11g, pan gyrhaeddodd y Normaniaid, i gwymp Tywysogaeth Gwynedd i goron Lloegr yn 1284.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | agwedd o hanes ![]() |
---|---|
Yn cynnwys | history of Gwynedd during the High Middle Ages ![]() |
Gwladwriaeth | Cymru ![]() |
Rhai uchafbwyntiau golygu
- 1067 - Y Normaniaid yn cyrraedd ffin Cymru ac yn dechrau codi cestyll a chipio tir.
- Tua 1070 - Yn sgîl ymsefydlu'r Normaniaid mae mynachaeth Ladinaidd yn cyrraedd Cymru o'r cyfandir.
- 1075-93 - Teyrnasiad Rhys ap Tewdwr yn Neheubarth.
- 1090 - Y Normaniaid yn dechrau goresgyn de a gorllewin y wlad.
- Tua 1108 - Coloni o Fflemingiaid yn cael ei sefydlu ar lannau aber Afon Cleddau, yn Sir Benfro, gan Harri I o Loegr.
- 1115 - Esgobaethau Tyddewi a Llandaf ym meddiant y Normaniaid.
- 1118 - Gruffudd ap Cynan yn ehangu Teyrnas Gwynedd.
- 1120 - Canoneiddio Dewi Sant gan Eglwys Rufain.
- 1136 - Sieffre o Fynwy yn ysgrifennu ei lyfr dylanwadol Historia Regum Britanniae.
- 1137-70 - Owain Gwynedd yn teyrnasu yn y gogledd.
- 1140 - Sefydlu Abaty'r Tŷ Gwyn gan y Sistersiaid
- 1160 - Marw Madog ap Maredudd a diwedd Powys unedig.
- 1165 - Harri II o Loegr yn arwain cyrch mawr ar Gymru ond yn cael ei drechu gan y Cymry dan Owain Gwynedd.
- 1170-97 - Yr Arglwydd Rhys yn teyrnasu yn y de.
- 1176 - Eisteddfod Aberteifi dan nawdd yr Arglwydd Rhys yn ei gastell yn Aberteifi.
- 1188 - Gerallt Gymro a Baldwin, Archesgob Caergaint, yn teithio trwy Gymru.
- 1196-1240 - Teyrnasiad Llywelyn Fawr (Llywelyn ap Iorwerth), Tywysog Cymru, yng Ngwynedd.
- 1205 - Llywelyn Fawr yn priodi Siwan, ferch y brenin John o Loegr.
- 1216 - Cynhadledd fawr o'r Cymry yn Aberdyfi yn cydnabod Llywelyn Fawr yn Dywysog ar Gymru.
- 1218 - Cytundeb Caerwrangon a'r brenin Harri III o Loegr yn cydnabod safle Llywelyn.
- 1240-46 - Teyrnasiad Dafydd ap Llywelyn. Gwynedd yn colli tir sylweddol yn 1240-1, ond yn ennill y tir yn ôl achos ymgyrch milwrol Dafydd yn 1244-5.
- 1246-82 - Teyrnasiad Llywelyn Ein Llyw Olaf (Llywelyn ap Gruffudd), Tywysog Cymru.
- 1258 - Llywelyn ap Gruffudd yn arglwydd ar Wynedd a Phowys ac yn mabwysiadu'r teitl 'Tywysog Cymru'.
- 1267 - Coron Lloegr yn cydnabod Llywelyn ap Gruffudd yn Dywysog Cymru gyda Cytundeb Trefaldwyn.
- 1276-77 - Rhyfel Annibyniaeth Cyntaf Cymru.
- 1282-83 - Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru. Lladd Llywelyn ap Gruffudd a dal a dienyddio ei frawd Dafydd ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Eryri dan warchae am naw mis gan y Saeson.
Concwest araf golygu
Roedd concro neu orchfygu Cymru yn broses araf. Goresgynnodd y Normaniaid ddwyrain Cymru am y tro cyntaf tua diwedd yr 11g. Dros gyfnod o 200 o flynyddoedd, llwyddodd arglwyddi Seisnig, yn raddol, i gymryd rheolaeth dros ddwyrain a de Cymru. Gelwid yr arglwyddi Seisnig hyn yn arglwyddi’r mers. Yn ystod y cyfnod hwn, bu llawer o frwydrau rhwng tywysogion Cymru ac arglwyddi’r mers.
Roedd tri prif reswm pam y cymerodd dros 200 mlynedd i orchfygu Cymru;
- Roedd llawer o deyrnasoedd bychan yng Nghymru. Dim ond darnau bach o Gymru y gallai’r Saeson eu gorchfygu ar y tro.
- Roedd y Cymry’n defnyddio tacteg o’r enw herwryfela neu ryfela gerila. Roedd hyn yn golygu llawer o ymosodiadau bach yn hytrach nag un frwydr fawr. Yn aml, byddent yn ymosod ac yna’n rhedeg i ffwrdd.
- Roedd yn anodd i’r Saeson deithio’n gyflym trwy Gymru oherwydd y mynyddoedd a’r coedwigoedd. Roedd y mynyddoedd a’r coedwigoedd mawr yn golygu bod gan y Cymry rywle i guddio hefyd.
Gweler hefyd golygu
Llyfryddiaeth golygu
- A. D. Carr, Llywelyn ap Gruffudd (Caerdydd, 1982)
- R. R. Davies, The Age of Conquest. Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991). ISBN 0198201982
- J. E. Lloyd, History of Wales to the Edwardian Conquest, 2 gyfrol (1911)
- J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). ISBN 0708308448
- David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984)