Castell Cyfarthfa
Plas, sydd yn awr yn amgueddfa, ger Merthyr Tudful yw Castell Cyfarthfa. Saif i'r gogledd o ganol Merthyr, yng nghymuned y Parc.
Olion Castell Morlais | |
Math | plasty |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Y Parc |
Sir | Merthyr Tudful |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 218 metr |
Cyfesurynnau | 51.7564°N 3.38969°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Adeiladwyd y plas yn 1824 i William Crawshay II, perchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa. Saif mewn parc 158 acres (0.64 km2) o arwynebedd, ac roedd yn cynnig golygfeydd tarawiadol o Waith Haearn Cyfarthfa yr ochr arall i Afon Taf.
Cynlluniwyd yr adeilad gan y pensaer Robert Lugar, fu hefyd yn gyfrifol am lawer o bontydd rheilffordd yn yr ardal. Roedd cost yr adeilad yn £30,000 (yn cyfateb i £2,104,964.72 yn 2007). Mae wedi ei gynllunio i edrych fel castell canoloesol, gyda noweddion Normanaidd a Gothig; gellir cymharu Castell Penrhyn ger Bangor.
Mae'r castell yn amgueddfa ac oriel bellach, sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol
- Oriel, Gwefan Old Merthyr Tydfil
Oriel
golygu-
Tu blaen y castell
-
Tu blaen
-
Copi o injan stêm Richard Trevithick, 1804