Castell Penrhyn
Tŷ gwledig ydy Castell Penrhyn, sy'n sefyll mewn parcdir eang ar bwys pentref Llandygái ger Bangor, Gwynedd. Mae hi wedi ei hadeiladu ar ffurf castell Normanaidd. Mae'r hanes tu ôl iddo yn gysylltiedig â'r fasnach gaethweision, trwy Richard Pennant a'i deulu[1], yn ogystal ac â dioddefaint pobl leol oherwydd rôl y teulu Pennant yn y ddiwydiant llechi.[2]
Math | castell, tŷ caerog |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystad y Penrhyn |
Lleoliad | Llandygái |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 48.4 metr |
Cyfesurynnau | 53.2259°N 4.09462°W |
Rheolir gan | yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth yr Adfywiad Romanésg |
Perchnogaeth | Edward Gordon Douglas-Pennant, Barwn 1af Penrhyn, George Hay Dawkins-Pennant, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Hanes
golyguYn wreiddiol, roedd Castell Penrhyn yn faenordy canoloesol caerog, a sefydlwyd gan Ednyfed Fychan yn hanner cyntaf y 13g. Yn 1438, cafodd Ioan ap Gruffudd drwydded i'w droi'n amddiffynfa gaerog (trwydded crenellate) a chodwyd cadarnle a gorthwr yno. Ail-adeiladodd Samuel Wyatt yr adeilad yn y 1780au.
Adeiladwyd y castell presennol rhwng 1820 a 1845 i gynlluniau Thomas Hopper, a ymestynnodd a thrawsnewidiodd yr adeilad yn llwyr. Er hyn, mae grisiau troellog o'r adeilad gwreiddiol yn dal i'w gweld yn y seler bwaog a chynhwyswyd hen waith maen yn y strwythur newydd. Mae o'n un o'r ffug gestyll y 19g a edmygir fwyaf; galwodd Christopher Hussey hi'n, "the outstanding instance of Norman revival." [3] Mae'r castell yn gyfansoddiad darluniadol sy'n ymestyn dros 600 troedfedd sgwâr sy'n cynnwys ystafelloedd teuluol, ac yn y prif floc a adeiladwyd o amgylch yr adeilad gwreiddiol mae stablau ac adain gwasanaeth.
Dyluniodd Hopper yr holl addurniadau mewnol cyntaf mewn steil cyfoethog ond cynnil Normanaidd, gyda llawr o waith plastr a cherfio pren a charreg manwl. Mae gan y castell hefyd ychydig o ddodrefn a ddyluniwyd yn arbennig yn y steil Normanaidd, gan gynnwys gwely o lechi yn pwyso tunnell a ddefnyddiwyd gan y Frenhines Victoria pan ymwelodd hi â'r castell yn 1859 ar un o'i hymweliadau prin â Chymru.
Cleientiaid Hopper oedd y teulu Pennant, a oedd wedi ennill eu cyfoeth drwy siwgr Jamaica a chwareli llechi lleol. Ym 1805, roedd Richard Pennant yn berchen ar 5,000 o gaethweision, ar adeg pan oedd 10 ac 20% o gaethweision a gludwyd o Affrica i Jamaica yn marw ar y daith[1]. Roedd yn ffigwr amlwg o blaid cynnal caethwasiaeth. Tua'r un adeg y cwblhawyd Castell Penrhyn, gwaharddwyd caethwasiaeth a rhyddhawyd 764 o gaethweision y Penantiaid, ond fe'u gwobrwywyd â iawndal o £15,000 (sy'n cyfateb i £1.3 miliwn ar ddechrau'r 21ain ganrif) gan y Llywodraeth[1]. Ni dderbyniodd y caethweision unrhyw iawndal, ac roedd Llywodraeth Prydain yn defnyddio trethi er mwyn ad-dalu'r ddyled a achoswyd gan yr iawndaliadau hael hyd at 2015[4].
Oherwydd ecsbloetio gweithwyr a'r dioddefaint yn ystod Streic Fawr y Penrhyn ym 1900-1903, mae nifer o bobl ardal Bethesda yn gwrthod ymweld â'r Castell.[2]
Yn 1951 derbyniwyd y castell a 40,000 acer (160 km²) o dir gan y Trysorlys yn lle treth etifeddiaeth. Erbyn heddiw mae'n perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae ar agor i'r cyhoedd. Mae atyniadau Penrhyn yn cynnwys gerddi ffurfiol o fewn waliau, gerddi anffurfiol estynedig, amgueddfa ddolïau, Amgueddfa Rheilffordd Castell Penrhyn (amgueddfa rheilffordd fodel), a maes chwarae antur. Ceir golygfeydd o fynyddoedd Eryri oddi yno.
Bywyd pob dydd
golyguCofnodwyd y canlynol yn Nyddiadur D.O. Jones, Tŷ Uchaf, Padog:
“ |
23ain Awst 1940 - ”Mynd i'r Migneint i saethu Grouse hefo Lord Penrhyn. 6 dreif i ben y Gamell ac i Mynydd Tŷ Newydd. Dreif at Tŷ Cipar. Andros o ffrae rhwng y Pen Cipar, Mr Thomas, Plas Padog ar ciperiaid eraill. Lein y Beaters yn mynd yn igam ogam wrth groesi y corsydd ar Grouse yn dianc yn eu holau. Cael cinio ar lan Llyn Conwy a cook Lord Penrhyn yn dod a plateidiau blasus o Rabbit Pei sbar Lord Penrhyn ar byddygions eraill i ni i'w fwyta. Awel braf o'r Llyn”.[5] |
” |
Cost
golyguMae cost adeiladu'r 'castell' estynedig hwn yn ddadleuol. Amcangyfrifwyd iddo gostio tua £150,000 i'r teulu Pennant, sy'n cyfateb i tua £49,500,000 yn arian heddiw.
Ffynonellau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Castell Penrhyn a'r fasnach gaethweision draws-Iwerydd".
- ↑ 2.0 2.1 "Amser symud ymlaen?".
- ↑ English Country Houses: Late Georgian (argraffiad 1988), tudalen 181. ISBN 1-85149-032-9
- ↑ "This article is more than 2 years old The Treasury's tweet shows slavery is still misunderstood". line feed character in
|title=
at position 38 (help) - ↑ Dyddiadur DO Jones, Padog (gyda chaniatad papur bro Yr Odyn a'r teulu)