Castell Cynffig
Un o gestyll y Normaniaid yng Nghymru oedd Castell Cynffig. Saif ei adfeilion yn y tywynni ger pentref Cynffig ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Math | castell, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.529217°N 3.729812°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM042 |
Ymosodwyd ar y castell sawl gwaith gan y Cymry. Cofnodir ymosodiad ar "gastell Cynffig" yn 1080 gan Iestyn ap Gwrgant a'i gipiodd am gyfnod a'i atgyfnerthu, ond mae'n debyg mai castell mwnt a beili cynharach ger Cynffig oedd hwnnw. Pan grewyd bwrdeistref Cynffig codwyd y castell presennol i'w amddiffyn. Cofnodir ymosodiadau arno gan y Cymry yn 1167, 1183, 1232, a 1242, gan Morgan ap Maredudd yn ystod gwrthryfel Madog ap Llywelyn (1295-95), a gan Llywelyn Bren yn 1316.[1]
Erbyn diwedd y 15g roedd bwrdeistref Cynffig a'i gastell yn dechrau cael eu claddu gan y tywod a gadawyd hwy.[1]